Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Hen Dŷ Povey Tŷ dirgel arall!
Ym 1904, pan oedd y cyngor plwyf yn ystyried ailenwi strydoedd yr Eglwys Newydd, roedd cynnig i ailenwi pen deheuol hen Heol Merthyr, i'w galw'n 'Y Ffilog'; enw sy'n parhau hyd heddiw.
Rhedai'r darn o ffordd o 'ffin ddeheuol y plwyf, i ‘Old Povey's House'
Roedd ail ran i’w hail-enwi yn Gwauntreoda yn rhedeg o 'Hen Dŷ Povey’ i'r efail wrth y nant'
Ond ble'r oedd Hen Dŷ Povey, a phwy oedd yr Hen Povey?
Dydi'r hen fapiau ddim yn helpu llawer. Fel y gwelsom o'r blaen, nid oedd unrhyw dai i’w gweld i'r de o'r Comin ar Fap Degwm 1841, ac erbyn y map Arolwg Ordnans cynharaf o 1880, roedd llawer o ochr ogleddol yr hen Heol Merthyr wedi'i datblygu (ond dim byd ar yr ochr ddeheuol, ac eithrio'r hen fferm)
Erbyn y 1860'au roedd y pentref yn tyfu, gyda Gwaith Tun Melingriffith i'r gogledd a Gwaith Haearn y Coleg yn Ystum Taf (Llandaff Yard) Ac wrth gwrs, roedd y rheilffyrdd wedi cyrraedd. Roedd pobl newydd yn symud i mewn ac roedd angen tai.
Roedd y tir o amgylch Gwaun Treoda yn rhan gynnar o dwf y pentref. Rydym wedi gweld sut yr adeiladodd William Vachell gartref bonheddwr ar ochr ogleddol y comin, a dechreuwyd datblygu’r holl ddarn hwnnw yn y degawdau dilynol.
Erbyn y cyfrifiad yn 1861, roedd tŷ William Vachell, Bryn Glas, yn gartref i’r Bedlington's ac roedd nifer o fythynnod teras wedi'u codi gerllaw. Roedd Philog Terrace i'r de ac Alma Terrace yn nes at Fryn Glas. Roedd hyd yn oed siop groser (un o'r siopau 'iawn' cyntaf yn y pentref mae'n debyg). Mae'r braslun yn dangos sut roedd yr ardal yn datblygu.
Ymhlith y newydd-ddyfodiaid roedd y teulu Povey a oedd yn byw yn Gwaun Treoda (ansicr ai enw tŷ neu'r ardal oedd hwn). Roedd John Povey yn arddwr 69 oed o Berkshire, yn byw gyda'i wraig Harriet, 3 o blant, nith, merch yng nghyfraith a lletywr. Wrth edrych ar fap AO 1880, roedd tŷ sengl mewn llain helaeth o dir a fyddai wedi bod yn ddelfrydol ar gyfer garddwr marchnad. Tybed ai hwn oedd ei gartref? Dyma hefyd y fan lle byddai'r newid yn enw'r stryd wedi digwydd.
Fel ychwanegiad, roedd mab hynaf John Povey, Phillip, yn byw'n lleol hefyd ym Mhant-bach ychydig y tu ôl i'r comin. Erbyn cyfrifiad 1871, mae'n ymddangos ein bod wedi colli John Povey, ond mae ei blant gwrywaidd yn aros yn y pentref.
Felly, ai John Povey, a oedd yn byw ar yr hen Heol Merthyr gyda'i deulu a'i ardd farchnad, oedd yr 'Old Povey' y cyfeiriwyd ato gan y cyngor plwyf dros 40 mlynedd yn ddiweddarach? Mae'n debyg na chawn fyth wybod. Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn gymeriad, i fod wedi cael ei gofio yr holl flynyddoedd hynny'n ddiweddarach!
Yn ddiddorol iawn, mae'r plot lle rwy'n creduy trigai’r 'Hen Povey' bellach wedi'i drawsnewid. Mae llawer mwy o dai wedi'u codi, ac mae'r hen dŷ 'Povey' wedi'i ddymchwel a'i ddisodli gan floc o fflatiau, Philog Court. Dyma'r bloc 3 llawr gyda'r sgrîn goncrit dyllog yn ei gwedd flaen; a godwyd yn y 1950au neu'r 60au yn ôl pob tebyg
A oes unrhyw un yn gwybod unrhyw beth am hyn? Neu a fydd yr 'Hen Povey' a'i dŷ yn parhau i fod yn un arall eto o dai dirgel ein pentref?
Roedd Phillip Povey (81 oed), mab hynaf ‘Hen Povey’ yn byw ar Ironbridge Road, Tongwynlais yn 1911. Tybed a oes unrhyw aelodau o'r teulu yn dal ar hyd y lle yn y pentref?
English
Cymraeg