Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Llwybrau Troed yr Eglwys Newydd
Cyn y ceir a'r lorïau sy'n rheoli ein bywydau y dyddiau hyn, cyn y ceffylau a'r wagenni, cyn y ffyrdd a'r lonydd ceid yr hen lwybrau troed a'r ffyrdd hynafol.
Ble roedden nhw, ac i le aethon nhw?
Oedd ganddyn nhw enwau? Ac a oes unrhyw olion ar ôl?
Sut lwybrau oedden nhw? Rydym wedi edrych ar ffyrdd trolion a'r tyrpeg o'r blaen, ond wrth edrych ar fapiau hynaf yr Arolwg Ordnans roedd cryn dipyn o lwybrau troed o amgylch y pentref hefyd:
Mae'n debyg y byddai'r ffordd drwy'r pentref i'r gogledd, tuag at Dongwynlais, wedi bod yn llwybr troed yn yr hen amser, gan newid yn ffordd drolion wrth i'r pentref dyfu.
Yn yr un modd, y llwybr i'r de o Waun Treoda tuag at Gaerdydd. Roedd y llwybr troed hwn hefyd yn gwyro i'r dwyrain yn y Ffilog tuag at ystâd y Mynydd Bychan, ac ymlaen i'r Mynydd Bychan y tu hwnt.
Roedd llwybr troed tua’r gogledd o’r hen Santes Fair a'r castell i fyny i ffermydd Gelli’r Ynn (Ashgrove) a Phen-twyn a thu hwnt. Dyma'r A470 erbyn hyn!
Roedd ffordd hynafol y porthmyn o Eglwysilan a Gelligaer dros Ddraenen Pen-y-graig yn croesi Rhiwbeina a Chaedelyn tuag at y castell. Roedd wedyn yn dilyn y nant, gan groesi Heol Merthyr ar Fferm y Pentre ymlaen i Ystum Taf (Llandaff Yard o roi enw arall iddo). Roedd wedyn yn croesi Afon Taf dros ryd ac ymlaen i Radur.
Roedd ffordd hynafol arall yn mynd o Bant-mawr i Lwyn Celyn a thafarn yr Hollybush, ac ymlaen i Ysgubor y Degwm, gan groesi caeau i Fferm Heol Don (sydd bellach wedi'i cholli) a thuag at Ystum Taf a'r hen bont yn Llandaf
Yna roedd yr hen lwybr o Felin Gruffudd, heibio Felindre a'r groesffordd i'r hen eglwys a'r castell.
Mae olion llwybrau troed eraill i’w cael, fel yr un lle mae Tywern Road yn rhedeg erbyn hyn.
Ac ar hyd glan yr Afon Taf tuag at Dongwynlais. Mae'n debyg na fyddwn byth yn gwybod i le'r oedd yr holl lwybrau troed yn arwain, na'u pwysigrwydd.
Roedd rhai o'r llwybrau troed hyn o'r math pellter hir ac yn syml yn pasio drwy'r Eglwys Newydd yn unig, ond roedd eraill yn naturiol yn ffurfio 'llinellau awydd' gan gysylltu grwpiau o dai neu ffermydd.
Mae'r map isod yn dangos rhai o'r llwybrau troed a'u cyfeiriadau o amgylch y pentref. Map heb ffyrdd na rheilffyrdd yw hwn ac mae'n ddi-amser. O leiaf gannoedd o flynyddoedd oed ac mae'n debyg yn hŷn o lawer!
Mae'r unig hen lwybr troed y gwn i amdano bellach yn rhedeg y tu ôl i Caegwyn Road a Manor Rise ac yn creu lôn gefn. Mae'n ymagor wrth y goleuadau traffig ar Ffordd y Faenor ac mae wedi gordyfu gyda llwyni a choed. Wedi'i adael i fynd yn fwriadol, ond yn amlwg y llwybr troed hynafol.
A oes unrhyw un yn gwybod am unrhyw lwybrau eraill a oroesodd?
English
Cymraeg