Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru

Nadolig yn yr Eglwys Newydd

101-30-Christmas-in-Whitchurch-sketch-Nadolig-Llawen.jpg


Nadolig yn yr Eglwys Newydd

Noswyl Nadolig, ac mae'n gyfle i eistedd (gobeithio ger tanllwyth o dân a Boncyff Nadolig ynddo) a bwrw cilwg yn ôl ar sut dymor Nadolig a gaed yn ein pentref ni yn y gorffennol.

Cyn Cristnogaeth, byddai bywydau ein cyndeidiau Celtaidd wedi cael eu rheoli gan nosweithiau hir y gaeaf, dathlu Alban Arthan neu ddiwrnod byra’r flwyddyn gyda garlantau o Iorwg, Celyn ac Uchelwydd. Byddai ffermio a hwsmonaeth wedi eu cwtogi gan y gaeaf caled oer a byddai’r werin yn ymgynnull o gylch eu tanau i gadw’n gynnes.
Tybed sut beth oedd dathliadau cynnar yr eglwys Gristnogol yn yr wythfed a'r nawfed ganrif? Yr unig eglwys fyddai honno ym Melin Gruffudd.

Pan ddaeth y Goncwest, newidiodd yr Eglwys gyda’r Offeren yn Lladin, gorfodi cyflwyno Ffrangeg Normanaidd, a chyflwyno'r Nadolig yn ffurfiol. Dros amser, byddai ein heglwys leol wedi cael ei gwisgo adeg y Nadolig gyda garlandau o iorwg a chelyn a llawer o ganhwyllau, i oleuo'r tywyllwch.

Gartref, byddai teuluoedd yn dal i eistedd o gwmpas eu haelwydydd, gan rannu straeon am y dyddiau a fu, a pha mor bwysig oedd Nadolig teuluol. Dros y canrifoedd, tyfodd Dydd Nadolig mewn pwysigrwydd gyda theulu a ffrindiau yn dathlu.

Erbyn adeg Cromwell, y Gymanwlad a'r Piwritaniaid, nid oedd y Nadolig (a'r holl ormodedd) yn gymeradwy ganddynt a bychanwyd pwysigrwydd y tymor cyfan. Tybed pa effaith a gafodd hyn ar yr Eglwys Newydd? A newidiodd pethau lawer yn y canrifoedd dilynol?

Gyda dyfodiad yr Hanoferiaid, ac yn arbennig gyda'r Frenhines Victoria, newidiodd pethau'n gyflym. Daeth coed a goleuadau Nadolig (diolch i'r Tywysog Albert), carolau a chaneuon Nadolig, cardiau, anrhegion a bwyd Nadoligaidd yn fwyfwy pwysig.

Beth oedd pobl yn ei fwyta? Nid twrci (tan yn ddiweddarach o lawer), gwydd neu gyw iâr efallai, porc (am ein bod yn yr Eglwys Newydd!), neu gwningen efallai; neu uwd hyd yn oed os oeddech chi'n dlawd iawn. Roedd pwdin Eirin/ Pwdin Nadolig bob amser yn draddodiadol; gallaf gofio pishyn chwech arian yn fy mhwdin. A oes unrhyw un arall yn cofio hyn?

Daeth y Sant Nicolas o ddwyrain Ewrop, ac mae gan Gymru Siôn Corn i'r plant erioed. Roedd Father Christmas yn fewnforiad Americanaidd diweddarach. Faint o bobl oedd yn gwybod bod Siôn Corn a'i farf a'i got goch yn gimig hysbysebu gan gwmni Coca Cola!

Nid oedd haelioni Dickensaidd yn rywbeth dieithri i’r Bookers; fel yr adroddodd y Cardiff & Merthyr Guardian ar 12 Ionawr, 1850:
'Haelioni tymhorol ar Ddydd Calan a'r diwrnod canlynol, gwnaeth Mr Booker o Velindra ei ddosbarthiad blynyddol o 100 tunnell o lo ymhlith tlodion y plwyf, ac ar yr un pryd dosbarthodd Mrs Booker ei hanrhegion blynyddol o flancedi a gwlanenni. Roedd ffermwyr y gymdogaeth yn garedig iawn yn cludo'r glo i gartrefi’r y derbynwyr tlawd’.
Yn fwy diweddar, mae Ernie Broad yn cofio'r plant lleol yn canu carolau wrth ddrws 'Sgweiar' Phillips yn y Pines, ac yn cael eu gwobrwyo â melysion Nadolig.

Gallaf gofio hosan Nadolig bob blwyddyn a oedd wastad yn cynnwys tangerine, darn o lo, losin, ychydig o gnau a thegan bach. Gallaf ddychmygu yn yr amser gynt bod y teganau'n aml yn cael eu gwneud â llaw, efallai'n ddoli peg neu'n anifail wedi'i gerfio.

Doedd y Nadolig ddim yn Nadolig heb gacen fawr gydag eisin, ffigurau Nadoligaidd ar ei phen a ffril liwgar o’i chwmpas.

Roedd teledu yn y 1950au a'r 60au yn eithaf arbennig gydag Araith y Frenhines, ac yn ddiweddarach y Morcombe a Wise Special. Roedd yna pantomeim bob amser os oeddech chi'n lwcus!

Roedd addurniadau ystafelloedd bob amser yn gadwyni papur cartref a llusernau papur crog
Roedd coed Nadolig bob amser yn rhai 'go iawn' ac roedd y nodwyddau a ddisgynai yn berygl wrth chwarae gyda theganau newydd.

Dydw i erioed wedi profi Nadolig adeg rhyfel, ond mae'n rhaid eu bod wedi bod yn dra gwahanol. A oes gan unrhyw un unrhyw atgofion?

Ac, wrth gwrs, roedd bob amser yn bwrw eira ar Ddydd Nadolig (neu ai fi sy’n dychmygu hynny?)