Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru

Y Tyrpeg

28.jpg

Mae'n ymddangos bod ffiniau'r pentref heddiw wedi eu diffinio gan ffyrdd a rheilffyrdd. I'r gogledd mae'r M4 a Chyffordd 32, i'r dwyrain mae'r A470 prysur a Chyfnewidfa Gabalfa i'r de. Mae'r ffin orllewinol yn parhau (fel erioed), Afon Taf.

Ewch nôl ganrif ac mae'r pentref yn dechrau edrych yn wahanol; dim ond hen Heol Merthyr a'r ffyrdd llai i'r dwyrain a'r gorllewin. Wyth deg mlynedd arall (i 1847) a doedd dim rheilffyrdd, a nôl hanner canrif arall (1794), dim camlas. Ewch nôl bum mlynedd ar hugain arall (i 1767) ac mae'r pentref yn dechrau edrych yn wahanol iawn yn wir.

Dyna'r flwyddyn yr agorwyd y ffordd dyrpeg.

Mae'n anodd credu dim ond 250 mlynedd yn ôl, nad oedd ffordd tua'r gogledd o'r pentref. Roedd ffordd drol hynafol i Dongwynlais a'r hen lwybrau meirch pwn dros gopaon y bryniau drwy’r Ddraenen ac Eglwysilian, ond dyna'r cyfan. Beth bynnag, nid oedd gwir angen mynd i'r gogledd, gan fod pob un o'r pentrefi bach yn nyffryn Afon Taf yn amaethyddol iawn, yn hunangynhaliol ac yn debyg iawn i'r Eglwys Newydd.

Roedd trefi diwydiannol Merthyr a Dowlais ymhell i ffwrdd ac roedd ganddynt eu cysylltiadau ffyrdd eu hunain, felly doedd dim angen ffordd o'r gogledd i'r de.

Roedd y cyfnod hwn yn adeg cyn i lo gael ei ddarganfod yn fasnachol yn y cymoedd, ond roedd perchnogion tir lleol yn dechrau sylweddoli'r cyfle i symud nwyddau a phobl ar hyd a lled y wlad. Dim ond dair blynedd yn gynharach yn 1764, y dechreuwyd adeiladu ffordd dyrpeg breifat rhwng Caerloyw, Caerdydd ac Abertawe. Roedd y cynghorau lleol (fel ag yr oeddent), yn cael eu annog i wella’r ffyrdd sirol, ond heb lawer o lwyddiant. Dyna pam, yn 1767 agorwyd ffordd dyrpeg o Dongwynlais, i'r gogledd tuag at Ferthyr Tudful. Roedd pob un o'r ffyrdd tyrpeg yn cael eu hariannu'n breifat ac roeddent yn gymaint o welliant ar yr hen draciau canoloesol ym mhobman. Fodd bynnag, gorffeniad carreg a llwch oedd iddynt o hyd, ac roedd angen eu cynnal a'u cadw'n rheolaidd.

Mae'r hen ffotograff isod yn dangos lleoliad yr hen dollty a'r giât yn Llandaf (mewn gwirionedd defnyddid cadwyn yn hytrach na giât, felly’r enw Radyr Chain!)

Agorwyd giât a thollty yn Nhongwynlais, lle talwyd y doll. Mae tollty a giât wedi'u hailgodi yn Sain Ffagan gyda bwrdd wedi'i baentio yn rhestru'r tollau.

Dim ond flynyddoedd lawer yn ddiweddarach y tynnwyd y tollty a'r giât yn Nhongwynlais oddi yno ar ôl llawer o gwynion a gwrthwynebiad lleol.

Roedd y ffordd leol drwy bentref yr Eglwys Newydd wedi'i 'gwella' o'r diwedd a daeth maes o law yn Heol Merthyr. Yn 1820 dechreuwyd gwasanaeth coets 4 ceffyl dyddiol o Gaerdydd i Ferthyr. Byddai'r goets wedi mynd drwy'r Eglwys Newydd a byddai wedi arwain at ddatblygu tafarnau i’r goets yn y 3-Horsehoes a'r 3-Elms gyda stablau ac efail. Byddai'r Hollybush (a fyddai hyd yn oed bryd hynny wedi bod yn weddol hen) wedi darparu ceffylau ffres ar gyfer y dringo i fyny i Dongwynlais a thu hwnt. Erbyn 1830, roedd ail wasanaeth coets dyddiol wedi dechrau.

Doedd neb yn hoffi talu'r tollau. Erbyn 1839 roedd protest Merched Becca wedi dechrau yn Sir Aberteifi/Sir Gaerfyrddin (dan arweiniad dynion a oedd yn gwisgo fel menywod a mabwysiadu’r enw Rebecca), yn gwrthwynebu'r gatiau tyrpeg ac yn mynnu cael gwared ar y system dollbyrth. Erbyn 1842 roedd y terfysgoedd wedi ailgydio yng ngorllewin Cymru a flwyddyn yn ddiweddarach ym Mhontarddulais a Bro Morgannwg hefyd. Tybed a fu unrhyw anniddigrwydd yn yr Eglwys Newydd?

Erbyn hynny, wrth gwrs, roedd Camlas Morgannwg wedi agor a rhan gyntaf Rheilffordd Dyffryn Taf hefyd.

Pryd orffennodd y tollborth yn Nhongwynlais? A oes unrhyw un yn gwybod? A beth ddaeth o'r tollty?