Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Hen Eglwys y Santes Fair
Y tro diwethaf, edrychwyd ar yr Eglwys Newydd (neu beth bynnag y'i gelwid) o'r oesoedd tywyll hyd at y goncwest, a lle y gallai'r eglwys wreiddiol fod wedi'i lleoli. Fe orffenom drwy feddwl tybed a allai eglwys fod wedi'i chodi'n agos at y 'castell' Normanaidd, ac ai dyma oedd allai safle hen Eglwys y Santes Fair?
Y tro hwn byddwn yn archwilio'r adeilad yn Heol yr Hen Eglwys, a cheisio deall ychydig o'r hyn a allai fod wedi digwydd ers 1266.
Dim ond yn 1904 y dymchwelwyd Hen Eglwys y Santes Fair ac, fel llawer o'n hadeiladau hŷn yn y pentref, ein colled ni yw hynny. Felly, bydd angen i ni wneud rhywfaint o gloddio drwy'r dogfennau sydd yn parhau i fod gennym.
Rydym yn ffodus bod rhai hen ffotograffau o'r eglwys a'r fynwent ar gael. Yn ogystal, cynhaliodd Prifysgol Caerdydd astudiaeth archeolegol ym 1973 ar olion yr eglwys a ddymchwelwyd, cyn sefydlu'r 'ardd orffwys' sydd gennym yn awr. Gwnaeth yr astudiaeth arolwg o'r eglwys a ddymchwelwyd a chloddio o dan olion y dymchwel, gan ddatgelu llawer o fanylion gwerthfawr iawn. Mae'r adroddiad hwn i'w weld ar wefan www.cardiffparks.org ac mae'n werth ei ddarllen.
Mae Edgar Chappell yn awgrymu bod y Santes Fair wedi'i chodi tua'r 14eg ganrif, a chadarnhawyd hyn gan adroddiad Prifysgol Caerdydd. Maent yn awgrymu mai o’r 13-14eg ganrif y doi’r gangell a chorff yr eglwys o bosibl ychydig yn ddiweddarach. Daeth yr archaeolegwyr o hyd i falurion crochenwaith ac adeiladwaith a allai fod yn hŷn na'r eglwys. Felly, mae posibilrwydd mai 'hen' Eglwys y Santes Fair yn safle eglwys hyd yn oed yn hŷn, efallai'r un y buom yn edrych arni y tro diwethaf. Ai dyma pam y cyfeirir at yr Eglwys Newydd fel yr Eglwys Newydd? Cyfeiria John Leland ati wrth yr enw honno yn c1536, er ei bod, mae'n debyg, ymhell dros 200 mlwydd oed erbyn hynny!
Felly, pa wedd fyddai ar y Santes Fair yn y 14eg ganrif? Gellir cael cliw posibl drwy edrych ar eglwys Teilo Sant, a ailgodwyd yn Sain Ffagan. Mae hon yn eglwys ychydig yn hŷn o orllewin Cymru, o faint tebyg gyda chorff a changell, waliau gwaith maen wedi'u paentio, to o lechi a ffenestri gwydrog bach.
Mae Braslun 1 yn seiliedig ar adroddiad Prifysgol Caerdydd, ac mae'n rhoi syniad da o faint ac ôl troed yr eglwys yn 1876 (dim ond 28 mlynedd cyn iddi gael ei dymchwel). Mae'n ddiddorol meddwl y gallai pen y gangell fod yn rhan o'r eglwys Normanaidd wreiddiol hyd yn oed.
Beth oedd y wedd y tu mewn i’r eglwys? Unwaith eto, gan gyfeirio'n ôl at Sant Teilo, yn yr oesoedd canol, mae'n ddigon amlwg y gallai'r waliau mewnol calch fod wedi'u paentio â golygfeydd dramatig o'r Beibl. Ni fuasai dodrefn bryd hynny, gyda'r addolwyr yn sefyll. Roedd yr eglwys yn fechan iawn, felly dim mwy na 50-60 o bobl. Adeiladwyd oriel fach yn y 1780au i ddarparu ar gyfer y boblogaeth a oedd yn tyfu, ac (mae'n debyg) y darparwyd blychau seddi cadw ychydig wedi hynny.
