Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Sgubor y Degwm
Oeddech chi'n gwybod bod gennym ni Ysgubor Degwm yn yr Eglwys Newydd? Felly ble'r oedd e?
Ar lwybr llwybr troed hynafol o'r enw 'Heol Don' o'r Wenallt i Landaf, ac ychydig i'r de o Dafarn yr Hollybush (dyma'r llwybr troed y bu'n rhaid ei ildio i ganiatáu adeiladu'r ysbyty meddwl)
Roedd ar ochr orllewinol Heol Merthyr, ychydig i'r gogledd o fynedfa bresennol yr ysbyty
Does dim byd yno nawr, ond ar fapiau'r AO mae wedi'i gofnodi. Fe’i dangosir fel adeilad ar fapiau 1880 a 1900, a dim ond fel amlinell ar fap 1920. Y cyfan sydd yno nawr yw clwstwr o goed pinwydd. Efallai bod sylfeini'r hen Ysgubor Degwm yn dal i fod yno, wedi'u gorchuddio gan yr isdyfiant?
Beth oedd ei oed?
Dydyn ni ddim yn gwybod, ond yn ganrifoedd oed mae'n debyg. Pan ddaethpwyd o hyd i ddyn o'r enw Draper yn crogi yn y Sgubor Ddegwm yn 1810, cyfeirid ato bryd hynny fel 'hen'. Ceir enghreifftiau o ysguboriau degwm lleol ym Morgannwg sy'n dyddio'n ôl i'r 12fed a'r 13eg ganrif
Sut olwg oedd iddo?
Bryd hynny, hwn oedd yr adeilad mwyaf yn y pentref o bell ffordd. Os mesurwch chi ôl troed map yr AO byddai wedi bod tua 30m o hyd a 9m o led (100 x 27 troedfedd)
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (RCHMW) yn awgrymu bod yr adeiladau hyn yn hir ac yn gul ar y cyfan gyda drysau canolog ar yr wynebau blaen ac ôl chefn, ac yn ddigon tal i adael i gert wair (neu wain) i basio drwyddo. Ym Morgannwg roedd yr adeilad fel arfer wedi'i godi o gerrig, er bod rhai wedi'u hadeiladu o bren gyda phaneli wedi'u rendro. Gan eu bod mor dal, efallai 7-8m (20-24 troedfedd o uchder) i'r bondo, roedd angen bwtresi arnynt. Er mwyn awyru'r gwair yn yr adeilad, ceid hafnau awyru hirgul neu ffenestri yr holl ffordd o’i gwmpas.
Ac wrth gwrs, roedd to gwellt gan ein Sgubor Ddegwm yn Yr Eglwys Newydd.
Mae'r braslun yn awgrymu sut y gallai fod wedi edrych yng nghanol y 19eg ganrif adeg y cynhaeaf.
Felly, beth oedd degwm, a pham oedd angen ysgubor arnynt i'w storio?
O adeg y Goncwest Normanaidd, ac mae'n debyg cyn hynny, roedd yn ofynnol i ffermwyr-denantiaid dalu eu rhent ar ffurf degfed rhan (degwm) o'u cnwd. Roedd hyn yn aml oherwydd mai’r eglwys neu'r abaty yn aml a oedd yn berchen ar dir ffermio. Yn Yr Eglwys Newydd, yn yr Oesoedd Canol, doedd dim abaty mawr, dim ond Llandaf, ac roedd nifer o dirfeddianwyr ffiwdal hefyd.
Pwy gododd yr ysgubor ddegwm, a phwy a gasglai’r degwm? Efallai na chewn fyth wybod.
Erbyn 1841, nodai Map y Degwm fod y sgubor ddegwm mewn iard o tua 1 rhwd a 25 perc o ran maint! Mae hyn tua hanner erw. Y tenant oedd David Thomas, a oedd hefyd yn denant Fferm Tŷ Clyd gerllaw. Y tirfeddiannwr oedd Richard Blakemore, y dyn a oedd wedi cymryd yr awenau dros Waith Tun Felindre a Melingriffith.
Mae'n ddiddorol nodi nad oedd gwerth degwm ar yr ysgubor ddegwm ei hun!
Beth ddigwyddodd iddi?
Bron i 60 mlynedd ar ôl Map y Degwm, pan oedd y pentref yn tyfu’n gyflym a Rheilffordd Caerdydd wedi'i hadeiladu, roedd y bont a llethrau'r argloddiau (sydd yno o hyd heddiw) yn gwahanu tafarn yr Hollybush a’r Ysgubor Ddegwm. Fodd bynnag, bu tân trychinebus, a nododd adroddiad ym mhapur newydd yr Evening Express ar 7 Chwefror 1900:
'Ychydig cyn deg o'r gloch fore Mawrth cafwyd bod Ysgubor y Degwm ger Holly Bush, yr Eglwys Newydd, ar dân. Seiniwyd y rhybudd ar unwaith, ac roedd y cwnstabliaid heddlu Bowen a Campbell, gyda rhai o aelodau Brigâd Dân yr Eglwys Newydd, yno yn y fan a'r lle gyda'u cyfarpar cyn pen dim. Roedd yr ysgubor, oedd â tho gwellt, yn cynnwys llawer iawn o wellt, a doedd dim gobaith ei hachub'
Sut y gellid colli un o'r adeiladau hynaf a mwyaf yn yr Eglwys Newydd heb adael odid dim olion yn y cyfnod diweddar? Prin hyd yn oed y mae Edgar Chappell, yn ei gronicl o'r Eglwys Newydd, yn cyfeirio ato.
Pe bai'r sgubor ddegwm wedi'i lleoli mewn pentref yn Lloegr, neu hyd yn oed mewn mannau eraill o’r sir, mae'n debyg y byddai'r adfeilion neu'r amlinelliad ohoni wedi'u cadw. Nid oes gennym ddim, dim plac hyd yn oed. Mae'r adeilad yn haeddu gwell. Beth y’ch chi’n ei feddwl?
English
Cymraeg