Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Richard Blakemore and TW Booker
Ydych chi erioed wedi breuddwydio am dderbyn galwad ffôn neu lythyr gan ryw gyfreithiwr llychlyd yn eich cynghori bod rhyw berthynas o bell wedi marw a'ch gadael gydag 'etifeddiaeth' sylweddol?
Nôl tua 1810, gwahoddwyd Thomas William Booker, a oedd bryd hynny yn 18 oed (ac yn byw ym Mryste) i gyfarfod â'i ewythr Richard, a chafodd gynnig o'r fath.
Roedd Ewythr Richard (Blakemore), a oedd yn ddi-briod, yn hynod gyfoethog, roedd ganddo ystadau mawr yn Swydd Henffordd ac roedd newydd gaffael melin a ffowndri haearn lewyrchus yn yr Eglwys Newydd, gyda thŷ mawr a thir ganddo. Y cwbl oedd yn rhaid i TW ei wneud oedd ymuno â'i ewythr yn yr Eglwys Newydd a'i helpu i dyfu'r busnes. Am gynnig; un na allai ei wrthod mewn gwirionedd!
Roedd y felin a'r ffowndri haearn (sef Melin Gruffudd) yn broffidiol iawn, yn cyflogi cannoedd o bobl ac roedd eu potensial yn fawr. Dim ond ychydig dros 10 mlynedd ynghynt yr agorwyd Camlas Sir Forgannwg, ac roedd yn cynnig cyfle anhygoel i gael mynediad i farchnadoedd newydd, ac roedd y gwaith ar lannau’r gamlas.
Roedd y tŷ (Felindre) a oedd ychydig uwchlaw'r gwaith yn eithaf hen, ond roedd wedi cael ei adfer yn ffasiynol a'i ymestyn. Roedd Ewythr Richard hefyd yn berchen ar ffermydd lleol fel Tŷ Clyd a Fferm y Fforest ac yn dipyn o fonheddwr gwledig.
Afraid dweud, derbyniodd TW gynnig ei ewythr. Mae'r braslun isod yn dangos Melin Gruffudd a Felindre tua 1810, pan ymunodd TW â'r fenter. Roedd Felindre yn dra gwahanol i'r hen dŷ yr oedd Ewythr Richard wedi'i gael gan y Vaughaniaid ac roedd wedi cael ei ehangu a'i foneddigeiddio â gerddi helaeth a golygfeydd. Roedd Melin Gruffudd wedi tyfu hefyd gyda'i lanfa ei hun oddi ar y gamlas newydd. Nid ydym yn gwybod llawer am yr ardal ac eithrio'r ychydig fanylion o'r map degwm diweddarach.
Dros y blynyddoedd nesaf, camodd Ewythr Richard yn ôl o'r busnes a gadawodd i TW gymryd yr awennau. Cafodd y ffowndri haearn ei moderneiddio a'i hehangu, a chaffaelodd TW Waith Haearn Pentyrch ychydig i fyny'r afon. Adeiladodd reilffordd hyd yn oed i gysylltu'r ddau gyda'i gilydd.
Priododd TW â Jane Coghlan yn 1824, cawsant deulu a daeth Felindre yn ganolbwynt i'r gymdogaeth. Daeth TW yn uchel ei barch yn lleol, ac yn 1848 daeth yn Uchel Siryf Morgannwg, ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach fe'i etholwyd yn AS dros Henffordd, hen sedd ei Ewythr Richard!
Ni allai bywyd fod fawr gwell na hyn iddo. Bu farw Ewythr Richard yn 1855, ac yn unol â’r addewid, etifeddodd TW bopeth. Yn wir, ond ychydig fisoedd cyn i Ewythr Richard farw, gwnaeth TW gais am Drwydded Frenhinol i newid ei enw i TW Booker-Blakemore!
Roedd popeth yn ogoneddus, roedd y gwaith yn ffyniannus tu hwnt, cyflogwyd mwy a mwy o bobl (efallai 400-500) a daeth TW a'i deulu i fod y teulu pwysicaf yn yr Eglwys Newydd. Adeiladodd dai i'w feibion yn Greenhill a The Pines, a thyfodd Felindre yn balas disglair gyda gerddi pleser helaeth a llu o weision a morwynion. Gyda'r ystadau yn Swydd Henffordd a'r Eglwys Newydd, roedd ystâd gan TW dros 8,000 o erwau
Ond does dim yn para byth. Lai na 3 blynedd wedi i'w ewythr farw, bu farw TW ei hun tra yn Llundain, yn 57 oed. Bu farw o’r parlys mud neu apoplecsi (y cyfeirir ato y dyddiau hyn fel strôc), a syrthiodd pob dim y bu ei Ewythr Richard a TW yn gweithio drosto i blant y Bookeriaid.
Ond roedden nhw'n hollol wahanol! Mwy amdanyn nhw y tro nesaf.
English
Cymraeg