Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Straeon Ysbryd
Gan fod y dyddiau’n byrhau a'r Hydref yn dechrau ildio i’r Gaeaf, does dim byd yn well na chwtsho ar gadair freichiau glyd, o flaen tanllwyth o dân a rhannu straeon ysbryd o’r oes a fu.
Yn amlwg mae hyn wedi bod yn digwydd yn ein pentref ni ers blynyddoedd lawer. Hanesion am famau yn rhybuddio eu plant bach i fynd i gysgu'n gyflym, er mwyn osgoi y drychiolaethau o ysbrydion a'r ffurfiau yng nghysgodion corneli tywyllaf yr ystafelloedd gwely.
Rydym yn ffodus bod Edgar Chappell ac Ernie Broad ill dau wedi gallu cofnodi rhai o'r straeon arswydus yma (a rhai mwy erchyll).
Rwyf wrth fy modd gyda stori'r llanciau lleol dewr sy'n archwilio twneli tanddaearol yr adfeilion yng Nghastell Coch, yn chwilio am gist haearn o drysor y Brenhinwyr – dim ond i ddod ar draws ysbrydion dau eryr brenhinol â llygaid coch llosg yn gwarchod y trysor, ac yna'r bechgyn yn rhedeg i ffwrdd mewn arswyd pur. A yw'r gist haearn yn dal yno? A oedd unrhyw wirionedd i’r hanes?
A beth am 'Y Ladi Wen' yn codi ofn ar yr holl fechgyn lleol yn y coed tywyll ger hen Sgubor y Degwm? Neu beth am ysbryd dyn o'r enw Draper y’u canfuwyd yn crogi yn y Sgubor honno?
Mae Glenys Evans yn rhannu stori'r ddrychiolaeth o forwyn ifanc sydd, ar nosweithiau tywyll, mewn gwyn i gyd, yn crwydro ger y gwrychoedd ar Waun Treoda neu Gomin yr Eglwys Newydd .
Mae Edgar Chappell ac Ernie Broad ill dau yn rhannu hanes am yr hen grydd a'i gyfarfyddiad â'r Diafol! Mae'r hen grydd wrth sylweddoli ei fod yn siarad â 'Satan ei hun' (a oedd â’i fryd ar godi argae ar draws dyffryn Afon Taf ger y Garth) yn ei dwyllo i feddwl ei fod filltiroedd i ffwrdd, a felly'n rhoi’r gorau i’w fwriadau drwg – os yw Edgar Chappell ac Ernie Broad yn adrodd y stori, mae'n rhaid ei fod yn wir!
Profwyd bod rhai o'r straeon ysbryd lleol, fel y llew crwydrol yn ffermdy Tŷ Mawr, yn anwir yn y pen draw, ond mae cymaint mwy sydd wedi mynd yn llên gwerin erbyn hyn:
Yr ysbryd-wraig 'Mallt-y-Nos', sy'n dyddio o'r cyfnod Normanaidd.
Ysbryd y 'Ceffyl-Dŵr' yn y nentydd yng Ngwaun Treoda, a
Stori am ysbryd rhyw daid a'r gwartholion arian a oedd wedi eu cuddio yn nho gwellt hen fwthyn.
A beth am bwerau arbennig Ffynnon yr Arglwyddes Wen yn Nhŷ Clyd (bellach a gollwyd i gyd), stori enbydus Coeden Llywelyn ar Fferm Penylan ar Heol Felindre a charlamu ysbrydion y ceffylau yn adfeilion Greenmeadow House. Roedd perchennog gwraig Greenhill yn argyhoeddedig bod ysbryd yn hen dŷ Booker, a’r hen stori drist am y ferch ifanc a gipiwyd gan Frenhinwyr, ac a garcharwyd a’i lladd yng Nghil Ynys, Tongwynlais, a’r mur yn goch gan waed a'r ddrychiolaeth ohoni yn ymddangos.
Rhaid bod cymaint mwy o straeon lleol; a oes gennych chi unrhyw beth rydych chi'n ddigon dewr i'w rannu?
English
Cymraeg