Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Deintyddion
Roedd fy nhad yn caru Franks Mints. Roedden nhw’n cael eu gwneud yng Nghasnewydd ac roedden nhw’n cael eu lapio’n unigol mewn seloffen. Roedden nhw’n sgwâr gyda streipiau brown a brown golau, ac roedden nhw bob amser yn anrheg perffaith iddo ar gyfer penblwyddi a'r Nadolig. Oes rhywun yn cofio Franks Mints?
Ac i fi, ar ôl y dogni, roedd ‘na Wine Gums, American Hard Gums a Midget Gems bach. Ac roedd ‘na ffynhonnau sherbet a ffyn licris. Pob un mor hyfryd! Doeddwn i byth yn ffan mawr o Dolly Mixture, ond dwi wastad yn gallu cofio dewis fy losin o'r jariau gwydr mawr a’u gweld nhw’n cael eu pwyso a'u rhoi mewn bagiau bach papur, wastad wedi’u clymu’n ddestlus gan y siopwr.
Beth oedd eich ffefrynnau?
A ble roedd y siopau yn yr Eglwys Newydd lle gallech chi brynu'r fath ddanteithion?
Y rheswm dros yr holl hel atgofion ‘ma yw ‘mod i newydd fod at y deintydd am wiriad cyflym (dim ond nawr maen nhw’n dychwelyd i 'normal' go iawn ar ôl problemau'r pandemig), a dwi mor falch - doedd gen i ddim unrhyw broblemau.
Ond wrth gwrs, aeth fy meddwl yn ôl i losin fy mhlentyndod a siopau melysion; y Deintydd Ysgol! Gan ein bod ni'n byw yn Cathays, roedden ni blant yn mynd i Ysgol Gladstone, a dwi'n dal i gofio sut roedden ni i gyd yn cael ein rhoi i sefyll mewn llinell yn y neuadd am wiriad deintyddol blynyddol; ac yna’n cael apwyntiad i gael triniaeth (tynnu dant o dan anesthetig bob tro, os dwi’n cofio’n iawn). Ai dim ond fi sydd, neu oes ‘na eraill yn cofio arogl y mwgwd rwber?
Roedden ni’n mynd i'r clinig ar Heol y Gogledd am driniaeth, a dwi'n dal i arswydo bob tro dwi'n gyrru heibio, hyd yn oed heddiw.
Ble roedd plant yr Eglwys Newydd yn mynd i gael triniaeth yn y dyddiau hynny ar ôl y rhyfel? Darllenais nodyn yn ddiweddar gan Bunty yn awgrymu bod y Tabernacl yn cael ei ddefnyddio gan ddeintydd yr ysgol. Mae ei hatgofion hi o tua 1940 yn union fel fy rhai i! Ychwanegodd Diane mai dim ond anesthetig lleol roedden nhw’n ei ddefnyddio yn y Tabernacl, nid nwy. Yn yr eglwys neu neuadd yr eglwys? Dyw Jan, ysgrifennydd y Tabernacl, ddim yn gwybod. A oes gan unrhyw un unrhyw atgofion?
Yn ôl i'r losin
Mae pobl leol yn dal i siarad am yr arogleuon hyfryd oedd yn dod o ffatri Jupps Sweets ger y comin. Pa losin roedden nhw’n eu gwneud? Dwi wedi gweld ambell i hen lun o'r adeilad, a hefyd ambell un o'r tu mewn. Mae’r llun yn dangos losin yn cael eu gwneud tua 1950 (diolch eto i Steve Nicholas am y llun). Tybed sut brofiad oedd gweithio yno?
Beth am ddeintyddion? Ymhellach i'r gogledd, roedd deintydd yn y Laurels gan mlynedd yn ôl, ac mae'n rhyfedd fod ‘na ddeintyddfa yn dal i fod yno erbyn hyn. Oedd 'na unrhyw rai eraill?
Mae'r Pines yn Heol yr Hen Eglwys bellach yn ddeintydd swanc ac mae Chris Dalton yn Bishops Road (Holmes erbyn hyn) yn un arall. A beth am ddeintyddion yn Ystum Taf, Rhiwbeina a Thongwynlais, oedd ‘na rai?
Rydyn ni wedi edrych yn flaenorol ar Templar Malins (roedd ei hysbysebion ar y bysus cyntaf yn yr Eglwys Newydd) a oedd yn cynnig dannedd ffug o'i bractis yn Heol y Frenhines.
Rydyn ni mor ffodus fod gennym ni ddeintyddion 'priodol' erbyn hyn, a'u bod nhw’n rhoi gofal cystal i ni, ac maen nhw’n eithaf addfwyn hefyd. Ond mae atgofion am y ddannodd a thynnu dannedd â 'nwy' yn dal i fod wedi’u llosgi i'm cof. Oes unrhyw un yn rhannu fy ffobiâu?
English
Cymraeg