Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Dathliadau'r Calan
Y rhod yn troi, ac oriau olaf deuddeg mis cythryblus y gallai llawer fod yn ddigon parod i'w hanghofio!
Sawl Calan a welwyd yn ein pentref ni? Yn amlwg, miloedd, ond tybed beth fyddai’n digwyddodd yn y dyddiau gynt?
Yn ddiweddar, mae'n ymddangos bod Hogmanay a'r tân gwyllt yn Llundain wedi monopoleiddio dathliadau’r Calan, ond nid felly oedd hi’n arfer bod.
Er bod llawer o'n traddodiadau lleol yn cael eu hanghofio i raddau helaeth mae atgofion o hyd am ddathliadau’r blynyddoedd a fu. Croesawu’r flwyddyn newydd dros y trothwy, Calenig ac wrth gwrs y Fari Lwyd. Ymhellach yn ôl, roedd dathlu gyda’r wledd Rufeinig, Satwrnalia.
Yn y gorffennol gwledig (cyn i ddiwydiant ddod i'r Eglwys Newydd), dim ond ffermydd gwasgaredig oedd i’w cael ynghyd ag ychydig o fythynnod. Roedd pawb yn adnabod pawb. A oedd hi’n wir bod y Calan yn bwysicach na'r Nadolig?
A oedd hyn yr un fath am gannoedd o flynyddoedd? Cymuned wledig Gymraeg lle'r oedd traddodiadau'n bwysig iawn. Crefyddol iawn, ond ar yr un pryd yn ymwybodol o'r byd naturiol; byddai'r risg o lwc ddrwg ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd yn drychinebus. Roedd bywyd mor fregus.
Roedd sicrhau'r lwc dda honno'n bwysig iawn, felly roedd gwahodd dyn pryd tywyll i groesi'r trothwy, eiliadau wedi hanner nos ar nos Galan yn arbennig. Digwyddai hyn ar draws de Cymru, hyd yn oed o fewn cof.
Mae'r Calennig (gŵyl y gaeaf) yng Nghaerdydd wedi bod yn rhan o dymor lleol y Nadolig/y Flwyddyn Newydd yn ddiweddar. Fodd bynnag, roedd y Calennig traddodiadol yng nghefn gwlad Cymru yn wahanol iawn. Afal â thair 'coes' ffon a rhesins fel addurniadau ar gyfer pob plentyn, a dathliad diwrnod cyntaf gyda'r plant yn rhedeg o dŷ i dŷ yn canu a sblasio dŵr 'losin neu lanast'.
Ac wrth gwrs, perfformiad y Mari Lwyd; traddodiad cryf yn ardaloedd gwledig de Cymru lle byddai grwpiau o ddynion (yn bennaf) wedi'u gwisgo mewn dilladach rhyfedd yn crwydro gyda phenglog ceffyl wedi'i osod ar bolyn hir a chynfas wen drosti, rhubanau, clychau a goleuadau llusernau, oll yn ymweld â thai cyfagos yn oriau mân Dydd Calan yn canu ac yn perfformio eu sioe estynedig.
Byddai cefnogwyr y Mari Lwyd yn canu ac yn annog ar i ddeiliad y tŷ eu gwahodd i mewn, tra byddai deiliad y tŷ yn rhoi ei gynnig/chynnig (g)orau ar geisio atal hyn gyda chân a barddoniaeth (a elwir yn Pwnco). Mae llawer o straeon am y pasiant hwn yn y pentrefi i'r gogledd o'r Eglwys Newydd yn y 19eg ganrif, ac rwy'n siŵr fod y Fari Lwyd yn adnabyddus yn ein pentref ni hefyd.
Mae'n ymddangos bod yr holl draddodiad wedi cilio yn gynnar yn yr 20fed ganrif, ond bu llawer o ymdrechion i'w atgyfodi. Mae'r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan wedi cynnal digwyddiadau gyda’r Fari dros y blynyddoedd diwethaf
Oni fyddai'n hyfryd meddwl y gallai'r Eglwys Newydd gynllunio digwyddiad mor gyffrous eto, ond dim ond y dechrau fyddai'r penglog ceffyl a'r gwisgoedd. Dywedir wrthyf fod beirdd Cymraeg eu hiaith o hyd yn lleol sydd wedi recordio’r penillion Pwnco. Felly, gallai hyn i gyd fod yn bosibl. Beth mae eraill yn ei feddwl?
Uchod ceir braslun (ychydig yn ffansi efallai) o'r Fari Lwyd hunllefus.
A oes unrhyw un yn gwybod ble y gallem gael penglog ceffyl?
Efallai am y tro, yn y dyddiau Covid hyn, mai gwell fyddai cloi’r drws, tynnu'r llenni a thaflu coedyn ychwanegol ar y tân. Ac os clywch chi ryw synau rhyfedd y tu allan, gallwch esgus eich bod eisoes wedi mynd am eich gwely.
English
Cymraeg