Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Moch yr Eglwys Newydd
Ar ddechrau'r 19fed Ganrif, roedd llai na 400 o bobl yn byw yn yr Eglwys Newydd ac mae'n debyg bod llai nag 80 o dai a bythynnod. Roedd y rhan fwyaf o'r bythynnod yn syml iawn, gyda dim ond ychydig o ystafelloedd ac iard neu gwrt y tu allan.
Roedd y rhan fwyaf o deuluoedd yn cadw mochyn ac ychydig o ieir ac yn tyfu eu llysiau eu hunain.
Heb brif bibell ddraenio na chyflenwad dŵr trwy bibell gyflenwi, roedd yr amodau'n gyntefig. Yn yr iard allanol roedd tŷ bach (â llawr pridd) gyda thwlc mochyn gerllaw. Efallai fod y braslun isod yn rhoi blas o'r hyn a oedd gan y rhan fwyaf o deuluoedd (ceir enghreifftiau wedi eu hailgodi o dai allan tebyg yn Sain Ffagan), ond dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw rai ar ôl yn yr Eglwys Newydd nawr.
Roedd y trigolion yn amlwg yn falch iawn o'u moch, fel y noda erthygl ym phapur newydd y Cambrian ar 20 Chwefror 1846 sy’n datgan:
‘Fat Pigs, two pigs about 20 months old were slaughtered and weighed 24 score and 5 pounds (about 220 kg) and the other 34 score and 6 pounds (over 310 kg). they were pure Glamorgan breed, reared from old stock in the Parish of Whitchurch, a place celebrated for the superiority of its breed of pigs’
Yn ei lyfr 'Old Whitchurch' mae Edgar Chappell yn awgrymu bod y gymuned leol yn cael eu hadnabod yn ôl y llysenw poblogaidd 'Whitchurch Pigs' neu Foch yr Eglwys Newydd
Mae'n debyg mai 'Quackers Melin Griffith' oedd enw’r rhai a oedd yn byw ger y gwaith tunplat a byddai unrhyw un a drigai ym Mhentyrch yn 'Gwcw Pentyrch'!
Os hoffech wneud sylwadau neu gyflenwi rhywbeth ar gyfer y crynodeb hwn, e-bostiwch awen.cymru@gmail.com.
English
Cymraeg