Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Americanwyr ar y Comin
Mae’n hysbys i bawb fod gwersyll o filwyr Americanaidd ar Waun Treoda am gryn amser yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Roedd yn dipyn o sioc darganfod mai dim ond am ychydig fisoedd y bu'r Americanwyr yma yn yr Eglwys Newydd, yn hytrach na blynyddoedd!
Dim ond ym 1940 y ffurfiwyd yr Ail Uned Ysbyty Mudo (ychydig fel MASH ar y teledu), a chawsant eu lleoli yn y DU o fis Medi 1942 tan D-Day ym 1944. Yn ôl hanes yr uned, cawsant eu hanfon i'r Eglwys Newydd rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 1944 (ie, dim ond 4-5 mis!), gan adael am ardal ymgynnull Lluoedd y Cynghreiriaid yn Henley-on-Thames, ac yna i Ffrainc ychydig ar ôl D-Day.
Mae'n ymddangos eu bod wedi cael eu lletya gyda dinasyddion preifat tra bod eu barics lled-barhaol yn cael eu hadeiladu y mis Chwefror hwnnw.
Mae ‘na straeon di-rif am ferched lleol yn dod o hyd i bob math o resymau dros gerdded yng nghyffiniau’r Comin, jyst i gael golwg.
Sefydlwyd ffreutur yn Neuadd Eglwys y Santes Fair i fwydo'r milwyr, lle byddai merched lleol yn paratoi brechdanau.
Gwyddom fod y Padre Americanaidd yn pregethu yng Nghapel Ararat gyferbyn â'r gwersyll, ond dydyn ni ddim yn gwybod dim am y pregethau.
Ar ôl Mehefin 1944, datgymalwyd y gwersyll (mae'n debyg iddo gael ei gludo i Ffrainc), felly doedd dim byd ar ôl. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod lletygarwch trigolion yr Eglwys Newydd wedi creu argraff ar yr Americanwyr oherwydd gwnaethant roi arian ar gyfer y rhodfeydd o goed sydd y naill ochr i’r brif ffordd. Gwnaethant drefnu hefyd i ddau blac gael eu gosod y naill ochr i’r ffordd mewn gwerthfawrogiad.
Y ffotograff isod yw'r unig dystiolaeth o'r Americanwyr yn yr Eglwys Newydd. Rwy'n amau bod tynnu lluniau o sefydliad milwrol yn ystod y rhyfel yn annerbyniol! Mae'r llun sydd wedi goroesi yn dangos y Conswl Americanaidd yn dadorchuddio un o'r placiau gyda baner yr Unol Daleithiau, gyda llawer o 'bwysigion' lleol yn y gynulleidfa.
Roedd pobl yn meddwl bod y rhodfa o goed, cymysgedd o boplys a cheirios, yn amhriodol, ond erbyn hyn maent yn gofeb barhaol i foment bwysig yn hanes ein pentref. Dros amser, wrth i'r coed aeddfedu, fesul un, cawsant eu chwythu i lawr neu daethant yn beryglus, felly cafodd coed mwy newydd eu plannu yn eu lle. Rwy'n credu mai dim ond un neu ddwy o'r coed gwreiddiol sydd ar ôl.
Gwnaeth y placiau ddioddef mwy na'r coed a dirywio. Yn 2011, aeth y gangen leol o Sefydliad y Merched ac adran Parciau Caerdydd ati i'w hadnewyddu, ac erbyn hyn mae ‘na blaciau smart, ond replica, yn parhau â'r stori.
Oes gennych chi unrhyw straeon am y cyfnod hwn? Byddem wrth ein bodd yn eu clywed!
English
Cymraeg