Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Y Presbyteriaid
Ydych chi erioed wedi sylwi ar y plac yn uchel i fyny ar flaen y Tabernacl sy'n dweud 'Methodistiaid Calfinaidd'? Peth go ryfedd i Eglwys Bresbyteraidd.
1866 yw dyddiad y plac, felly yn eithaf cynnar ar gyfer capel anghydffurfiol yn y pentref. Gwyddom i Gapel Bedyddwyr gael ei sefydlu yn Ararat ar Waun Treoda ym 1824, ond gall y Methodistiaid Calfinaidd hawlio capel hyd yn oed yn gynharach. Cyfarfu cymdeithas am y tro cyntaf ym 1808 mewn hen ysgubor ar Heol Pant-mawr (ychydig i fyny o dafarn yr Hollybush). Fe'i henwyd yn Ebeneser.
Roedd y Methodistiaid Calfinaidd cynnar hyn yn Gymry Cymraeg a buont yn addoli yn Ebeneser am y 70 mlynedd nesaf. Nid ydym yn gwybod llawer am yr aelodaeth na'r gweinidogion, ond bryd hynny, byddai pregethwyr lleyg yn arwain gwasanaethau.
Byddai'r dyddiau cynnar hyn o addoli anghydffurfiol wedi cynnwys darlleniadau o'r Beibl a phregethu, gydag ychydig iawn o ganu. Roedd y Beibl wedi'i gyfieithu o'r Lladin i'r Gymraeg ym 1588, ond codi trwyn arno a wnâi yr eglwys sefydledig.
Roedd addoli anghydffurfiol yn amlwg yn boblogaidd yn yr ardal, ac fe dyfodd aelodaeth Ebeneser yn fwy nag y gallai’r sgubor ei dal; roedd angen mwy o le arnynt. Erbyn canol y 1860au, cawsant brydles ar dir ger y nant yn yr Eglwys Newydd ac adeiladwyd y Tabernacl. Darparodd yr aelodaeth a chefnogwyr Ebeneser ddeunyddiau a chludo nwyddau heb gost, ac adeiladwyd y capel gan yr adeiladwr lleol William Evans.
Yn amlwg, roedd y symudiad i leoliad mwy canolog yn llwyddiannus ac, er bod yr aelodaeth fechan yn gorfod ysgwyddo dyled o £600, erbyn 1870 roedd 71 o aelodau ac Ysgol Sul o 123 o blant.
Fel cynulleidfa fechan, ni allai’r Tabernacl gynnal gweinidog parhaol, ac roedd yn dibynnu ar bregethwyr gwadd. Nid tan 1875 y cafodd y Tabernacl ei gweinidog cyntaf, y Parch David Evans (o Aberhonddu), ac arhosodd am y 18 mlynedd nesaf.
Heb fod yn hir ar ôl ei benodi, gyda masnach y byd yn dioddef ac anawsterau ym Melin Gruffudd, roedd llawer o ddiweithdra yn y pentref. Rhoddodd y Parch David Evans y gorau i'w gyflog bugeiliol, ond roedd yr achos yn dal i gynnig gofal ysbrydol tan 1893 pan oedd unwaith eto mewn sefyllfa i gynnal gweinidog. Yn anffodus, bu farw'r Parch Evans y flwyddyn ganlynol.
Ar ôl anawsterau rhan olaf y 19eg ganrif, llewyrchodd y Tabernacl unwaith eto gydag aelodaeth ac Ysgol Sul a oedd ar gynnydd. Adeiladwyd siambr organ ym 1909 gan Edwin Williams, mab yng nghyfraith yr adeiladwr gwreiddiol, ac ystafell ysgol yn y cefn a adeiladwyd yn 1929 gan Taliesin Williams, yr ŵyr.
Gosodwyd goleuadau nwy ym 1903 a darparwyd trydan ym 1920.
Arhosodd y Tabernacl yn Gymraeg ei hiaith am y 30 mlynedd cyntaf, gyda gwasanaethau Saesneg yn cael eu cyflwyno erbyn y 1890au. Erbyn 1895, roedd yr holl wasanaethau yn Saesneg.
Mae'r Tabernacl yn cael ei gydnabod yn briodol fel rhan bwysig o hanes ein pentref ac mae wedi'i restru fel Gradd 2 gan CADW. Mae hyd yn oed y waliau a'r rheiliau terfyn blaen wedi'u rhestru!
Ond beth am Ebeneser? Wel, parhaodd fel capel annibynnol am rai blynyddoedd, ac yna fel Ysgol Sul i'r Tabernacl, cyn cau yn y pen draw yn yr 1880au. Mae'n syndod bod yr adeilad yno o hyd, ond fe'i troswyd yn deras o 3 bwthyn hardd bron i 150 o flynyddoedd yn ôl. Providence Place yw’r enw ar y 3 bwthyn heddiw. Er eu bod yn llawer hŷn na'r Tabernacl a bod ganddynt hanes diddorol iawn, nid ydynt wedi'u rhestru. Tybed pam?
Mae'r darn hwn wedi codi llawer o gwestiynau:
Pwy oedd y Methodistiaid Calfinaidd a phryd y dechreuon nhw yng Nghymru?
A phryd y daethant yn Bresbyteriaid?
Beth sydd wedi digwydd iddynt? (Erbyn hyn ceir eglwys Gymraeg ddiweddar iawn yn y Tabernacl)
Beth am y siop drws nesaf, a beth am aelodau'r eglwys?
A oes gan unrhyw un unrhyw atebion?
Diolch yn fawr i Jan Cox am lawer o'r wybodaeth ar gyfer y darn hwn, hefyd gwybodaeth ddiddorol yn Old Whitchurch gan Edgar Chappell a The History of Nonconformity in Cardiff (cyhoeddwyd 1901)
English
Cymraeg