Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Sefydliadau â Lifrai
Pe baech yn rhestru'r holl sefydliadau â lifrai a gaiff eu cynnal (neu a arferai gael eu cynnal) yn y pentref, ni fyddai'n anodd rhaffu rhestr hirfaith: Brigâd y Bechgyn, y Sgowtiaid, Brigâd y Merched a’r Geidiau. Ac yna ar gyfer y rhai ychydig yn iau, Adran Iau BB, y Cubs a’r Brownies. Ac mae grwpiau eraill, sy'n gysylltiedig ag eglwysi a chapeli a sefydliadau cysylltiedig eraill, oll yn ceisio dangos i bobl ifanc pa beth sy'n dda mewn cymdeithas.
Bydd gan lawer o bobl atgofion melys o'r grwpiau hyn, yn casglu bathodynnau, gwersylla, gemau tîm a gorymdeithiau eglwys. Pa atgofion allwch chi eu rhannu?
Bron i 150 o flynyddoedd yn ôl, ym mhapur newydd y Cardiff Times ar 26 Medi 1874, ceir adroddiad am grŵp arall (hyd yn oed hŷn), Urdd Annibynnol y Temlwyr Da a’r Temlwyr Ifanc yn yr Eglwys Newydd, a oedd yn dathlu eu pen-blwydd cyntaf. Mae'r adroddiad papur newydd yn nodi:
'Roedden nhw'n dathlu eu pen-blwydd cyntaf Ddydd Sadwrn gyda chyflenwad digonol o de a chacen. Yna ffurfiwyd gorymdaith, o dan arweiniad Band Pres Temlwyr Mellin Griffith’ (sic). Roedd gwahanol liwiau o regalia ynghyd â fflagiau a baneri. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yng Nghapel Wesleaidd, Melin Gruffudd
Felly, pwy oedden nhw? Faint o oedolion a phlant? Nid dirgelwch arall, siawns!
Mae 2 ffotograff isod sy'n ymddangos yn gwbl ddigyswllt, ond mae thema
Mae'r cyntaf yn dangos dyn barfog mewn car to agored yn 1913 yn y ganolfan ddinesig, dan y pennawd 'Grand Chief Templar Joseph Malins on a farewell tour of the UK’
Mae'r ail ffotograff yn dangos bws to agored (ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf mae'n debyg) gyda hysbyseb ar y blaen ar gyfer dannedd dodi. Y cyfan yn rhyfedd iawn.
Mae ychydig o balu yn cynnig ambell i ateb.
Roedd y Temlwyr Da yn fudiad dirwest, yn benderfynol o gael gwared ar ddrygioni'r ddiod gadarn a oedd yn felltith ym Mhrydain yn ôl y sôn yn oes Fictoria. Y Temlwyr Ifanc oedd ochr ieuenctid y sefydliad. Ar ei anterth cyn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd cannoedd o filoedd o aelodau yng ngwledydd Prydain a hyd yn oed mwy yng Ngogledd America. Yn amlwg, ym 1874 roedd aelodaeth go lewyrchus yn yr Eglwys Newydd.
Cynhaliai Joseph Malins (y dyn barfog yn y car), a'i deulu fusnes llwyddiannus iawn yn cyflenwi dannedd dodi i werin Caerdydd o'i safle yn Heol y Frenhines. Yn ôl pob tebyg, gallech brynu set lawn o ddannedd gosod (wedi'u gwneud o'r fylcanit a'r ebonit gorau) am 5 gini, neu set aur 18 carat am 15 gini. Addawyd echdynnu 'di-boen' i chi, a gwarant o 5 mlynedd. Erbyn 1907, roedd dros 5,000 o setiau wedi'u gwerthu.
Am adroddiadau rhyfedd o'r cyfnod, a'r cysylltiadau â'r pentref.
A oes unrhyw un yn gwybod am y Temlwyr Ifanc yn yr Eglwys Newydd yn y cyfnod mwy diweddar?
A beth am y dannedd gosod o Heol y Frenhines? A fyddai unrhyw un yn lleol wedi prynu set o'r dannedd gosod 18 carat? Am etifeddiaeth deuluol!
Diolch i Chris Butler a'i lyfr 'Cardiff Mysteries' am y llun a'r wybodaeth am Joseph Malins, ac i Steve Nicholas am y llun o'r bws to agored
English
Cymraeg