Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Y Llefydd Coll
Mae llawer o enwau lleoedd lleol sydd wedi cael eu hanghofio neu eu colli dros y canrifoedd. Mae'r hen gofnodion yn rhestru rhai, a gallai rhywun bron â dyfalu lle y gallent fod wedi bod.
Ond ble oedd Plwca-Halog a beth am Heol-Rhiw'r-Cyrph? Cwestiwn diniwed am ddau enw lle braidd yn sinistr yn y pentref
Ystyr Plwca-Halog yw 'man dienyddio hynafol', ac mae Heol-Rhiw'r-Cyrph yn esbonio’i hun!
Mae British History Online a Cardiff Records (Cyfrol 5) yn awgrymu bod y ddau le yma yn ein pentref, ac yn dyddio o tua 1605; amser maith yn ôl ac mewn oes gythryblus iawn. Oes pan ymladdodd brenhinoedd a breninesau catholig a phrotestanaidd dros eu crefyddau, a 1605, blwyddyn pan fethodd Guto Ffowc a'i gyd-gynllwynwyr yn eu hymgais i ffrwydro’r Senedd yn San Steffan! Yn 1555, llosgwyd Rawlins White wrth y stanc yng nghanol Caerdydd am ei safbwyntiau protestannaidd, ac nid oedd rhyw lawer o flynyddoedd wedi pasio pan fu milwyr piwritanaidd yn brwydro’r brenhinwyr yn y caeau o amgylch ein pentref
Ond ymhle'r oedd y lleoliadau hynafol hyn? A welwyd dienyddio go iawn yn yr Eglwys Newydd ym Mhlwca-Halog? A phwy oedden nhw, yr eneidiau truain a gladdwyd yn nhir anghysegredig Heol-Rhiw'r-Cyrph?
Yn aml, byddai’r mannau dienyddio hyn naill ai'n eithaf amlwg mewn tref (lle gallai pobl leol wylio), neu ar dirnod wrth y fynedfa, i rybuddio eraill am y canlyniadau. Felly ble? Yn agos i hen Eglwys y Santes Fair a thwmpath y castell? Neu efallai ar dir comin Waun Treoda i'r de?
Lle bynnag yr oeddent, mae'r weledigaeth facâbr gyfan yn erchyll ac efallai yn well anghofio amdani; ond cofio efallai fel rhan o'n hanes lleol. Neu ydych chi'n gwybod rhywbeth am y lleoedd hyn?
English
Cymraeg