Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru

Melin Gruffudd

101-37-pic-Melingriffith-Works-old-photo.jpg

Un o'r ymholiadau a godwyd amlaf am yr Eglwys Newydd yw’r pwnc y tro hwn; y felin ym Melin Gruffudd.

Ble roedd y felin? Pa mor hen, a pha fath o felin oedd hi? Beth ddigwyddodd iddi, ac wrth gwrs, pwy oedd Gruffudd (a roes i’r felin ei henw)?

Efallai y dylem ddechrau gyda'r hyn a wyddom. Mae'n eithaf clir nad oes dim byd yno nawr, ac eithrio'r enw, a'r hen ffos o’r gamlas i’r felin. Dywed rhywrai fod yr hen gerrig melin ger mynedfa taith gerdded y gamlas yn dod o Felin Gruffudd; pwy â ŵyr! Mae llawer o gyfeiriadau at y felin mewn hen ddogfennau ac yn amlwg, mae Melin Gruffudd yn hen iawn.

Mae'n anodd gwybod pa mor hen y gallai'r felin fod wedi bod. Yn ôl pob tebyg, aiff yn ôl cyn y goncwest Normanaidd, ac o bosibl hyd yn oed yn gynharach! Pe bai melin yn Melin Gruffudd am gannoedd o flynyddoedd tan y 18fed ganrif, efallai y byddai melin gynharach wedi bodoli cyn hynny hefyd. Ond dyfalu pur fyddai hynny.
Mae'n debyg bod Melin Flatford yn Suffolk, o ddarlun adnabyddus John Constable, Haywain, yn felin gyfoes â Melin Gruffudd (gweler y ffotograff, drwy gwrteisi'r Oriel Genedlaethol). Awgrymir bod bwthyn a melin Willie Lott yn Flatford yn dyddio o'r cyfnod cyn y goncwest ac fe gaiff ei chrybwyll yn Llyfr Domesday. Wedi'i disgrifio fel 'adeilad pren bach mae'n debyg yn malu grawn ar ôl y cynhaeaf yn yr hydref ac i mewn i'r gaeaf gan ddefnyddio pŵer y dŵr o’r Afon Stour'

Roedd melinau dŵr cynnar yn aneffeithlon iawn a byddent yn cael eu lleoli wrth ymyl afon, gyda ffrwd felin syml, yn pweru olwyn ddŵr dan y rhod. Dyma lle byddai dŵr yn rhedeg o dan olwyn y felin a draenio i ffwrdd ar yr un lefel. Defnyddiai Flatford y math hwn o olwyn melin.

Yn ôl pob tebyg, defnyddiai y Melin Gruffudd cynnar y math hwn o bŵer dŵr hefyd. Felly, gellir dychmygu y byddai'r felin wedi'i lleoli'n agos iawn at Afon Taf gyda nant felin fer ac all-lif o’r olwyn nôl i’r afon. Gwyddom fod gan Afon Taf gyfres o raeadrau cerrig naturiol felly byddai'n rhaid lleoli'r felin ychydig i fyny'r afon o un o'r rhain, felly mae hynny'n ddechrau da.

Gwyddom hefyd o'r hen gofnodion fod Melin Gruffudd wedi dioddef difrod tân a rhyfel sawl gwaith drosodd a chyfeiriwyd ato'n aml fel 'adfail'. Daw’r cyfeiriad cyntaf at felin ym 1158.

Yn ddiau, dros amser, gwelodd Melin Gruffudd newidiadau dylunio i fod yn fwy effeithlon. Rhywbryd (canoloesol mae'n debyg), cafodd Melin Gruffudd ei hailadeiladu mae’n debyg fel melin ag olwyn dros y rhod. Roedd hyn yn gofyn am olwyn felin fwy lle cyflwynwyd y dŵr ym mhen uchaf yr olwyn a'i ollwng dros y rhod am i lawr. Roedd hyn yn rhoi llawer mwy o bŵer, ond roedd angen cyflwyno dŵr, gydag arglawdd o 3-4m. Byddai hyn hefyd yn gofyn am ffos o nant/ffrwd i’r felin yn uwch i fyny’r afon a fyddai’n llifo i bwll melin. Dyma'r math o felin yr ydym i gyd fwyaf cyfarwydd â hi. Mae'n ddigon posibl y gallai'r felin newydd hon fod wedi'i lleoli ymhellach i'r de, ac mae'n debyg na fyddai hynny yn bell o Oak Cottage.

Mae'r braslun isod yn rhoi syniad o sut y gallai melin ag olwyn dros y rhod fod wedi gweithio. Byddai hyn yn nodweddiadol o'r Oesoedd Canol diweddarach. Dau lawr neu hyd yn oed dri llawr o ran uchder ac wedi'i osod ar arglawdd fel bod y dŵr yn rhedeg dros olwyn y felin, yn gollwng islaw, ac yn ôl i'r afon. Byddai'r geriau (a fyddai wedi'u gwneud o bren) yn gyrru cerrig y felin ar y llawr uwch ben. Byddai'r grawn heb ei falu yn cael ei storio ar y llawr uchaf (neu'r atig) ac yn gollwng drwy sgydau pren, yn cael ei gasglu fel blawd mewn sachau ar y gwaelod. Nid yw'r dechnoleg hon wedi newid ers cannoedd o flynyddoedd.

Mae'n debyg y byddai ffermwyr o'r ardal yn dyrnu eu grawn ar y fferm ac yn danfon y sachau grawn i'r felin, gan gasglu'r blawd melin yn ddiweddarach. Mae'n debyg mai cost y malu fyddai swm o'r grawn.

Mae'n ddiddorol bod yr unig dŷ yn Heol Don yng nghyfrifiad 1841 yn rhestru John Cornish fel masnachwr blawd (mwy amdano yntau dro arall).

Felly, unwaith eto, llawer o gwestiynau a dim atebion llawn.

Byddai'r felin gynnar wedi gofyn am felinydd ac efallai ei wraig. Byddai'r felin ddiweddarach, dros y rhod, wedi gofyn am fwy o bobl; melinydd ac ychydig o weithwyr melin (a theulu'r melinydd hefyd mae'n debyg). Weithiau, byddai'r melinydd yn byw ar y safle, neu mewn bwthyn cyfagos. Wyddon ni ddim.
A beth am Gruffudd ei hun? Nid oes unrhyw gofnodion i'n helpu, ac eithrio cyfeiriad prin y gallai'r felin fod wedi'i henwi ar ôl mab Ifor Bach, sef Gruffudd

A oes gan unrhyw un unrhyw beth arall i'w rannu?