Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Ymhle oedd Scrap Row?
Erbyn y 1840'au, roedd Gwaith Tun Melingriffith yn ffynnu. Yr oedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn ehangu ledled y byd ac ymddengys fod galw diddiwedd am dun, haearn a glo, ac roedd digonedd o’r tri gan dde Cymru
Yma yn yr Eglwys Newydd, gwelwyd gwella ar gyfathrebu gyda'r ffordd dyrpeg, y gamlas newydd a dechrau oes y trên stêm. Roedd Melingriffith yn tyfu'n gyflym gyda melinau newydd yn codi i ateb y galw mawr am dunplat
Erbyn 1842, roedd Melingriffith yn cyflogi dros 140 o ddynion, menywod a phlant a phrin oedd unrhyw le i'w lletya nhw. Ac roedd y galw am fwy o weithwyr yn tyfu. Adeiladwyd terasau o fythynnod dinod erbyn y 1780au pan oedd teuluoedd y Crynwyr yn rhedeg y gwaith, a llenwyd y bythynnod i’w toeau, gyda 2 neu hyd yn oed 3 theulu ym mhob tŷ
Yng nghyfrifiad 1841, cofrestrwyd bod teuluoedd melin yn byw yn Sunnybanks, New Houses, Penylan a Scrap Row. Yn ogystal, roedd eraill yn byw ychydig ymhellach i ffwrdd yn Nhongwynlais, Ystum Taf a hefyd yn yr Eglwys Newydd
Mae hen fapiau'r AO yn dangos lle'r oedd llawer o'r tai a'r bythynnod hyn, er bod bron pob un ohonynt bellach wedi'u dymchwel
Mae'n debyg mai Sunnybanks godwyd yn gyntaf gan y Crynwyr yn y 1780au gyda New Houses yn fuan wedi hynny. Mae’n bosib fod rhai o'r bythynnod o amgylch Velindre House hyd yn oed yn gynharach ac wedi bod yn gysylltiedig â'r ystâd
Fodd bynnag, ymhle oedd Scrap Row? (ac am enw ofnadwy). Mae cyfrifiad 1841 yn rhestru dros 20 o deuluoedd yn byw yno. Gan dybio bod nifer o deuluoedd yn byw ym mhob tŷ, rhaid bod rhes Scrap Row wedi bod yn 6-8 tŷ o ran hyd o leiaf. Ond ymhle?
Mae map cyntaf yr AO o 1880 yn dangos Sunnybanks a New Houses i'r gogledd o'r gwaith, gyda Phen-y-lan ychydig i'r dwyrain
Mae’r unig bosibilrwydd ar gyfer Scrap Row yn gorwedd i'r de, rhwng Oak Cottage a Thŷ Mawr (y ddau yn dal i sefyll). Mae'r map yn dangos beth allai fod yn deras o dai yn dynn yn erbyn y goleddf yn y cefn, a'r ffordd o'u blaen. Mae'n ymddangos bod gan y tai hyn erddi cefn ar ben y llethr (y ceid mynediad iddynt yn ôl pob tebyg drwy ddringo llawer o risiau), ac mae'n ymddangos bod gerddi blaen hefyd, ar draws y ffordd gerllaw'r gamlas
Does dim byd yno heddiw, dim hyd yn oed awgrym bod bron i 90 o ddynion, menywod a phlant unwaith yn byw yno
Yn rhyfedd iawn, nid yw Map Degwm 1841 yn dangos dim o'r teras hwn
English
Cymraeg