Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
The Farmers Arms
Mae'n debyg ein bod i gyd yn gyfarwydd â’r olygfa hon o'r pentref, gyda thafarn y Fox and Hounds. A oeddech chi'n gwybod, fodd bynnag, fod hen dafarn arall i'r chwith o'r goeden fawr mewn dyddiau a fu?
Ar Fap y Degwm 1841, rhestrwyd James Brookman fel tafarnwr y Farmers Arms, ger (hen) Eglwys y Santes Fair. O'r map degwm, mae'n dangos rhes o fythynnod bach wedi'u gosod ar droad y ffordd. Yn ôl pob tebyg, byddai wedi edrych yn debyg iawn i’r hen Blackbird Inn ar y Ffilog a grybwyllwyd gennym y tro diwethaf.
Felly pam roedd o leiaf ddau hen fwthyn yn y pentref yn gwerthu cwrw, pan oedd tafarndai cydnabyddedig gerllaw?
Lai na 10 mlynedd yn gynharach, pan ddeuai yr unig ddŵr o ffynhonnau a nentydd ac yn aml dŵr a oedd wedi'i halogi, roedd llawer o bobl yn yfed diodydd alcoholig (yn arbennig jin) yn lle hynny, ac roedd llywodraeth y dydd yn poeni.
Syniad gan William IV oedd tai cwrw a phan ddaeth i'r orsedd, sefydlodd Ddeddf Cwrw 1830. Roedd hyn yn caniatáu i unrhyw drethdalwyr fragu a gwerthu cwrw (a dim ond cwrw) trwy dalu trwydded flynyddol o 2 gini. Daeth y Ddeddf Gwrw yn boblogaidd iawn a dosbarthwyd dros 25,000 o drwyddedau yn y 6 mis cyntaf! Gostyngodd pris pot o gwrw o leiaf 20% ac roedd hynny yn annog pobl i yfed cwrw yn hytrach na gwirodydd. Yn ddiddorol iawn, dim ond yn 1993 y diddymwyd y Ddeddf Gwrw.
Ni pharodd y Farmers Arms yn hir iawn, oherwydd ym 1861 roedd wedi newid i The British Hotel gyda Thomas Evans fel Stiward Tŷ. Erbyn 1880, roedd yr hen adeiladau i gyd wedi'u dymchwel a thŷ newydd wedi'i godi o'r enw The Cottage. The Pines yw’r enw arno erbyn heddiw.
English
Cymraeg