Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Ysbyty'r Eglwys Newydd
I ddechrau ail hanner ein '101 o Bethau', roeddwn i'n meddwl y gallen ni edrych ar un o'r adeiladau amlycaf sy'n dal i sefyll yn y pentref, Ysbyty'r Eglwys Newydd.
Gwyddom i gyd ble mae’r adeilad, mae'r tŵr dŵr ysblennydd yn un o dirnodau'r pentref, ac eto ychydig ohonom sy'n gwybod llawer amdano. Hyd yn oed nawr, mae 'na rywfaint o stigma wrth hyd yn oed grybwyll y lle. Mae Edgar Chappell yn ei lyfr awdurol ar y pentref ond yn ei grybwyll 2 waith wrth basio mewn dros 240 tudalen!
Mae'r ffotograff uchod o’r awyr yn rhoi argraff o'r ysbyty yn ei flynyddoedd cynnar.
Agorodd yn 1908 ac mae bellach ymhell dros gant oed, ac er ei fod wedi ei esgeuluso a'i gau â byrddau ers blynyddoedd mae'n dal yn bwysig iawn i'r pentref ac yn werth gwybod mwy.
Wedi ei godi gan Gorfforaeth Caerdydd fel Seilam (y tu allan i ffiniau'r dref oherwydd y stigma), cafodd ei gynllunio â 10 o wardiau i ddarparu ar gyfer 750 o gleifion (5 ward i ddynion a 5 i ferched) a gyda staff o 150.
Ystyriwyd bod y dyluniad gyda'i gynllun ar ffurf esielon yn arloesol ar y pryd, gyda phob ward â ffenestri mawr yn agor i'r haul a'r awyr. Gallai gwelyau gael eu cludo i’r tu allan ym misoedd yr haf.
Roedd yr ysbyty'n enfawr, gydag ôl troed 5 erw o faint. Broliai ei theatr ei hun, campfa a 2 filltir o goridorau! Roedd ganddo hyd yn oed ei orsaf dân ei hun. Gyferbyn roedd ei gapel ei hun (gyda seddi ar gyfer 900 o bobl) a chyfleusterau chwaraeon helaeth a bowlio awyr agored.
Roedd Fferm Tŷ Clyd i'r gogledd yn rhan o'r safle, fel y gallai’r ysbyty fod yn hunangynhaliol. Roedd yr holl beth yn ymestyn i dros 115 o erwau.
O amgylch yr ysbyty, roedd y tir wedi ei dirlunio gan William Pettigrew, a oedd yn Brif Swyddog Parciau cyntaf Caerdydd. Erys llawer o'i goed heddiw.
Wedi'u trefnu o gwmpas y wardiau roedd 6 phafiliwn eistedd siâp octagon, ac roedd llwyfan bandstand hyd yn oed. Yn y dyddiau cynnar, broliai'r ysbyty ei cherddorfa ei hun hefyd.
Cynlluniwyd yr holl beth i gyfleu edrychiad cartref gwledig mawreddog. Roedd hyn yn eironig mewn gwirionedd am i’r Velindre (y peth agosaf a fu gan yr Eglwys Newydd i dŷ crand), gael ei ddymchwel fel rhan o'r datblygiad.
Yr uwch-arolygydd meddygol cyntaf un oedd Edwin Goodhall, ac ef a fynnodd fod y lle yn cael ei alw'n 'Ysbyty Meddwl yr Eglwys Newydd' yn hytrach na 'Seilam Caerdydd'. Arhosodd Edwin yn y swydd am yr 20 mlynedd cyntaf.
Mae Gwawr Falconbridge a Chyfeillion Ysbyty'r Eglwys Newydd wedi gweithio'n ddiflino i'n hysbysu’n well o sut y tyfodd ac y newidiodd yr ysbyty dros y blynyddoedd. Mae ganddynt archif anhygoel ac maen nhw i'w clodfori.
Bu nifer o'r cleifion yn yr Eglwys Newydd yno am gyfnodau maith, rhai gydol eu bywydau, felly tipyn o syndod yw sylweddoli, er bod capel mawr ar y safle, nad oes mynwent yno. Felly ble cafodd y cleifion (yn aml heb deuluoedd) eu claddu pan fuon nhw farw? A oes unrhyw un yn gwybod?
Mae cymaint mwy i'w ddweud; sut y cafodd yr Eglwys Newydd ei pharc cyhoeddus cyntaf, yr hyn a ddigwyddodd yn ystod 2 ryfel byd, a'r hyn sy'n digwydd nawr. Fe ddown yn ôl eto i geisio ateb rhywfaint o hyn.
Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw hanes am yr ysbyty yr hoffech ei rannu, cysylltwch â ni.
English
Cymraeg