Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Atgofion 2
Yr wythnos diwethaf fe edrychon ni ar rai o atgofion 'Gill', un o bobl yr Eglwys Newydd, gan dyfu fyny yn y 1950au a'r 60au. Roedd ganddi lawer i'w rannu am ei bywyd cartref, felly'r wythnos hon roeddwn i'n meddwl y gallen ni edrych ar rai o'i hatgofion eraill yn tyfu i fyny. Ei hatgofion:
Roedd Mam a fy modryb yn gweithio mewn siop ffrwythau leol, felly gartref roedd gennym lawer o ffrwythau a llysiau a oedd wedi eu 'cyffwrdd' bob amser. Yn ddiweddarach gallaf gofio i ni gael Vesta Curry, pys sych Erin a tatws Smash.
Ymysg y danteithion roedd hufen iâ Eldorado a brynwyd o siop y Mayfair (ai ger eglwys Bethel oedd hi?)
Treuliwyd gwyliau wastad gyda fy nwy fodryb ym Mae Trecco neu Ddinbych-y-pysgod. Dim car bryd hynny, ond bws neu drên o Landaf i Ynys y Barri, baddonau Penarth neu barc Ponty.
Roedd atgofion o'r Sul bob amser o'r Ysgol Sul, yna cinio ac o bosib taith ar droed i lawr i’r gamlas; a wastad yn chwarae gemau cardiau ar ôl te. Weithiau byddem yn gwrando neu'n canu gyda recordiau 76rpm fy modrybedd.
Pasiwyd yr 11+ ar gyfer Ysgol Ramadeg yr Eglwys Newydd a phrynodd fy nhad-cu sgrepan lledr i mi gan 'Mac y Cobbler' ar Heol yr Hen Eglwys. Roedd y wisg ysgol yn ddrud iawn ac fe'i prynwyd gyda chymorth y teulu o Evan Roberts ar Ffordd y Brenin. Pasiwyd fy chwaer a oedd yn hŷn na mi, i fynd i Ysgol Ramadeg Penarth a daliai’r bws a'r trên i'r ysgol am 6 mlynedd!
Pan o'n i'n 16 oed, fe ddes i'n 'Avon Lady'. Byddwn i'n mynd allan yn fy sgert fach a'm bŵts pvc a ches samplau Avon hyfryd. Mi werthais i'r cwbl!
Roedd gen i swydd Sadwrn yn y siop esgidiau leol yn y pentref ac roedd fy ffrind gorau yn gwerthu pysgod yn Birds. Pan fyddem yn mynd allan i'r dref i'r Top Rank, roedd hi bob amser yn gwynto ychydig bach!
Yr adeg honno, yn y pentref roedd yna rai tai yn dal i fod, ond rwy’n cofio’r siopau; y siop deganau, y cyfrwywr, y corn stores (ar gyfer stwff anifeiliaid anwes a garddio), ac wrth gwrs Anstee's y siop flodau, a'r Bon Marche gyda'i system bibell sugno ryfeddol i anfon £oedd i'r cashier. Dymchwelwyd tŷ ffrind i mi er mwyn gwneud lle i Kwiksave ar gornel Bishops Road.
Ger y Llyfrgell roedd gennym siop wlân a dillad Ferda, Ffrwythau a Llysiau Bests, Jacksons y cigydd, y Malvern gyda'i beiriant losin yn troelli a’r peiriant carton llaeth. Yna roedd Burleys ar gyfer paent a phapur wal. Gallech gael popeth yn yr Eglwys Newydd.
Pwy all anghofio sinema’r Monico (lle es i ar fy date cyntaf), neu'r Plaza, cyn iddyn nhw adeiladu'r drosffordd yn Gabalfa, ac wrth gwrs y Rialto oddi ar Heol yr Hen Eglwys?
Fel plentyn roeddwn i wrth fy modd â'r Llyfrgell ac yn gallu cofio sut roedd wedi ei osod allan gyda'r hen ddynion yn yr ystafell ddarllen a'r system gardiau, hynafol erbyn hyn. Dwi'n defnyddio'r llyfrgell yn rheolaidd hyd yn oed heddiw.
Dwi'n gobeithio bod hyn i gyd wedi ysgogi atgofion pawb ac yn cyfleu pa mor rhyfeddol ydi'r Eglwys Newydd a sut y gwnaeth hi siapio fy mlynyddoedd ffurfiannol.
Beth am bawb arall? Pa siopau ydych chi'n eu cofio? A oes gennych unrhyw ffotograffau yr hoffech eu rhannu gyda ni?
English
Cymraeg