Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Diwrnod Ffŵl Ebrill - Heddlu Camlas/Smyglwyr
Heddiw yw Ebrill 1af, a ddisgrifir yn draddodiadol fel Diwrnod Ffŵl Ebrill! Diwrnod perffaith ar gyfer edrych ar un o'r eitemau mwy rhyfedd rydyn ni wedi edrych arno hyd yn hyn yn y gyfres hon am yr Eglwys Newydd.
Oeddech chi'n gwybod bod corff a fodolai o'r enw 'Heddlu Camlas Morgannwg' ar un adeg?
O'r diwrnod yn 1794 pan agorwyd y gamlas o amgylch yr Eglwys Newydd, roedd perygl bob amser y byddai nwyddau'n cael eu dwyn a chychwyr yn ymladd â’i gilydd. Erbyn y 1830au, roedd dros ddau gant o fadau ar y gamlas a niferoedd di-rif o ddynion, bechgyn a menywod, badau i deithwyr, ffariars a gweision stabl a cheidwaid cloeau. Yn ogystal, roedd tafarnwyr, oportiwnyddion a chynffonwyr ac wrth gwrs blant diwardd yn taflu cerrig at bawb a phopeth.
A beth am y smyglwyr? Cyn gynhared â 1732, galwodd y swyddog tollau yng Nghaerdydd am gymorth i gael gwared ar smyglwyr o’r ardal (ond heb lwyddiant!)
Yn 1818, glaniwyd llwyth mawr o wirodydd wedi'u smyglo yn Ynys y Barri, bryd hynny a oedd yn dal i fod yn ynys ar wahân, ac yn fangre hysbys i gangiau smyglo. Llwyddodd gwŷr y tollau i gael eu bachau ar dair casgen, ond canfu'r rhan fwyaf ohono ei ffordd i barlyrau yfed Caerdydd ac i'r badau ar y gamlas i iro llwnc llawer i löwr a gweithiwr ffowndri.
Erbyn 1850, penodwyd nifer fach o gwnstabliaid camlas gan gwmni'r gamlas i gadw trefn ac i helpu i atal dwyn. Erbyn adeg y cyfrifiad yn 1851, roedd y Cwnstabl Thomas Spencer o heddlu'r gamlas wedi ei osod yn Nantgarw ac yn rhentu bwthyn bach yn y pentref gyda'i wraig Elizabeth.
Dros y blynyddoedd canlynol, adroddodd y papurau newydd lleol ar 'weithgareddau' gwerin y gamlas. Ym mis Mawrth 1854 adroddodd y Cardiff and Merthyr Guardian fod cwnstabl heddlu'r gamlas John Thomas yn rhoi tystiolaeth yn y llys yn erbyn David Davies, cychwr, a gyhuddwyd o ddwyn glo o fad (gan ei roi i berson o'r enw Jane Henderson, 'person parchus' ei hymddangosiad). Ym mis Mehefin 1857, adroddodd yr un papur newydd fod James Casey, Gwyddel treisgar wedi'i gyhuddo o ymosod ar PC Sweeney o heddlu cwmni'r gamlas.
Erbyn mis Mawrth 1859 adroddodd y Cardiff Times fod George Calligan, un o'r heddlu yng ngwasanaeth Cwmni Camlas Morgannwg, wedi cyhuddo cyn-gwnstabl o'r enw Parkinson o ymosod arno tra ar ddyletswydd.
Nid oes unrhyw gofnodion o Heddlu Camlas Morgannwg, ac nid oes unrhyw arwydd o pryd y ffurfiwyd yr llu na pha bryd y rhoddodd orau i weithredu. Ym 1857, nododd yr Uwcharolygydd John Stockdale, a oedd yn gyfrifol am Heddlu Bwrdeistref Caerdydd, fod 'Cwmni Camlas Morgannwg yn talu ac yn cyflogi dau gwnstabl o dan fy awdurdod i, ar gyfer dyletswyddau ar y gamlas. Mae ganddynt hefyd orsaf heddlu ar wahân yn yr Hen Loc Môr'.
Mae'r ffotograff isod yn dangos hen Westy’r Loc Môr, yn y dociau ym mhen draw'r gamlas. Mae'n rhaid bod gorsaf yr heddlu wedi bod yn agos iawn gerllaw.
O'r 1860au, dechreuodd y rheilffyrdd oddiweddyd y gamlas ar gyfer masnach, a 10 mlynedd yn ddiweddarach, syrthiodd busnes y gamlas i ddyled. O 1882 ymlaen byddai unrhyw ofynion plismona wedi'u cyflawni gan Heddlu Doc Bute.
A oes unrhyw un yn gwybod unrhyw beth am blismyn y gamlas, neu am unrhyw ymwneud â gwerin y gamlas?
Diolch i'r Headline, gwefan Hanes yr Heddlu Rheilffordd a’r Dociau am lawer o'r wybodaeth hon
English
Cymraeg