Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Dydd Calan Mai
Mae gŵyl Calan Mai y dyddiau hyn i’w weld yn eithaf trist a phathetig.
Ond mae'n ymddangos bod dathliadau Calan Mai ddyddiau a fu yn dra gwahanol.
Roedd Calan Mai (neu Calan Haf yn y gogledd) wastad yn cael ei ddathlu yn y pentrefi gwledig a'r treflannau, gyda’i wreiddiau yn mynd nôl i gyfnod y derwyddon.
Sut ddathlu oedd arno yn yr Eglwys Newydd? Efallai na fyddwn ni byth yn gwybod, ond mae llawer o straeon ac awgrymiadau o'r hyn a fu’n digwydd dros y blynyddoedd.
Roedd Calan Mai yn amser pwysig o ddathlu a hwyl ac yn cael ei ystyried yn ddechrau ar yr haf. I nifer o gymunedau gwledig, roedd yn ddiwedd ar unigedd wedi'r gaeaf, yn gyfle i gymdeithasu a dod ynghyd.
Dyma'r diwrnod pan fyddai'r buchesi (a'r preiddiau) yn cael eu troi allan i diroedd pori. Yn ardaloedd gwledig iawn yng Nghymru, dyma pryd y symudai teuluoedd ffermio o'u cartref yn y dyffryn (yr hendre) i dir pori uwch (yr hafod).
Roedd y diwrnod ei hun yn eithaf arbennig, ond roedd Noswyl Mai, ar y noson cynt sef yr 'ysbrydnos' neu 'noson yr ysbrydion' yn cael ei ddathlu hefyd. Wrth iddi nosi, cymerwyd camau i atal gwrachod rhag mynd i mewn i dai trwy farcio croesau ar ddrws ffrynt. Yn Sir Fynwy mae adroddiadau am groesau ar ddrysau wedi eu creu o frigau.
Roedd goleuo coelcerthi ar Noswyl Mai, yn cynrychioli cyfle i buro, i erlid ysbrydion niweidiol ac i amddiffyn anifeiliaid rhag clefydau. Yn draddodiadol, dwedwyd y byddai gwerin y tylwyth teg yn ceisio gyrru gwartheg neu ddefaid ymaith, a byddai gyrru'r stoc rhwng coelcerthi yn gwarchod rhag hyn. Ac roedd gosod lludw oer o’r coelcerth yn eich esgidiau yn helpu hefyd. Wrth gwrs, byddai ieuenctid y pentref hefyd yn ceisio neidio dros y tanau. Mae yna straeon am gyplau ifanc fyddai'n neidio'r tân gyda'i gilydd i ddangos eu ffydd yn ei gilydd.
Roedd Calan Mai ei hun yn golygu bod gwerin pentref yn cael ei ddeffro gan ieuenctid y pentref yn canu Carolau Haf, gan fynd o dŷ i dŷ, gan roi diolch am y tymhorau i ddod.
A dathliadau Calan Mai eu hunain, a oedd yn cynnwys casglu canghennau'r ddraenen wen a blodau Mai, ond dim ond i addurno tu allan y tai gan ei bod yn anlwcus dod â nhw y tu mewn (gallaf gofio fy mam fy hun yn dweud hyn wrthym pan oeddwn yn fach). Yna roedd y Fedwen Fai, wedi'i phaentio mewn lliwiau llachar, a’i lapio mewn rhubanau, a dawnswyr; dathliad Cymreig eithaf arbennig. Roedd gan bob pentref ei griw perfformio ei hun, wedi eu gwisgo mewn gwyn ar wahân i 2 sef y 'ffŵl' a'r 'cadi'. Roedd y Ffŵl wedi ei wisgo fel croesan neu jester gyda gwisg lachar, a Cadi gyda'i bolyn Cangen Haf yn llawn rhubannau a gwrthrychau sgleiniog (fel llwyau a chwpanau) yn gwehyddu eu ffordd drwy eu dawnsfeydd cywrain.
Yna roedd canu a dawnsio, gemau Calan Mai ac adrodd ffortiwn, ac mae’n fwy na thebyg, digon o yfed a bwyta.
Rwy'n siŵr nad oedd yr Eglwys Newydd yn wahanol i gymaint o bentrefi a threflannau eraill ledled de Cymru o ran y dathlu. Tybed lle byddai'r Fedwen Fai wedi cael ei chodi? Ar y comin efallai?
Mae mor anodd darlunio ein pentref yn y gorffennol pell, ond gallaf ddychmygu pa mor bwysig oedd dathliad Calan Mai i'n rhagflaenwyr. Petawn nhw ond yn gallu ein gweld ni i gyd nawr, yn cwyno am yr ŵyl gyhoeddus bathetig yma rhwng y Pasg a’r Gwyliau Gwanwyn 'go iawn', dwi'n siŵr y byddai ganddyn nhw ambell beth i'w ddweud.
Ond i orffen, fe ddes i ar draws y llun yma o 1980 (dros 40 mlynedd yn ôl) pan oedd ieuenctid yr Eglwys Newydd yn dathlu'r 'Grog Trot', gan ymweld â chymaint o'r tafarndai a'r clybiau lleol yn yr ardal tra'n gwisgo mewn gwisg ffansi! Ddim mor wahanol i ddathliadau ddyddiau a fu wedi'r cyfan.
Beth y’ch chi’n ei feddwl?
English
Cymraeg