Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru

Enwi Strydoedd

101-16-pic-street-name-The-Philog-.jpg


Enwi Strydoedd

Dywed rhai pobl fod y gylchfan ym mhen draw’r pentref dros filltir o hyd o’i amgylch ac mai dyma’r gylchfan fwyaf yn Ewrop

Gant ac ugain mlynedd yn ôl, ar ddechrau'r 20fed ganrif roedd un ffordd gennym yn rhedeg o ffin ddeheuol y plwyf, gan barhau i'r gogledd o Dongwynlais (a thu hwnt mae'n debyg) gydag un enw; ‘Merthyr Road’. Mae'n ddigon posib mai dyma'r hiraf yn yr ardal, ac roedd yn achosi pob math o broblemau i'r postmyn a ddosbarthai lythyrau a pharseli i drigolion y pentref a oedd yn tyfu'n gyflym bryd hynny.

Cafodd llawer o'r blociau newydd o dai a oedd yn cael eu codi eu henwau eu hunain (Millwards Terrace er enghraifft), ond roedd hynny ond i’w weld yn peri mwy o ddryswch. Roedd strydoedd y plwyf yn ddryslyd, ac roedd Heol Merthyr yn rhy hir ac roedd angen ei rhannu'n ddarnau mwy hylaw.

Bu'r cyngor plwyf yn ystyried y broblem am gryn amser ac fe'i trafodwyd yn helaeth. Cynhaliwyd cyfarfod plwyf arbennig ym mis Awst 1905 at ddibenion enwi'r strydoedd, gyda'r nod o osod enwau platiau enwi a rhifo'r tai yn y plwyf. Daethant i'r casgliad, gydag ambell eithriad, y byddai'r enwau hysbys ar y pryd am y ffyrdd a'r strydoedd cael eu cadw.

Yn Nhongwynlais, fodd bynnag, penderfynwyd newid 'Spout Road i Ironbridge Road, Canal Parade i Railway Terrace a'r ffordd a arweiniai at yr Old Ton Inn yn Church Road'. Yn ogystal, 'byddai'r ffordd yn arwain o'r Hollybush yn y dyfodol yn cael ei hadnabod fel Pantmawr Road'

Penderfynwyd hefyd i rannu Heol Merthyr 'o'r Cross Inn i'r Llyfrgell yn adrannau. O ffin y plwyf ger y Cross Inn i Old Povey’s House ar y Ffilog, fyddai Y Ffilog; oddi yno i'r bont ger siop y gof yn Wauntreoda; y darn nesaf i Westy'r Plough yn Hafod Road; ac o hynny ymlaen i'r Llyfrgell yn Penllyne Road' 'Yn ogystal, dewiswyd 'Park Road; a Heol Don am y ffordd sy'n arwain at Orsaf Llandaf o Velindra Road'

Roedd problem fodd bynnag! Ni feddai’r cyngor plwyf ar y pwerau i newid yr enwau a byddai'n rhaid iddynt gael cymeradwyaeth Cyngor Dosbarth Gwledig Dinas Powis a Llandaf, sef yr awdurdod priffyrdd. Gyda rhai mân addasiadau cytunwyd ar y newidiadau, ac mae'r hysbyseb papur newydd dyddiedig 1 Tachwedd 1905 a ddangosir isod yn cadarnhau'r enwau. Fodd bynnag, mae un gwahaniaeth, roedd y brif adran a oedd i'w galw'n Hafod Road, yn aros fel Merthyr Road; ac felly y bu tan heddiw!

Mae'r ffotograff yn dangos un o'r platiau enw haearn bwrw o 1905 sy'n dal i fod o gwmpas, hyd yn oed heddiw. Sawl un allwch chi ddod o hyd iddyn nhw?