Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Polo yn yr Eglwys Newydd
Polo yn yr Eglwys Newydd
Ar rai o fapiau hŷn yr Eglwys Newydd mae cae y tu ôl i'r cartref angladdau ger y Three Elms, o'r enw 'The Polo Field'. Mae adeiladau drosto erbyn hyn ac nid oes unrhyw arwydd pam yr oedd unwaith ag enw mor anarferol.
Mae Ernest Broad yn ei erthygl 'The Farms of Whitchurch' yn cofio mai 'wrth y fynedfa i'r Cae Polo gan siediau gwartheg oedd y Polo House lle'r oedd ryw Mr Johns yn byw. Roedd y Cae Polo yn bedair erw ar ddeg, cae mawr iawn. Roedd pafiliwn ar y cae lle câi’r chwaraewyr polo eu te'.
Yng Nghyfrifiad 1911, roedd William John, 31 oed, yn byw yn y Polo Ground Cottage, gyda'i wraig May a'u 4 o blant. Mae'n cael ei ddisgrifio fel tirmon, a gyflogid gan y Clwb Polo
Mae'n ymddangos yn rhyfedd y byddai camp fel polo yn cael ei chwarae yn yr Eglwys Newydd, a does dim cydnabyddiaeth leol o hyn. Mae'r Polo Encyclopaedia (oes mae llyfr o'r fath!) yn cynnig help: 'clwb Cymraeg oedd y Cardiff and County a sefydlwyd ym 1903. Mae'r tir yn yr Eglwys Newydd, ger Caerdydd. Godfrey Charles Morgan, Arglwydd Tredegar oedd y llywydd cyntaf. Y twrnament lleol oedd y Cardiff & County Cup; stopiodd y clwb chwarae ym 1914. Lliwiau: porffor tywyll'
Roedd yr Arglwydd Tredegar (o Dŷ Tredegar) wedi bod yn gapten yn y Lancers, un o’r '600' a gymerodd ran yng Nhyrch enwog y Light Brigade yn Balaclava, ac mae cerflun godidog ohono'n eistedd ar ei geffyl, o flaen yr Amgueddfa Genedlaethol yn y dref (gweler y llun isod). Yn amlwg, dyn sydd â'r cefndir cywir i fod yn llywydd y clwb polo
Felly, pwy oedd aelodau'r clwb? Mae'n debyg taw dynion ifanc aristocrataidd yr ardal a fyddai’n marchogaeth â chŵn ac yn mwynhau bywyd breintiedig y cyfoethog. Ond pam orffennodd y clwb yn 1914? Ni ellir ond dyfalu bod yr un dynion a'u merlod polo wedi mynd i ffwrdd i ymladd gyda brwdfrydedd mawr ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, dim ond i drengi yn y gwrthdaro. Bu farw'r Arglwydd Tredegar ei hun ychydig cyn y rhyfel ym 1913.
A beth a ddaeth o'r Cardiff & County Polo Cup?
Nawr mae'r cae polo o dan adeiladau, gyda'r fflatiau yn Nhŷ Nant a'r tai o amgylch Tynewydd a Maes Glas.
Rhag ofn eich bod yn ffansio'r syniad o chwarae polo, dyma rai o'r rheolau:
Chwaraeir Polo ar gae 300 llath o hyd a 200 llath o led (tua maint 6 cae rygbi wedi'u gwasgu ynghyd)
Mae pyst gôl ar bob pen yn 8 llath o led (sydd heb drawst ar y brig felly ni chaiff chwaraewr ei dynnu oddi ar ei geffyl)
Mae pob gêm yn cynnwys 4 chukkas (neu chwarae), pob un ohonynt yn para 7 munud. Gall y gêm gyfan bara dwy awr a hanner – felly mae llawer o oedi yn y chwarae
Mae timau'n cyfnewid pen ar ôl pob chukka neu pan fydd gôl yn cael ei sgorio felly nid yw'r naill dîm na'r llall yn cael mantais o ran tir sydd dan ddŵr neu dyweirch yn codi
Anogir chwaraewyr i herio merlod y gwrthwynebwyr yn gorfforol er mwyn ennill y bêl
Mae 3 dyfarnwr, 2 ar gefn ceffyl a'r trydydd yn yr eisteddle (neu yn achos yr Eglwys Newydd yn ôl pob tebyg yn y pafiliwn)
Mae 4 chwaraewr yn marchogaeth ar bob tîm (ac fel rheol bydd 2 ferlen gan bob chwaraewr am y byddant yn blino)
Ar hanner amser, anogir gwylwyr i gerdded i'r cae er mwyn 'stampio’r tyweirch i lawr'
Offer: Jodhpurs, gordd bren, helmed ac wrth gwrs merlen polo
Defnyddir pêl wen, sydd bellach yn blastig caled, ond yn draddodiadol roedd yn un bambŵ wedi'i orchuddio â lledr
Mae'n ddiddorol bod polo eliffant yn dal i gael ei chwaraeyn ne-ddwyrain Asia, tra yn Tsieina mae polo yak yn boblogaidd
A oes unrhyw un yn gwybod mwy am y clwb polo neu beth ddaeth o'i aelodau yn yr Eglwys Newydd? Neu o William John a'i deulu?
English
Cymraeg