Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Arddull Newydd/Hen Arddull
Arddull Newydd/Hen Arddull
A ydych erioed wedi meddwl tybed pam fod y flwyddyn dreth yn dod i ben ar ddyddiad mor rhyfedd, 5 Ebrill bob blwyddyn?
Yn y Deyrnas Gyfunol, mae wedi bod yn draddodiad erioed y byddai pob blwyddyn yn cael ei llywodraethu gan bedwar diwrnod chwarterol, yn seiliedig ar y tymhorau. Dygwyl Fair, (sef erbyn heddiw, 25 Mawrth), Diwrnod Alban Hefin (24 Mehefin), Dygwyl Fihangel (29 Medi) a Dydd Nadolig (25 Rhagfyr). Roedd y rhain (ac yn dal i fod) yn ddyddiau pan oedd ffermwyr ac eraill yn talu eu rhenti i'r tirfeddianwyr, pan gai gweision eu hurio a phan ddechreuai tymhorau ysgol (mae llawer o ysgolion preifat yn dal i ddefnyddio'r tymhorau hyn). Yn wir, ystyriwyd Dygwyl Fair yn ddiwrnod cyntaf y flwyddyn ariannol.
Erbyn diwedd yr 16eg ganrif, sylweddolwyd bod gan y calendr hynafol (y Calendr Iwlaidd) wall mewnol a'i fod wedi caniatáu gormod o flynyddoedd naid yn y gorffennol. Cynigiodd y Pâb, Gregory XIII galendr newydd i gywiro hyn ac i ddal i fyny, mabwysiadwyd ei galendr yntau ledled Ewrop, ond teimlai Prydain ei fod yn rhy 'Babaidd', felly cadwyd at yr hen galendr Iwlaidd.
Nid tan 1751 y penderfynodd Prydain fabwysiadu'r calendr Gregoraidd newydd. Effaith hynny oedd mai dim ond 282 diwrnod o hyd oedd 1751, gan ddechrau, nid ar 1 Ionawr, ond ar Ddygwyl Fair yn lle hynny, gan orffen ar 31 Rhagfyr. Yn y flwyddyn ganlynol, 1752, hepgoroedd y wlad 11 diwrnod arall. Felly, dilynwyd Dydd Mercher 2 Medi gan Ddydd Iau 14eg Medi!
Roedd straeon am derfysgoedd o amgylch y wlad ymhlith y werin leol a oedd yn poeni eu bod wedi colli cymaint o ddyddiau o'u bywyd a bod dyddiau saint a dyddiau sanctaidd yn newid, gan gynnwys y dyddiadau ar gyfer y Pasg. Efallai mai mythau poblogidd yn unig oedd y straeon hyn; fodd bynnag, ceir paentiad gan William Hogarth (gweler isod, drwy garedigrwydd Amgueddfa John Soanes) o'r enw 'Give us Back our Eleven Days' lle'r oedd pobl yn Llundain yn picedu gyda phlacardiau cartref.
Sylweddolodd llywodraeth y dydd y gallent golli gwerth 11 diwrnod o drethi oherwydd y calendr newydd, felly newidiodd ddechrau'r flwyddyn ariannol o 25 Mawrth i’r 5ed o Ebrill. Cafodd y dyddiad ei addasu eto yn 1800 pan sylweddolon nhw nad oedd blwyddyn naid arall wedi'i chynnwys, felly symudodd y flwyddyn ariannol newydd o'r diwedd i’r 6ed o Ebrill.
Tybed beth oedd barn trigolion yr Eglwys Newydd am yr holl newid hwn? A fyddent hyd yn oed wedi sylwi? Does dim byd wedi'i gofnodi.
Ond mae 'na gymuned yng Nghwm Gwaun ger Abergwaun yng ngorllewin Cymru lle na ddigwyddodd y newid erioed, ac fe gadwon nhw at yr hen galendr Iwlaidd. Hyd yn oed heddiw, mae'r gymuned o 200 yn dathlu'r Flwyddyn Newydd ar 13 Ionawr. Maen nhw'n ei alw'n 'Hen Galan', yr Hen Ddathliad. Efallai y dylem feddwl am gael ail Flwyddyn Newydd yn yr Eglwys Newydd hefyd. Beth y’ch chi’n ei feddwl?
English
Cymraeg