Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru

Atgofion

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn edrych ar gymaint o lefydd a phobl o ddyddiau a fu, meddyliais y byddai'n braf rhannu rhai o atgofion un o bobl 'leol' Yr Eglwys Newydd sydd ag atgofion mwy diweddar o'r pentref.

Yn 1951 y ganwyd Gill (nid ei henw go iawn) gyda rhieni a neiniau a theidiau yn byw yn lleol. Bu'r ddwy set o neiniau a theidiau yn gweithio ym Melin Gruffudd, a ganwyd ei mam mewn bwthyn ar Fferm y Fforest.
Cafodd Gill ei magu mewn tŷ teras ar Tyn-y-pwll Road, oedd yn cael ei rentu gan y teulu Millward (a oedd yn berchen ar y teras cyfan). Y rhent ychydig ar ôl y rhyfel oedd tua 7/6d yr wythnos.

Mae atgofion Gill o'r tŷ yn cynnwys:
Tan o'n i tua 14 oed, roedd ganddon ni dân glo hyfryd a ‘range blac-led’, ac roedd rhaid i Mr Merrey y dyn glo ddod â'r glo i gyd drwy'r tŷ gan nad oedd lôn. Maes o law fe gawson ni dân nwy Debonair.
Roedd y gegin yn fach iawn, gyda dŵr poeth o giser ynghyd â boeler a mangl ar gyfer y dillad. Roedd rhan waelod muriau'r gegin wedi eu gorchuddio â thun o waith Melin Gruffudd i orchuddio'r tamprwydd.

Tu allan oedd yr unig doiled gyda mainc bren lydan ar gyfer papur newydd a chanhwyllau
Cawsom faddon tun (a fyddai’n hongian i fyny), nes i ni gael estyniad ystafell ymolchi (a oedd yn rhewir) gan nad oedd gwres canolog bryd hynny.

Roedd yr ystafelloedd gwely hefyd yn rhewi, gyda lino ar lawr ac ambell garthen.
A chadwyd yr allwedd i'r drws ffrynt ar linyn yn hongian ychydig y tu ôl i'r blwch llythyrau.

Roedd yr addurno i gyd yn cael ei wneud gan fodryb (oedd yn aml yn hongian y papur wal ben i waered!)

Llygod mawr! Roeddech chi'n gallu eu clywed nhw yn y waliau gan fod ganddyn nhw rediad drwy do’r teras cyfan.

Roedd y gerddi cefn yn rai hir a chadwem 12 iâr a gwerthu'r wyau, a thyfu llysiau.
Roedd polyn lamp nwy y tu allan i'r tŷ a gâi ei oleuo gan 'Aubrey'. Dyn bach a gyrhaeddai ar ei feic.

Pan gawson ni ffôn yn y tŷ o'r diwedd roedd gennym linell barti, a byddai cymdogion yn aml yn dod i mewn i wneud galwad. Byddai'r gweithredwr yn dweud wrthyn nhw faint i'n had-dalu am yr alwad.

Cawn air pellach gyda Gill dro arall a dysgu ychydig am ei hatgofion am y siopau lleol a'r bywyd cymdeithasol yn y pentref

Os yw'r erthygl fach hon wedi procio ambell atgof, neu os hoffech chi ddweud wrthym am rai o'ch straeon teuluol eich hun, beth am anfon e-bost neu lun atom yn awen.cymru@gmail.com - does dim angen iddi fod yn erthygl gyfan, dim ond llinell neu ddwy. Byddem ni wrth ein boddau yn clywed gennych chi!