Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru

Eli Evans

101-65-Eli-Evans-Vine-Cottage-Sketch.jpg

Oeddech chi'n gwybod bod gennym gerflunydd yn byw yn y pentref yn y 19eg ganrif? Ei enw oedd Eli Evans.

Efallai eich bod chi, a'i fod yn byw yn Vine Cottage ar y Comin. Ond pwy oedd e, a pham Vine Cottage? Llawer mwy o gwestiynau sydd angen eu hateb.
Mae'r braslun isod yn seiliedig ar yr hen ffotograff ac yn dangos Eli a'i wraig y tu allan i'r bwthyn.

Mae Chris Soughton wedi darganfod bod Eli wedi ei eni yn y Rhath ym 1811, ond ei fod wedi symud i Wauntreoda erbyn 1836, felly byddai wedi bod yn tua 25 oed. Nid ydym yn gwybod dim am ei fywyd cynnar, ond erbyn y cyfrifiad cyntaf ym 1841 roedd yn byw ar Wauntreoda fel lletywr gyda Thomas White a oedd yn saer coed, gwraig a theulu Thomas, a gwas. Nodwyd bod Eli yn 'gerflunydd'.

Erbyn cyfrifiad 1851, mae Eli yn dal i alw ei hun yn gerflunydd, ond mae'n byw ar ei ben ei hun yng Ngwauntreoda gyda 2 was.

Yng Nghyfeirlyfr Masnach Websters ym 1852, mae Eli yn newid ei alwedigaeth i 'saer maen', a thair blynedd yn ddiweddarach yng Nghyfeirlyfr Masnach Ewans ym 1855, yn disgrifio'i hun fel 'torrwr cerrig'.

Erbyn hynny, mae Eli yn byw yn Vine Corrage gyda gwraig newydd (20 mlynedd yn iau nag ef), ac mae'n gwneud enw i’w hun fel Dyn Cerrig Beddi’r pentref. Mae Chis S wedi dangos ffotograff i mi o garreg fedd hardd wedi'i dylunio, ei siapio a'i haddurno yn (hen) fynwent Eglwys y Santes Fair. Gwyddom mai gwaith Eli yw hwn gan ei fod wedi ei lofnodi yn y gornel gyda'i enw a'i broffesiwn (i gyd yn Gymraeg).

Ym 1859, cafodd gomisiwn i ddylunio ac adeiladu'r mawsolëwm teuluol ar gyfer y teulu Booker. Noda’r papur newydd The Cardiff & Merthyr Guardian ar 16 Gorffennaf:
‘…the tomb of the late TW Booker Esq in St Mary’s Churchyard in Forest-of-Dean stone, interspersed with iron railings. All executed by Mr Eli Evans of Whitchurch who has exhibited considerable skill in the general treatment of it’

Mae'r mawsolëwm yna o hyd, ond collwyd y rheiliau (tybed a gawsant eu toddi i lawr fel rhan o ymdrech ryfel y Rhyfel Byd Cyntaf?)

Erbyn cyfrifiad 1861 mae gan Eli deulu - dwy ferch fach a 2 fab iau. Erbyn hyn, mae'n cyfeirio at ei hun fel 'cerflunydd cerrig' ac yn cyflogi dau ddyn a bachgen. Mae nai Eli, Henry Hopkins, hefyd yn byw gydag Eli ac yn gweithio iddo fel 'saer claddedigaethau' (mwy am Henry Hopkins rywbryd arall!)

Erbyn 1871, mae Eli a'i wraig wedi cael merch arall, ac erbyn y flwyddyn nesaf roedd merch hynaf Eli wedi priodi'r gweinidog newydd yn Ararat, y Parchedig Thomas Thomas.

 

Dim ond tair blynedd yn ddiweddarach, bu farw Eli, yn 63 oed. Mae ysgrif goffa o'r Cardiff Times ar 24 Gorffennaf 1875 yn dweud:
‘at 3 o’clock on Wednesday 21st inst the remains of Mr Eli Evans were consigned to their last resting place in the family vault, Wauntreoda Chapel Whitchurch. The Rev Horatio J Thomas, vicar of Pentyrch conducted the service. There were several hundred persons present, including the Mayor of Cardiff. The service was conducted in Welsh. Hardly a dry eye was to be seen’

Felly, awn yn ôl i ddechrau'r blog hwn, gydag Eli yn byw yn Vine Cottage. Ble roedd Vine Cottage, a pham yr enw anarferol? Mae hen ffotograff du a gwyn yn y Llyfrgell Dreftadaeth yn Cathays, dyddiedig 1892, yn dangos bwthyn to gwellt wrth ymyl nant ar Waun Treoda. Mae'n debyg mai Vine Cottage sydd yn y llun, ac yn ôl pob tebyg, hen ffermdy Cornel-y-Waun. Ai llygriad o Waun oedd Vine? A ddaeth Waun Cottage yn Vine Cottage? Mae'n swnio'n ddigon posib i mi.

Yn ôl pob tebyg, mae ‘na lyfr llythyrau 'Eli Evans of Whitchurch', dyddiedig 1865, yn Archifau Gorllewin Morgannwg. Cyfle i rywun arall wneud bach o ymchwil yn y dyfodol!
Byddwn yn croesawu unrhyw feddyliau sydd gennych am y cymeriad lleol yma!