Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Elizabeth Young
Weithiau byddwch yn dod ar draws rhywun mor anarferol fel na allwch chi gredu ei fod yn wir. Er enghraifft, yr Americanwr Clarence Birdseye, y dyn a ddyfeisiodd y ‘Fish Finger’ wedi'i rewi (ydi, mae'n wir!)
Yma yn yr Eglwys Newydd, mae gennym rywun hyd yn oed yn fwy enigmatig, gwraig o'r enw Elizabeth Young. Felly, pwy oedd hi?
Gwyddom ei bod yn dirfeddiannwr ar ddechrau'r 19eg ganrif, oherwydd ei bod wedi'i rhestru ar Fap y Degwm yn 1841. Ond nid oes gofnod ohoni ar unrhyw un o ffurflenni'r cyfrifiad lleol; felly, pwy oedd hi a ble roedd hi'n byw? A oes unrhyw un yn gwybod?
Roedd y wraig hon yn berchen ar bron i 70 erw o dir yn yr Eglwys Newydd, nad yw'n swnio'n llawer, ond y tir ei hun sy'n ei gwneud hi’n destun syndod.
Roedd yn berchen ar fwthyn a gardd fach yn Llwynbedw (bryd hynny ym Mhlwyf yr Eglwys Newydd) ac yn ei osod i Edmund Harman, nad yw ynddo'i hun yn beth anarferol. Fodd bynnag, mae hi wedi'i rhestru fel y sawl a oedd berchen ar Eglwys y Santes Fair a'r Fynwent (yr hen eglwys ar Hen Heol yr Eglwys). Sut y gall hynny fod? Roedd Eglwys y Santes Fair yn dal i gael ei defnyddio bryd hynny, a byddai hynny’n parhau am y 60 mlynedd nesaf!
Yn rhyfeddach fyth, hi oedd berchen y tir lle byddai Capel Ararat yn cael ei godi ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Ac roedd hi hefyd yn berchen ar dir ym Mhen–y-lan ym Melingriffith, lle byddai'r Methodistiaid cynnar yn yr Eglwys Newydd yn ymgynnull i addoli
Os nad oedd hynny'n ddigon, mae'n mynd hyd yn oed yn rhyfeddach. Roedd hi'n berchen ar dros 7 erw o dir 'comin' ar Waun Treoda (yr hyn a gaiff ei alw’n gyffredin bellaach fel Comin yr Eglwys Newydd). A all person fod yn 'berchen' ar dir comin?
I gwblhau'r dirgelwch, roedd hi hefyd yn berchen ar 36 erw o ffyrdd y plwyf a 24 erw o wely yr Afon Taf. Nid yw'r ffigurau hyn yn swnio'n fawr, ond os tybiwch y byddai ffordd nodweddiadol yn y 19eg ganrif tua 5m (16 troedfedd) o led, roedd hi'n berchen ar 18 milltir o ffordd gyhoeddus! Hyd yn oed os byddwch yn caniatáu ar gyfer lleiniau glaswellt, ar yr ymylon, mae'n debyg y byddai'n fwy na 12 milltir. Mae’n rhaid bod hynny’n bolygu bob blewyn bron o holl ffyrdd y plwyf.
Ac mae 24 erw o wely’r Afon Taf, sydd, (os mesurwch chi, tua 40m, 120 troedfedd o led) yn cyfateb i 1.5 milltir o hyd yr afon. Dyna'r cyfan o Afon Taf o'r bont yn Llandaf i fyny'r afon i Fferm y Fforest Os oedd ganddi hawliau glannau yn unig (hynny yw, dim ond i ganol yr afon) roedd ei pherchnogaeth yn mynd o Bont Llandaf i fyny'r afon bron iawn yr holl ffordd i Dongwynlais a Phentyrch
Wedi ei atodi mai darn o Fap y Degwm (diolch eto i'r Llyfrgell Genedlaethol) lle gallwch weld ei daliadaethau tir hi. Felly, pwy oedd hi, Elizabeth Young, ble roedd hi'n byw a pham roedd hi'n berchen ar barseli mor anarferol o dir? A oes unrhyw un yn gwybod mwy amdani?
Neu a oes ateb symlach?
Daw Elizabeth Young yn olaf yn rhestr yr wyddor o dirfeddianwyr y plwyf, gyda'i bwthyn yn Llwynbedw.
Islaw hynny, rhestrir yr eglwys, capeli, tir comin, Afon Taf a ffyrdd cyhoeddus
Ar yr olwg gyntaf, efallai y byddech yn tybio ei bod yn berchen ar hyn i gyd, ond efallai nad oes gan bob un o'r lleill 'berchnogion' a’u bod yn syml yn rhan o dir y cyhoedd Beth y’ch chi’n ei feddwl?
English
Cymraeg