Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru

Bookers Felindre

101-40-TW-Booker-image.jpg
101-40a-sketch-of-Yr-Ynys.jpg

Yn ôl ym mis Tachwedd y llynedd edrychwyd ar TW Booker a'i ewythr Richard Blakemore, a sut etifeddodd TWB waith Melin Gruffudd a'r tŷ crand, Felindre.

Y tro hwn, efallai y gallwn edrych ychydig am sut y tyfodd TWB i'w safle, a’i wraig a'i blant.

Fel y darganfuom, symudodd TWB i'r Eglwys Newydd fel plentyn deunaw oed i fyw gyda'i ewythr yn Felindre. Erbyn ei fod yn 23 oed roedd wedi priodi â Jane-Anne Coghlan, ac wedi ymgartrefu yn gwpwl priod yn Yr Ynys, tŷ hardd ychydig i fyny'r afon yn Nhongwynlais. Am y chwe blynedd nesaf, yr Ynys oedd eu cartref teuluol a chawsant y ddau gyntaf o'u plant; Anna (neu Hanna) Booker a aned ym 1826, a Richard Blakemore Booker, a aned ym 1829.

Erbyn 1830, roeddent wedi symud i Felindre, tŷ llawer mwy crand ac wedi mynd ati i ailadeiladu ac adfer yr hen dŷ i fod yn balas pleser newydd. Roedd gawsant dri phlentyn arall hefyd; TW Booker (iau), a aned ym 1830, Mary Booker a aned ymyn 1832 a John Partridge Booker a aned ym 1834.

Nid ydym yn gwybod llawer am fywyd teuluol cynnar y Bookers, ond mae'n debyg eu bod wedi mwynhau bywyd teulu Fictoraidd cefnog. Byddai'r plant wedi cael eu haddysgu gartref, a byddent wedi cael nani. Ehangwyd y gerddi a byddent wedi gwneud amgylchedd gwych ar gyfer chwarae’r plant.

Mae cyfrifiad 1841 yn adrodd mai Thomas Booker, sydd bellach yn 35 oed, oedd y penteulu a disgrifiodd ei hun fel 'meistr haearn'. Roedd ei wraig, Jane a 4 o'i phlant yn derbyn gofal gan 8 o weision a oedd yn byw i mewn, a'r coetsmon a oedd yn byw drws nesaf ym Mhenylan.

Mae'r ddelwedd isod (drwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) yn dangos TW Booker yn y 1840au, wedi'i baentio gan George Zobel.

Erbyn cyfrifiad 1851, roedd TWB yn absennol gan fod Jane wedi'i nodi fel y penteulu, gyda'i 5 plentyn gartref. Roedd ganddynt 8 o weision byw i mewn o hyd, gan gynnwys Anna Evans 79 oed (fel morwyn a nyrs) a gŵr gweddw 40 oed fel bwtler. Gerllaw, roedd y garddwr, yr ostler a'r 2 goetsmon yn byw. Yn amlwg, roedd pethau'n edrych ar i fyny!

Yn ogystal â bod yn ddyn busnes llwyddiannus, roedd TWB wedi'i ethol yn Uchel Siryf Morgannwg ac yn ddiweddarach yn AS Henffordd. Felly, roedd am sicrhau olyniaeth busnes y teulu. Adeiladodd dai mawr ar gyfer dau o'i feibion, The Pines ar gyfer ei fab hynaf, Richard a Greenhill ar gyfer John Partridge ei ieuengaf. Roedd TWB Junior, a oedd yn ddyn busnes addawol, yn amlwg yn mynd i etifeddu Felindre
Gan mai dim ond un o'i feibion a ddangosodd lawer o ddiddordeb yn y busnes dechreuodd y TWB hŷn ymbaratoi rôl i TWB iau yn y busnes yn y dyfodol. A da o beth mae'n debygoedd hynny, oherwydd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, bu farw TWB (a oedd wedi ychwanegu enw ei ewythr, Blakemore i'w enw ei hun) yn Llundain yn 1858, yn 57 oed.

Mae stori, er ei fod yn cael ei ystyried ar gyfer pethau uwch yn y Senedd, y darganfuwyd ei fod yn cael perthynas â gwraig llyngesydd, ac nid oedd hynny wrth fodd y Frenhines Victoria!

Ni wnaeth Anna (Hanna), y ferch hynaf, erioed briodi, a bu farw yn 1855 yn ddim ond 29 oed. Dim ond ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ym mis Ebrill 1860, priododd ei chwaer iau Mary â'r Parch Cyril Stacey yn (hen) Eglwys Fair, ac adroddodd y papurau lleol ar yr achlysur disglair a'r derbyniad ar y lawntiau Felindre. Yn anffodus, nid oedd dim i'w weld yn para, a bu farw hi hefyd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn 35 oed.

O'r 2 fab arall, dwedodd Edgar Chappell fod Richard, y mab hynaf 'o arfer afradlon', a'i fod wedi marw pan oedd ond yn 32 oed. Dim ond am gyfnod byr iawn y gallai fod wedi byw yn y Pines
Priododd John Partridge Booker, a dechrau teulu a chael 2 ferch yn Greenhill, ond bu farw yntau'n ifanc ond yn 34 oed.

Ymddengys mai TWB iau yw'r unig un o'r plant i fyw i ganol oed. Cymerodd drosodd y busnes, priododd â Caroline a chawsant 8 o blant, pob un yn ferch. Erbyn 1861 roedd yn byw yn Felindre gyda Caroline ac 8 o weision (gan gynnwys Anna Evans, sydd bellach yn 89!). Yn y blynyddoedd i ddod, roedd yn ganolog i chwalu'r holl ymdrech ac erbyn 1881 roedd wedi symud gyda'i deulu i Southerndown. Bu farw yn 1887 yn 57 oed heb unrhyw etifedd gwrywaidd. Mwy am TWB Iau dro arall.

Mae beddrod teuluol ym Mynwent Hen Eglwys Fair lle mae'r teulu i gyd wedi'u claddu. Cafodd y beddros ei ddylunio a'i gerflunio gan ddyn lleol, Eli Jenkins. Mwy amdano yntau hefyd dro arall
Erbyn diwedd y ganrif, dim ond gweddwon TWB Iau (Caroline) a JPB (Clara) sy'n ymddangos eu bod yn fyw. Tybed pa un o'r merched hyn oedd y 'Mrs Booker' a werthodd Felindre a'r tir gerllaw Corfforaeth Caerdydd ar gyfer yr ysbyty meddwl newydd, a phwy gytunodd ar y cyfnewid tir ar gyfer y Maes Hamdden (a’r llyfrgell yn y dyfodol)? A oes unrhyw un yn gwybod?