Dim ond yn 1616 y rhoddwyd caniatâd i'r fynwent gael claddu; cyn hynny byddai llawer o'r claddedigaethau wedi digwydd yn Llandaf.
Erbyn ei dymchwel yn 1904, roedd y fynwent yn gwbl lawn, a nododd yr adroddiad gan Brifysgol Caerdydd ym 1973 fod tu mewn yr eglwys hefyd yn llawn 'sgerbydau wedi'u datgymalu' sy’n awgrymu bod tu mewn yr eglwys wedi cael ei defnyddio ar gyfer claddu am gryn amser cyn agor y fynwent ym 1616.
Nododd adroddiad Prifysgol Caerdydd hefyd y gwelodd yr eglwys lawer o newidiadau dros y blynyddoedd, gyda phorthdy wedi'i ychwanegu, drysau allanol wedi'u blocio, gydag eraill yn cael eu hagor. Roedd bwa’r gangell wedi'i newid i un llawer llai, ac roedd y llawr morter sych wedi'i orchuddio'n rhannol â byrddau mewn cyfnod diweddarach.
Darganfu'r cloddio hefyd waelod bedyddfaen, ychydig y tu mewn i ddrws y de, gyda phlwg clai conaidd o bosibl. Daethpwyd o hyd i rannau o hen deils to cerrig (mae'r ffotograffau a dynnwyd ychydig cyn eu dymchwel c1900 yn dangos to llechi felly mae'r teils cerrig yn rhagddyddio'r rhain).
Canfuwyd malurion potiau canoloesol a hyd yn oed ddarnau o ddysglau Rhufeinig. Ym mhen dwyreiniol y gangell cafwyd hyd i ddarn o forter wal gyda rhai llythrennau arno. Daethant o hyd hefyd i i rai distiau to â dyddiad o'r 17eg ganrif (atgyweiriad o bosibl) wedi'u harysgrifio ag enwau seiri Llandaf
Ble mae'r holl ddarganfyddiadau hyn yn awr? A oes unrhyw un yn gwybod?
Mae Braslun 2 yn dangos yr eglwys a'r fynwent fel y'u darluniwyd ar fap OS 1876. Mae ôl troed yr eglwys a'r fynwent i gyd fel y gwelwn hwy heddiw, ond mae'r mynediad yn dra gwahanol. Mae porth y fynwent a'r waliau cerrig gyferbyn â'r Fox a'r Hounds i gyd yn dyddio o'r 1970au. Hyd at yr 20fed ganrif, roedd y fynedfa i'r fynwent yn dod o Ty'n-y-Pwll Road. Mae awgrym o hen borth mynwent, ond y cyfan sy'n weddill yw hen biler carreg a allai fod yn dyddio'n ôl i'r hen fynedfa, neu hyd yn oed yn gynharach. Mae’r cyfan yn chwilfrydig iawn.
Ar ôl 1974, y cyfan sydd ar ôl yw'r 'ardd orffwys' a ddarperir gan Gyngor Caerdydd. Mae'r fynwent wedi'i chlirio gyda llawer o'r cerrig beddau wedi'u symud i'r muriau terfyn, gan adael dim ond amlinelliad o'r eglwys gydag awgrym o'r porth a drws y fynedfa.
Mae gordyfiant a chwyn wedi cael gafael ar dirlunio'r 1970au. Yn ddiweddar, ffurfiwyd Cyfeillion Mynwent y Santes Fair, ac mae angen i ni gofnodi ein diolch i Zoe, Graham a'u tîm o wirfoddolwyr brwdfrydig, yn cofleidio'r gerddi i'w cynnal (er gwaethaf covid), ac i Barciau Caerdydd sydd wedi dechrau tynnu ac ailblannu rhai o'r planhigion hŷn.
Oes gan unrhyw un fwy o wybodaeth am yr hen eglwys?
English
Cymraeg