Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Y Vaughan-iaid o Felindre
Bydd llawer o bobl yn gwybod am deulu Booker Felindre, ond pwy oedd y Vaughan-iaid a beth oedd eu cysylltiad â Felindre?
Cyn i'r teulu Booker a Richard Blakemore, a hyd yn oed cyn i deuluoedd y Crynwyr o dde-orllewin Lloegr ddod yno yn y 18fed ganrif, roedd Felindre a Melin Gruffudd yn dra gwahanol. Dyma’r cyfnod cyn camlas Morgannwg, cyn y rheilffyrdd, a chysylltwyd Melin Gruffudd â gweddill yr Eglwys Newydd gan ffordd wledig syml. Roedd ffordd debyg i'r de tuag at Iard Llandaf, lle'r oedd hen bont dros Afon Taf. Ychydig i'r gogledd, roedd rhyd hynafol i groesi’r afon yn cysylltu â Phentyrch. Ym 1700, disgrifiwyd Felindre fel 'pentref bach â melin'
Mae cerrig beddau ym mynwent yr hen Eglwys Fair ar gyfer aelodau o deulu o'r enw Vaughan a oedd yn byw yn yr Eglwys Newydd bryd hynny. Ganwyd yr hynaf, Joseph Vaughan yn 1697 ac ar ei garreg fedd ceir 'in memory of Joseph Vaughan of Velindra'. Ar ail garreg i Joseph Vaughan arall (ei fab o bosibl) a aned yn 1736 ceir y geiriau ‘in memory of Joseph Vaughan of Velindre in this parish, many years agent at Melin-Griffith works’
Yn ôl pob tebyg, enillodd y Vaughan feddiant o Felindre rywbryd ar ddechrau'r 1720au a nhw fu’n rhedeg yr hen felin a'r efail. Felly, sut fath o dŷ ydoedd ar ddechrau'r 18fed ganrif?
Mae'n debyg bod Felindre yn 'hen' erbyn iddo ddo di ddwylo'r Vaughan-iaid, ac mae'n ddigon posibl ei fod wedi bod yn dŷ neuadd Cymreig canoloesol a adeiladwyd o gerrig gyda tho teils a ffenestri bach â fframiau carreg. Ceir enghreifftiau presennol o dai tebyg ym Morgannwg hyd yn oed heddiw, llawer lle mae'r eiddo wedi ei newid yn helaeth dros ganrifoedd lawer gyda lloriau newydd wedi'u mewnosod a llawer o ychwanegiadau. Mae Tŷ Mawr gerllaw â threftadaeth debyg
Does dim ffordd o wybod, ond yn seiliedig ar Fap y Degwm, mae'n debyg y byddai'r Felindre ym 1700 wedi sefyll ar yr un ôl troed tŷ â'r tŷ 'bonnedd' diweddarach ac y byddai’r fynedfa iddi wedi bod drwy giât a thramwyfa hir oddi ar Velindra Road. Byddai stablau wedi'u lleoli y tu hwnt i’r tŷ. Mae cofnod o 1700 yn disgrifio Felindre fel 'tŷ a gardd', felly nid fferm ac iard yn unig. Mae'r braslun isod yn dangos sut beth oedd y tŷ a'r ardd ym 1700
Erbyn 1788, adnewyddwyd prydles 'Vaughan’s Forge' gan Hartford Partridge & Co gan William Vaughan (ai aelod arall o deulu Joseph Vaughan oedd hwn?). Felly, erbyn y 1770'au, mae'r Vaughan-iaid wedi mynd a'u disodli gan y Crynwyr, sef y Meistri haearn newydd
Byddwn yn archwilio dro arall sut y cafodd Felindre ei 'boneddigeiddio' a'i hymestyn yn fawr dros y 50-100 mlynedd canlynol
Yn y cyfamser, a oes unrhyw un yn gwybod mwy am y Vaughan-iaid a’r Felindre cynnar?
English
Cymraeg