Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru

Y Ffilog

101-64-pic-The-Philog-Sketch-.jpg

Roedd rhan fwyaf deheuol y pentref (yr ardal agosaf at ffin y plwyf), yn hynod wledig 200 mlynedd yn ôl. Ambell i fwthyn anghysbell a chaeau, a heolydd gwasgarog.

Mae British History Online yn disgrifio’r Ffilog ym 1811:
‘a brook and a hamlet in the chapelry of Whitchurch near Gwaun-tre-Oda. The name applied particularly to an old thatched house on the north side of the highroad to Whitchurch, where a lane branches off eastwards to the Heath’

Roedd hyn 30 mlynedd cyn y map degwm a 70 mlynedd cyn y map AO cyntaf. Fodd bynnag, o ddisgrifiad BHO ac o edrych ar y mapiau cynnar, gallwn leoli’r Ffilog gyda rhywfaint o gywirdeb.
Y dyddiau yma, mae'r brif ffordd i'r de yn plygu wrth Philog House tua’r goleuadau traffig ar yr A470. Mae traffig sy'n gyrru i'r gogledd yn uno ger y siop ewinedd a'r ymyl glaswelltog trionglog.

Yn ôl ym 1811 (ac am 150 mlynedd cyn hynny, mae'n debyg!), rhes o fythynnod to gwellt bach yn eistedd yng nghanol y ffordd oedd y Ffilog. Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan ledwyd y ffordd, disodlwyd y Ffilog gan yr adeilad a fyddai’n dod yn gartref i Eddy’s the Baker.

Byddai'r ffordd (neu'r briffordd fel y mae BHO yn ei disgrifio) yn ôl ym 1811 wedi bod yn drac heb ei gynnal, heb fod yn ddigon llydan i ddwy wagen neu gerbyd basio ei gilydd, bron yn annefnyddiadwy yn ystod tywydd gwaethaf y gaeaf, ac wedi'i ffinio ar y naill ochr gan ymylon glaswellt a gwrychoedd. Mae’n siŵr ein bod yn gor-ramantu’r ddelwedd o’r heol hon heddiw.

Roedd un neu ddau o fythynnod eraill yng nghyffiniau’r Ffilog yn ffurfio gweddill y pentrefan, a byddai'r caeau tu ôl wedi tyfu cnydau âr a rhywfaint o borfa.

Ond pa un oedd y Ffilog? Mae ‘na ffotograff cynnar adnabyddus sy’n dwyn y teitl syml, 'Philog'. Dwi’n cymryd yn ganiataol mai hwn yw e.

Mae'r braslun isod, yn seiliedig ar y llun hwn, yn dangos y Ffilog yn y 1850au gyda dyn danfon nodweddiadol a'i drol y tu allan i'r bythynnod (…o bosib!)

Os yw hi’n anodd dod o hyd i’r Ffilog a sut yr edrychai, yna mae hi bron yn amhosibl dod i nabod y trigolion cynnar. Mae'n ymddangos bod y cyfrifiadau cynnar yn neidio o gwmpas yn eithaf rhyfedd. Gwyddom fod Thomas Howells a'i wraig Blanch yn byw yn y pentrefan ym 1851 (roedd yn 65 oed bryd hynny), felly gallai fod wedi bod yn byw yna ym 1811! Roedd y ddau yna ddeng mlynedd yn ddiweddarach.

Roedd Lewis John (mwy amdano ef yn ddiweddarach) yn 48 oed yn y cyfrifiad cyntaf, ac roedd yn dal i fod yna ym 1871.
Roedd Jane Ray yn 85 oed ym 1841, ond roedd Jane Ray arall (a oedd yn 42) yna 10 mlynedd yn ddiweddarach. Yn amlwg nid yr un fenyw, ond efallai merch neu wyres hyd yn oed? Roedd Jane yn dal i fod yna ym 1871. Oedden nhw mewn tŷ teuluol? A oedd yn rhan o’r Ffilog?

Roedd George Hancox yn 37 oed ym 1851, ac roedd yn dal i fod yn y pentref isaf am flynyddoedd wedyn.

Wrth i'r Eglwys Newydd ehangu yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif, ildiodd y caeau i nifer syfrdanol o erddi masnachol yn cyflenwi llysiau (a hyd yn oed blodau) i'r gymuned leol.

Roedd y Ffilog yn dal i fod yna ym 1881, pan gynhyrchwyd y map AO cyntaf, ac ym 1900 (ond gyda Philog Terrace yn ymgripio tuag ato), ond roedd wedi diflannu erbyn map AO 1920. Felly, mae'n debyg iddo gael ei ddymchwel cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mewn blog cynharach ysgrifennais am fwthyn o'r enw Cwm-y-Fwyalchen, a llun sydd gan Lyfrgell Caerdydd. Yng nghyfrifiad cynnar 1841, roedd bwthyn o'r enw Blackbird Inn, ac ar y map AO cynharaf, roedd bwthyn arall o’r enw Mwylach-Bwlch. Ble roedden nhw i gyd? A oedden nhw’n ffurfio rhan o'r pentrefan? Oes unrhyw un yn gwybod?

Mewn ymateb i'm blog, rhoddodd 2 deulu adborth i mi, a llun priodasol hyfryd o 1909 o flaen bwthyn yr oedd y teulu’n ei alw’n ‘Mwylach Bwlch’. Y teulu John oedd y rhain. Roedd Lewis John (soniais amdano yn gynharach) yn y pentrefan ym 1841, felly ai’r un teulu oedden nhw? Mae'r bwthyn yn edrych bron yn union yr un fath â'r hyn y tybiaf i yw’r Ffilog. Ydy'r enw wedi newid dros y blynyddoedd? Oes unrhyw un arall yn teimlo bod hyn i gyd yn anhygoel?