Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Charles Burley Ward VC
Ers i ni symud i'r Eglwys Newydd, rydym wedi clywed straeon am Charles Burley Ward, y dyn olaf i dderbyn Croes Fictoria (VC) gan y Frenhines Fictoria. Gŵr a gladdwyd ym Mynwent Eglwys y Santes Fair
Ar wahân i'r VC, ymddengys nad oes neb yn gwybod llawer amdano. Yn wir, ar ôl iddo gael ei gladdu yn 1921, anghofiwyd ei fedd a'i golli yn yr isdyfiant am y trigain mlynedd nesaf. Dim ond ar ôl i grŵp hel achau lleol yn 1986 ddechrau gwirio y daethon nhw o hyd i'r plot, a pherswadio Comisiwn Beddau y Gymanwlad i godi'r feddfaen wen hardd yno.
Ond pwy oedd Charles Burley Ward, a beth oedd ei gysylltiad â'r Eglwys Newydd? Mae llawer o wybodaeth ar-lein, ond mae'n ymddangos bod ei fywyd cyfan yn gatalog o dristwch
Ganed CBW yn Hunslet, Leeds yn 1877 yn dlawd fel llygoden eglwys. Does dim rhyfedd felly bod CBW wedi ymuno â'r fyddin fel dyn ifanc er mwyn dianc rhag hyn i gyd ac fe'i hanfonwyd i frwydro yn erbyn y Boeriaid yn Ne Affrica. Yno ym mis Mehefin 1900 y canfu ei bicet eu bod wedi’u hamgylchynu gan 500 o Boeriaid a gwirfoddolodd i redeg dros dir agored i geisio cymorth gan eu lluoedd eraill. Er iddo gael anafiadau difrifol, rhedodd yn ôl i adrodd am y sefyllfa a chafodd criw eu traed yn rhydd wedyn. Am hyn, dyfarnwyd y Croes Fictoria iddo (gweler y llun isod gyda'i VC)
Cofnodir mai CBW oedd y person olaf i dderbyn y VC gan y frenhines ei hun ar ei arwisgiad yng Nghastell Windsor ym mis Rhagfyr 1900 (bu hi farw 5 wythnos yn ddiweddarach). Yn wir, dim ond 3 wythnos ar ôl yr arwisgiad y rhyddhawyd CBW o'r fyddin fel un 'anaddas yn feddygol oherwydd clwyfau a dderbyniwyd wrth frwydro'
Dychwelodd i Leeds, yn 24 oed, fel arwr haeddiannol ac fe'i clodforwyd gan y ddinas. Cafodd fedal aur arbennig a chyflwynwyd siec iddo am £600 (tua £60k yn arian heddiw). Prynodd siop newydd gerllaw a phriododd â’i gariad, Emily. Cawsant 3 o blant tra yn Hunslet, ac yna symud i Gaerdydd lle cawsant bedwerydd plentyn
Ond pam Caerdydd? Yn ôl yr hanes yn lleol fe symudodd CBW i'r Eglwys Newydd (mae hyd yn oed y straeon ar y we yn adrodd hyn) ac, o fis Rhagfyr 1904, bu'n gweithio i Gyngor Sir Morgannwg fel Hyfforddwr Corfforol gyda chyflog blynyddol o £140
Mae cyfrifiad 1911 yn canfod CBW, Emily a'u 4 plentyn yn byw yn yr Eglwys Newydd gyda George, tad CBW. Heblaw am y ffaith, nad oeddent yn byw yn yr Eglwys Newydd o gwbl, mae'r cyfrifiad yn eu canfod yn byw yn rhif 3 Soberton Avenue, Heol yr Eglwys Newydd!
Ail-ymrestrodd CBW yn y fyddin (yn ei hen gatrawd) ym mis Medi 1914, ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, er ei fod wedi'i ryddhau o'r fyddin yn 1901 fel un anaddas. Gan ymuno fel Preifat cyffredin, o fewn 5 wythnos roedd wedi cael ei ddyrchafu 5 gwaith i fod yn Uwchgapten ei Gwmni, a threuliodd lawer o'r rhyfel fel hyfforddwr. Yna cafodd ei ryddhau am yr eildro gwta 3 wythnos wedi diwedd y rhyfel ym mis Tachwedd 1918 fel un ‘nad oedd mwyach yn ffit yn feddygol'
Awgrymir ei fod yn dioddef o broblemau meddyliol; heddiw mae'n debyg y byddent yn awgrymu PTSD. Ac, os nad oedd ymladd mewn 2 ryfel erchyll ddim yn ddigon, gwaethygodd pethau. Dychwelodd CBW i Gaerdydd (yn ôl i Soberton Avenue?) at ei deulu, ond dirywiodd y berthynas. Bu farw ei wraig Emily ar groesfan reilffordd yn Gabalfa ym mis Chwefror 1919
Yn ddiweddarach yr un flwyddyn, ail-briododd CBW, ag Annie McNally (sef ei gyfneither) a symudodd hi i gartref y teulu a chawsant blentyn, Eric ym 1920.
Roedd CBW yn amlwg yn dioddef o ryw fath o chwalfa nerfol gan y clywn amdano nesaf yn y Seilam Sirol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle bu farw o 'myelitis a mania' ym mis Rhagfyr 1921, ac yntau ond yn 44 oed. Fe'i claddwyd gydag anrhydeddau milwrol llawn ym Mynwent Eglwys y Santes Fair ym mis Ionawr 1922.
Fel ôl-nodyn, gwrthodwyd pensiwn rhyfel i weddw CBW am na fu farw o anafiadau yn uniongyrchol gysylltiedig â'i ddyletswyddau fel milwr! Er ei fod wedi cael ei ryddhau ddwywaith o'r lluoedd arfog ar sail feddygol ac wedi cario ei glwyfau weddill ei oes. Yn wir, mae arddangosyn yn yr amgueddfa filwrol yn Doncaster yn dangos ei siaced fyddin (gweler y llun isod) yn frith o dyllau bwledi!
Felly, o le daw'r cysylltiad rhwng CBW â'r Eglwys Newydd? Nid yw'n ymddangos bod un i’w gael, heblaw ei fod wedi'i gladdu yn ein mynwent blwyf leol
Er hynny, mae'r stori drasig hon am ddyn hynod o arwrol a fu farw mewn amgylchiadau mor drist, yn stori sydd werth ei hadrodd a’i hail-adrodd. Efallai pan fyddwn ni yn y pentref y tro nesaf y dylem chwilio am ei fedd a diolch i un o ddynion arbennig 'Yr Eglwys Newydd'.
English
Cymraeg