Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Ysgolion
Faint ydyn ni'n ei wybod am yr ysgolion yn yr Eglwys Newydd? Mae llawer i'w ddarganfod, felly bydd yn rhaid i ni archwilio hynny mewn cyfres o erthyglau. Felly, dyma'r cyntaf.
Gan ddyfynnu Dylan Thomas, A dechrau yn y dechrau’n deg...
Nid yw'n syndod sylweddoli bod addysg yn y blynyddoedd cynnar wedi'i darparu gan y Gadeirlan yn Llandaf. Mae'n debyg bod cofnodion o ysgol gynnar yn dyddio o'r 10fed ganrif a barhaodd hyd at y 18fed ganrif lle gallai plant o'r Eglwys Newydd elwa o addysg. Yn wir, mae adroddiad o 1817 yn nodi bod Ysgol Genedlaethol ym 'mhentref' y Gadeirlan yn darparu 'cyfleusterau i'r plant tlawd o'r Eglwys Newydd a mannau eraill ym Mhlwyf Llandaf'
Roedd 'ysgolion cylchynol' yn 1752 yn Eglwys y Plwyf Yr Eglwys Newydd, yn 1753 yn y Ffilog (Philog) yn yr Eglwys Newydd ac yn 1758 yn Nhynycae yr Eglwys Newydd; ni pharodd yr un o'r ysgolion hyn ynhir. Fodd bynnag, o'r ysgolion cylchynol y tyfodd mudiad yr Ysgol Sul. Yn bennaf gyda’r Methodistiaid (yn Melin Gruffudd) a'u copïo wedyn gan yr Eglwys Anglicanaidd. Addysg sylfaenol ydoedd, ac anogwyd darllen, o'r Beibl. Mae adroddiadau gan Gomisiynwyr yr Eglwys ar y pryd yn rhestru 92 o blant yn mynychu'r Ysgol Sul mewn 3 chapel yn yr Eglwys Newydd.
Gyda dyfodiad meistri haearn o blith y Crynwyr i Felin Gruffudd yn y 1780au, gyda'u hagwedd oleuedig at les eu gweithwyr, fe sefydlon nhw gyfleusterau ysgol i'r plant. Ceir cofnodion o Edward Williams, Ysgolfeistr yn Melin Gruffudd yn 1786. Tybed ai'r dyn hwn oedd Edward Williams 'Iolo Morgannwg' yr hanesydd enwog/drwgenwog a oedd yn byw yn Llandaf bryd hynny? A oes unrhyw un yn gwybod?
Roedd y Crynwyr yn Melingriffith yn awyddus i sefydlu ysgol ar gyfer y pentref cyfan hefyd, ac yn 1807, rhoddwyd ystyriaeth i sefydlu Ysgol y Gymdeithas Brydeinig. Cynhaliwyd cyfarfod a chodwyd swm o £53 3s a 3d. Aeth cymaint â 63 o blant i'r ysgol newydd, ond roedd wedi cau 3 blynedd yn ddiweddarach.
Nododd adroddiad gan William Davies (yr uwch ficer corawl yn Llandaf) fod dwy ysgol ddydd yn yr Eglwys Newydd ym 1818 gyda 24 o fechgyn a 6 merch ac Ysgol Sul (yr hen Eglwys Fair mae'n debyg) gyda 60 o fechgyn a 46 o ferched. Aeth 20 o blant eraill o'r Eglwys Newydd yn mynd i'r ysgol yn Llandaf.
Yna, mae adroddiad o 1842 yn cyfeirio at ysgol a gedwir gan Thomas Phillips mewn adeilad allanol bach gerllaw tafarn y Fox & Hounds. Mae'r ffotograff adnabyddus isod yn dangos ysgol y Fox yn y dyddiau cynnar
Dysgai Thomas Phillips ddarllen, ysgrifennu a rhifyddeg sylfaenol. Roedd y plant yn mynychu'r ysgol nes eu bod yn 13 oed (er bod rhai wedi gadael yn 10 oed i weithio yn y melinau lleol). Nododd adroddiad 5 mlynedd yn ddiweddarach fod ysgol y Fox yn cael ei chynnal mewn adeilad 30 x 15 troedfedd a bod ganddo le i 75. Cyfanswm y ffioedd a dalwyd gan y rhieni oedd £39 am y flwyddyn.
Nododd yr un adroddiad ym 1847 fod dwy ysgol i foneddigesau hefyd, un wedi dechrau yn 1839 gan Miss Crea ac ail gan Miss Jordan. Roedd ei hysgol hi dair milltir o'r pentref ac yn cyfarfod mewn ystafell 13 x 13 troedfedd gyda lle i 28 o blant (ond gyda 40 wedi cofrestru!)
Ym 1847, dim ond 108 o blant a fynychai ysgol, llai nag 8% o'r boblogaeth.
Mae adroddiad 1847 yn un enwog a thanio’r ddadl yn erbyn addysgu drwy'r Gymraeg. Cofiwch, bryd hynny, roedd y mwyafrif helaeth o'r boblogaeth leol yn siaradwyr Cymraeg uniaith.
Bu farw Thomas Phillips o Ysgol y Fox ym 1858, ac mae wedi'i gladdu ym mynwent yr hen Eglwys Fair. Ar ei garreg fedd gwelir 'for 35 years schoolmaster'
Ar ôl yr holl ymdrechion hyn, cymerwyd camau i sefydlu Ysgol Genedlaethol yn y pentref. Roedd TW Booker yn frwdfrydig a rhoddodd fenthyciad o £1,000 i godi adeilad ysgol. Erbyn 1854, negododd y ficer a'r eglwys barsel o dir yn Nhynypwll Road gan ystadau Wingfield a Mackintosh a dechreuodd y gwaith adeiladu. Nid ydym yn siŵr o'r dyddiad, ond tua 1855 agorodd yr ysgol fel ysgol gymysg a babanod ar y cyd. Roedd yr ysgol hon yn darparu addysg ar gyfer y plwyf cyfan. Roedd yn rhaid i rieni pob plentyn a oedd yn mynychu dalu 2d yr wythnos.
Gyda'r boblogaeth yn tyfu, cododd ysgolion eraill yn yr Eglwys Newydd. Roedd ysgol ym Mhenylan eisoes ar gyfer y gweithwyr yn Melin Gruffudd, roedd gan Miss Eliza Brangham ysgol yng nghyffiniau Gwaun Treoda rhwng 1855 a 1888 ac roedd gan Robert Small ysgol i fechgyn yn y Ffilog (roedd yn arfer bod yn athro cynorthwyol yn yr Ysgol Genedlaethol). Oherwydd ei enw da, codai swllt yr wythnos fesul bachgen am addysg 'well'.
Mae cymaint i'w ysgrifennu a'i ddarganfod!
Gobeithio, dro arall y gallwn edrych ar dwf parhaus y pentref, ehangu ysgol y babanod a’r ysgol iau, ac adeiladu'r ysgolion a welwn o hyd yn y pentref heddiw.
English
Cymraeg