Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Cwm-y-Fwyalchen
Roedd hen fwthyn to gwellt ym mhen deheuol y pentref o'r enw Cwm-y-Fwyalchen.
Yn ôl British History Online, roedd yn 'dŷ to gwellt hynafol ym mhentrefan y Ffilog ar ochr orllewinol Ffordd Llanisien'.
Ai hwn oedd yr un tŷ dan yr enw Mwylach-Bwlch ar fap Arolwg Ordnans 1880 ger Ysgol Llwynbedw ar Heol Pant-bach?
Yng Nghyfrifiad 1851, roedd bwthyn o'r enw’r Blackbird Inn (drws nesaf i Lwynbedw), â Thomas Howell yn benteulu gyda'i wraig Blanch a merch a oedd yn oedolyn. Roedd 3 lletywr ganddynt hefyd.
Mae'r ddelwedd hon, drwy garedigrwydd Llyfrgell Caerdydd, yn dangos Bythynnod Cwm-y-Fwyalchen yn y Ffilog. Mae’n rhaid mae’r un ydynt.
Mae’r Swyddfa Bost bresennol ar gornel Heol Pant-bach yn eistedd yng nghanol y llain o fresych yn y ffotograff!
A oes unrhyw un yn gwybod mwy am yr hen ran hon o'r pentref?
English
Cymraeg