Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru

Gweision y Bookers

44.jpg

Rydyn ni i gyd wedi gweld rhaglenni teledu pobl posh Fictorianaidd yn byw yn eu tai bendigedig a byddin o weision i weini arnyn nhw. Ond tybed beth oedd realiti bywyd i weision y Bookers yn Felindre?

Does dim llawer o wybodaeth ganddon ni. Dymchwelwyd Velindre 120 o flynyddoedd yn ôl, mae yna ambell i hen fap AO, ac yna mae atebion i’r cyfrifiad.

Gwyddom y daeth Velindre i afael Richard Blakemore ddiwedd y 18fed ganrif a bod TW Booker wedi ymuno â'i ewythr Richard yn ddyn ifanc a bod yr eiddo wedi dod i’w ddwylo yntau yn ddiweddarach. Mae'n ymddangos bod Velindre wedyn wedi cymryd y cam mawr cyntaf o ran boneddigeiddio, er mwyn i TWB, ei wraig ifanc Jane a theulu a oedd yn tyfu symud i Velindre ym 1830

Erbyn 1834, roedd gan TWB a Jane 5 o blant a thŷ boneddigaidd, felly byddai hynny wedi galw am dipyn o weision i redeg popeth.

Mae cyfrifiad 1841 yn dangos TWB yn 35 oed fel penteulu, gyda'i wraig a'i blant ac 8 o weision yn byw i mewn a choetsmon yn byw drws nesaf ym Mhen-y-lan.

Yn ystod y cyfrifiadau cynnar fe welwn fod nifer o ferched ifanc yn nheuluoedd gweithwyr y felin islaw Velindre, yn cael eu disgrifio fel 'gweision'. Efallai eu bod yn weision 'dan grisiau' ychwanegol a gyflawnai’r dyletswyddau glanhau trwm a chario pethau yn y tŷ?

10 mlynedd yn ddiweddarach, roedd 8 o weision yn dal i fyw i mewn, yn cynnwys Anna Evans 79 oed (morwyn tŷ a nyrs), Edward Morgan a oedd yn ŵr gweddw 40 oed fel bwtler, cogydd, 4 morwyn tŷ arall a gwas tŷ gwrywaidd 16 oed. O fewn y tiroedd roedd y garddwr a'i deulu yn byw, a drws nesaf ym Mhen-y-lan roedd yr ostler yn byw (gyda'i wraig a'u 3 o blant) a 2 goetsmon gyda'u teuluoedd hwythau.


Erbyn 1861, roedd y teulu Booker wedi newid yn ddramatig. Roedd TWB a'i wraig wedi marw, ac roedd ei fab y TWB iau wedi dod yn benteulu yn Velindre. Roedd wedi priodi â Caroline ac wedi dechrau eu teulu eu hunain. Roedd pob un o blant eraill TWB naill ai wedi marw neu wedi symud ymlaen, ond arhosodd y gweision. Roedd 8 o weision byw yn dal i fod yno (gan gynnwys Anna Evans, sydd bellach yn 89 oed)

Mae'n amlwg fod Anna Evans yn aelod hirsefydlog o'r aelwyd. Gwyddom oddi wrth y deyrnged iddi ar ei marwolaeth yn Rhagfyr 1865 yn y Cardiff Times mai hi oedd 'hoff nyrs y ddynes barchus honno Mrs J Booker-Blakemore, ac a hawliai’r anrhydedd o fod yn nyrs i’r Meistri TW a JP Booker ac i Mrs Cyril Stacey. Roedd hi wedi byw am y 63 o flynyddoedd blaenorol ym Melin Gruffudd, ac o blith y rheiny wedi byw am dros 30 mlynedd yn Velindre.' Roedd hi'n agosáu at ei chant.

Yn ogystal ag Anna Evans fel nyrs, byddai Velindre wedi bod angen bwtler, cogydd/ceidwad tŷ, morwyn cegin gefn, morwyn i’r foneddiges, gweision tŷ cyffredinol a 'bachgen'. Yn Greenmeadow i fyny'r ffordd, roedd gan y Lewisiaid was macwy a gwas post hefyd!

Nid oes delweddau hysbys o weision y Bookers, ond mae'r ffotograff isod yn dangos gweision nodweddiadol o'r cyfnod. Ceir coetsmon, morwyn cegin gefn, gwas tŷ ac eraill. Pa rai fyddech chi'n uniaethu â nhw?

Byddai morwynion wedi bod yn ddi-briod, ac wedi gadael gwasanaeth ar briodi. Felly, byddai rhywun 30 oed (neu hyd yn oed 40) yn awgrymu naill ai gogydd neu geidwad tŷ. Yn amlwg, roedd y Bookers yn gyfforddus gyda gweision gwrywaidd priod yn y dyletswyddau tu allan.

Byddai dyletswyddau'r gweision byw i mewn wedi bod yn hir ac yn flinedig. Roedd Velindre yn dŷ a oedd yn cael ei gynhesu â thanau glo, wedi'i oleuo â chanhwyllau a lampau olew ac yn dibynnu ar ddŵr ffynnon ar gyfer coginio a golchi. Tybed pa fath o gyflog fyddai'r gweision wedi ei dderbyn, a pha fath o gyfnod gwyliau? Dim llawer, mae’n debyg.

Dros yr 20 mlynedd nesaf, dan law’r TWB iau, gwelodd Velindre newidiadau enfawr a daeth y tŷ a'r gerddi yn balas pleser disglair.

Fel rhan o set 'y sir', byddai Velindre yn cynnal nifer o dderbyniadau a phartïon penwythnos, pan fyddai pawb yn gwisgo i fyny a'r arian a’r llestri gorau yn cael gweld golau ddydd. Mwy o lanhau a hyd yn oed mwy o nôl a chario i'r gweision.

Erbyn diwedd y degawd fodd bynnag, newidiodd popeth. Roedd ymerodraeth Melin Gruffudd wedi dymchwel a TWB iau wedi symud allan o Velindre i fyw mewn tŷ crand arall, yn Southerndown (gyda'i weision ei hun).

Beth ddigwyddodd i'r holl weision eraill yn Velindre tybed?