Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru

Y Felin Arall

101-48-painting-Felin-Fach-Little-Mill.jpg

Mae mwy neu lai pawb yn y pentref yn gwybod am Felin Gruffudd, neu Melinriffith ar lan Afon Taf. Ymddengys iddi fod yno ers cyn cof, ond ceir y cyfeiriad cynharaf yn 1158 pan gafodd ei ddisgrifio fel 'wedi ei llosgi i’r llawr', a ei dinistrio gan wrthryfelwyr Cymreig yn ymladd y mewnfudwyr Normanaidd.

Ond roedd melinau eraill yn lleol hefyd. Roedd o leiaf ddwy felin yn Nhongwynlais, sef melin fawr ar yr afon ac un arall ar y nant fyrlymus ger Castell Coch, a hefyd un yn Ystum Taf.

Roedd ail felin yn yr Eglwys Newydd hefyd, ychydig y tu ôl i'r Comin â’r enw Y Felin Fach, sef Little Mill. Does dim ar ôl o'r felin nawr heblaw iddi roi ei henw i'r stad dai a godwyd ar y safle.

Rhaid bod cyfeiriadau cynnar at y felin, ond y wybodaeth gynharaf a ganfuwyd hyd yma yw o Fap Degwm 1840. Mae'n nodi mai Edward Williams oedd y tenant ac mai'r Arglwydd Dinefwr oedd perchennog y tir, rhaid bod y felin yn hŷn na hynny, gan fod Rheilffordd Dyffryn Taf a adeiladwyd yn y 1830au wedi hollti adeilad y felin o’i gardd tua’r de. Roedd y felin wedi'i lleoli'n strategol er mwyn manteisio ar yr arglawdd naturiol fel y gallai olwyn ddŵr dros y rhod fawr yrru cerrig y felin mae'n debyg. Roedd nant hir i’r felin wedi ei chreu mewn cromlin fawr, gan gymryd dŵr o Nant yr Eglwys Newydd ar draws y caeau i'r felin ac yna i ollwng i Afon Taf ymhellach i'r de. Yn y felin, crewyd pwll i’r felin ar gyfer yr adegau pan nad fyddai digon o ddŵr yn y nant i yrru'r olwyn.

Doedd dim ffyrdd go iawn bryd hynny, felly roedd mynediad i'r felin ar hyd trac syml oddi ar Heol Merthyr (ger Island Cottage) fel bod modd danfon ŷd yno o ffermydd cyfagos.

Yng nghyfrifiad 1841, nid Edward Williams (y tenant) oedd yn meddiannu'r felin, yn hytrach roedd yn ffermwr ar Fferm Pentre, gyda'i wraig Cecile a 4 o weision. Meddiannwyd y felin gan Elizabeth Harding (gwraig weddw 38 oed a ddisgrifiwyd fel melinydd) gyda'i 5 o blant a lletywr. Mae'n debyg mai ei gŵr fyddai'r melinydd ac iddo farw ychydig flynyddoedd ynghynt. Efallai bod y teulu wedi byw yn y felin, ond roedd ail adeilad gerllaw a allai fod wedi bod yn fwthyn ar wahân.

Felly pa mor hen fyddai'r felin wedi bod? O bosib ychydig gannoedd o flynyddoedd yn gynharach na'r adeiladau a ddangosir ar fap y Degwm, ac efallai'n hŷn na hynny. Mae llinell llif nant y felin ar y mapiau yn ymddangos yn rhan naturiol o'r hen system gaeau.

Yn draddodiadol, byddai melin o'r 17eg ganrif wedi'i chodi o garreg leol gyda tho gwellt ac olwyn felin enfawr. Roedd y dechnoleg ar gyfer malu corn yn hysbys ac, fe allai hyd yn oed olwyn fawr y felin fawr fod wedi'i hadeiladu'n lleol.

Roedd y rhan fwyaf o'r caeau o gwmpas yn dir âr, yn tyfu gwenith (ar gyfer bara), haidd (ar gyfer cwrw yn bennaf) a cheirch fel porthiant anifeiliaid. Er bod poblogaeth yr Eglwys Newydd yn dal i fod yn eithaf bach bryd hynny, roedd y niferoedd o anifeiliaid fferm a oedd angen porthiant yn fawr. Felly, byddai ail felin yn y pentref wedi bod yn eithaf cynaliadwy. Wrth i boblogaeth yr Eglwys Newydd dyfu, dim ond cynyddu fyddai'r galw.
Felly, pa bryd y peidiodd y felin falu, a phryd gafodd hi ei dymchwel? Beth ddaeth o Elizabeth Harding a'i theulu? A oes unrhyw un yn gwybod mwy amdani?

Mae Terry Chard sy'n byw yn lleol iawn wedi taflu ychydig o oleuni. Yn y 1960au, roedd rhai o’r adeiladau carreg yn dal yno, er yn adfeilion, ond yn lle chwarae bendigedig i'r plant lleol
Yn wir, mae Terry wedi darparu copi o'r paentiad sy'n dangos Little Mill yn y 1940au, wedi'i beintio gan fab i ffoaduriaid adeg y rhyfel oedd yn byw yn Ystum Taf ar y pryd. Dwi'n siŵr gall Terry ychwanegu at y stori, ond all unrhyw un arall helpu?