Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru

Sinemâu yn yr Eglwys Newydd

101-29-Sketch-Rialto-1925.jpg

Mae'n ymddangos ein bod yn prysur agosáu at y Nadolig, ac mewn dyddiau a fu efallai y byddem yn meddwl am alw draw i'n sinema leol i wylio'r 'fflic' diweddaraf o Hollywood.

Mae'r cyfan mor wahanol erbyn hyn gyda ffrydio, teledu sain amgylchynol a sianeli amlddewis, ond does dim rhaid mynd nôl mor bell â hynny, er bod y di-wifr neu’r radio yn iawn, y sinema oedd yr unig ffordd i rai ddianc rhag pwysau ailadroddus bywyd bob dydd.

Nos Wener, neu ar y Sadwrn os oeddech chi eisiau bod yn wirioneddol ‘posh’ a chiwio gyda'r byddigions i 'ddianc' am gwpwl o oriau. Roedd B-movie bob amser, y brif ffilm (gydag egwyl hanner ffordd fel y gallech brynu rhywfaint o hufen iâ), a'r ‘Anthem Genedlaethol’ ar y diwedd, lle'r oedd yn rhaid i bob un sefyll ar ei draed i ddangos parch.

Felly ymhle'r oedd ein pictiwrs lleol? Roedd y Rialto wedi'i leoli oddi ar Heol yr Hen Eglwys, ychydig y tu ôl i dafarn y Plough. Mae'r cyfan wedi mynd nawr, wedi'i dymchwel yn 1976 ac wedi ei disodli gan fflatiau yn y 1980au, ond pan gafodd ei hadeiladu gyntaf 'Y Palas Gwyn' neu’r ‘White Palace’ oedd yr enw arni. Fe'i codwyd c1914 gan Samuel Bennett (yr adeiladwr tai y dysgom amdano yn ôl ym mis Mehefin) ac roedd iddi 450 o seddi a llawr ar oleddf. Ffilmiau distaw i ddechrau ac yna'n cael eu trosi i sain ar ddechrau'r 1930au. Ychydig iawn o luniau sydd, ond mae'r braslun isod yn dangos sut y gallai'r Rialto fod wedi edrych pan oedd y sinema yn ei bri.
A oes unrhyw un yn gwybod mwy am y sinema hon, a pha ffilmiau a ddangoswyd?

Yn Ystum Taf, roedd y Tivoli, lle mae'r orsaf betrol nawr. Un arall a ddiflanodd. Adeiladwyd hithau hefyd c1914 ac fe'i hagorwyd fel y Sinema Frenhinol, a’i hailenwi yn Sinema Llandaf ym 1924 cyn iddi losgi i lawr yn 1930! Ailagorodd yn 1935 fel y Tivoli, seddi i 500 ond yn anffodus caeodd heb rybudd ym 1958.

Yn Rhiwbeina roedd y Monico. Roedd hwn yn balas sgrin arian 'go iawn' ac yn tra-arglwyddiaethu dros yr ardal leol. Cyfeirir yn aml at y fflatiau (neu appartments) sydd yno'n awr, gan y bobl leol fel 'fflatiau’r Monico'. Agorwyd sinema’r Monico ym 1937 yn dangos ffilm Gary Cooper 'Lives of a Bengal Lancer'. Roedd gan y sinema 950 o seddi gyda seddau llawr a chylch. Yn y 1970au pan drodd sinemâu yn aml-sgrin, cafodd y Monico ei thrawsnewid gyda chladin ocr a brown ar y tu allan a dwy sgrin y tu mewn, gyda seddi i 433 a 156 o wylwyr.

 

Aeth fy nau fab i'r matinee ar fore Sadwrn yn y Monico, lle'r oedd Brian Bull, y perchennog/rheolwr yn gweithredu fel cyflwynydd gan ddangos amrywiaeth wych o anturiaethau, cartwnau a chystadlaethau i blant. Llwyth o atgofion plentyndod i'm bechgyn i!
Yn anffodus, caeodd y Monico yn 2003.

Mae'r rhain i gyd bellach wedi mynd, ac wedi eu hanghofio i raddau helaeth. A oes gan unrhyw un atgofion am unrhyw un o'r sinemâu hyn yr hoffent eu rhannu?
Bellach mae gennym ganolfan Sinema Arddangos Nantgarw, a'r bwytai bwyd cyflym y tu allan. Ai dyna yw’r dyfodol?

Diolch i wefan Cinema Treasures ac i flog Dic Mortimer am lawer o'r cynnwys manwl sydd yn y rhifyn hwn.