Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Cynaeafu
200 mlynedd yn ôl, roedd yr Eglwys Newydd yn wledig iawn ac roedd pawb yn dathlu'r newid yn y tymhorau. Roedd y gymuned gyfan i bob pwrpas yn deuluoedd ffermio neu weithwyr amaethyddol a byddent yn dod at ei gilydd yn ystod amser hadu a chynaeafu ac yn weithgar yn y caeau.
Roedd y cynhaeaf yn gyfnod hynod o arbennig yn ystod y flwyddyn ffermio. Byddai'r teuluoedd ffermio estynedig yn dod ynghyd â'u gweithwyr i gynaeafu’r cnydau o wenith, haidd a cheirch. Defnyddiwyd y tir gorau bob amser ar gyfer tyfu gwenith gyda'r tir tlotach ar gyfer haidd a cheirch. Dechrau cynnar yn y bore a dyddiau hirion tra bod y tywydd yn caniatáu. Bob tro’n ceisio cynaeafu yn ystod y cyfnodau sych (nad yw wastad yn bosibl yng Nghymru!)
Cyn yr oes ddiwydiannol, roedd y cynhaeaf yn llafurddwys iawn. Byddai timau o ddynion profiadol yn crymanu'r ŷd, gan adael dim ond y sofl. Byddai eraill yn dilyn y tu ôl iddynt i gasglu'r styciau corn yn ysgubau a'u clymu'n fwndeli i sefyll yn dalsyth ar y maes a oedd wedi'i glirio. Yna, byddai’r rhain yn cael eu bwndelu ar wagenni (neu wains yn Saesneg) a dynnwyd gan geffylau, a’u casglu ynghyd yn dasau yn y cae agored neu (mewn blynyddoedd diweddarach) mewn helmau pwrpasol. Roedd gan famau, tadau a phlant i gyd eu gwaith penodol
Byddai caneuon y cynhaeaf ac emynau traddodiadol yn gosod y rhythm i’r gwaith a gellid eu clywed o un pen o'r pentref i'r llall
Felly, er ein bod yn gwybod sut beth fyddai cynhaeaf traddodiadol, ni fyddai llawer yn gwybod yn union pa pryd. Fel arfer, syrthiai Gŵyl y Cynhaeaf ar y Sul agosaf at y Lleuad Fedi (y lleuad llawn sy'n digwydd agosaf i gyhydnos yr Hydref), fel arfer yn hwyr ym mis Medi
Defnyddiwyd y styciau gwenith a barlys gorau hefyd ar gyfer toeau gwellt. Cofiwch, byddai gan y rhan fwyaf o dai a bythynnod y cyfnod doeau gwellt a byddai angen eu trwsio yn gyson a'u hail-doi yn llwyr bob 30 mlynedd. Roedd ambell i döwr yn dal i fyw yn y pentref adeg y cyfrifiad cynnar.
Felly, roedd y cynhaeaf bob amser yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn ac i'w ddathlu. Dim dyfalu y gallwn ei wneud ynghylch defodau hynafol, a byddai dathliadau paganaidd wedi bod yn eithaf arbennig gyda llawer o fwyta, caru a dawnsio (does ond rhaid edrych ar y dathliadau derwyddol modern heddiw i gael syniad). Cartrefi’r cynhaeaf a doliau ŷd yw'r agosaf y down i hyn heddiw
Roedd agweddau Piwritanaidd at gynaeafu yn dra gwahanol a byddent yn gwgu ar lawer o'r dathliadau traddodiadol. Roedd yr Eglwys Newydd bron yn gwbl Gymraeg ei hiaith a dathliadau gŵyl Mabon yr adeg hon yn ganolbwynt
Wrth i'r capeli newydd ddyfod a'r llif cynyddol o weithwyr Saesneg eu hiaith i’r gweithfeydd ym Melingriffith a Phentyrch, newidiodd natur gwyliau’r cynhaeaf yn Oes Fictoria’r G19 unwaith eto. Y tro hwn o fewn yr eglwysi eu hunain. Corau a phibau’r organ a the dathlu
Mae ein gwyliau cynhaeaf eglwysig modern bellach yn dra gwahanol eto. Gall llawer ohonom gofio gwasanaethau cynhaeaf eglwys neu gapel gydag adeiladau eglwysig addurnedig ac arddangosfeydd helaeth o lysiau a dyfwyd yn lleol, ac yn goron ar y cyfan o leiaf o leiaf un dorth gynaeafu wedi'i phobi'n arbennig ar ffurf ysgub o wenith (yn union fel yr un yn y llun), mewn lleoliad blaenllaw ym mlaen yr eglwys
Erbyn heddiw, mae'r bwyd a gesglir yn aml mewn tuniau, ac mae'n cael ei roi i'r banc bwyd lleol
A oes gan unrhyw un atgofion o gynhaeaf y maent yn ei gofio neu yr adroddwyd eu hanes wrthynt?
English
Cymraeg