Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Tai Eraill y Teulu Booker
Roedd gan y teulu Booker 5 o blant, ac roedden nhw i gyd yn byw bywydau moethus yn Velindre gyda llu o weision yn tendio arnynt.
Bu farw un ferch, Anna, yn gynnar, ond magwyd y tri bachgen, Richard Blakemore, John Partridge a Thomas William (yr iau), a'u chwaer Mary yn y tŷ mawr yn gwylio eu tad yn tyfu'r busnes, ac yn mwynhau popeth y gallai teulu Fictoraidd cyfoethog obeithio amdano.
Wrth iddynt aeddfedu, dechreuodd TWB Blakemore gynllunio ar gyfer dyfodol ei blant. Daeth yr amser i Mary briodi, felly roedd angen dod o hyd i ŵr addas, a byddai angen merched addas (fel darpar-wragedd Booker). Byddai Mary yn cael gwaddol, ond roedd y meibion angen eu cartrefi eu hunain. Dangosodd TWB (yr iau) ddiddordeb yn y busnes teuluol, felly byddai e’n mynd i fyw yn Velindre, ond byddai cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu ar gyfer y ddau arall. Roedd gan Richard, yr hynaf, The Pines, ger yr hen eglwys, ac roedd gan John Partridge dŷ newydd ar Fryn Rhiwbeina o'r enw Greenhill.
Fodd bynnag, er ei gynlluniau, bu farw TWB Blakemore yn 57 oed, felly aeth y busnes i'r meibion. Arhosodd ei weddw, Jane, yn Velindre hyd ei marwolaeth.
Dewch i ni gael golwg ar y tai:
VELINDRE
Rydym wedi edrych yn flaenorol ar Velindre a sut y cafodd ei newid dros y blynyddoedd gan TWB Blakemore. Ar ôl iddo farw ym 1858, symudodd ei fab ieuengaf TWB (yr iau) i'r tŷ gyda'i wraig newydd Caroline a'i deulu ifanc. Doedd y dyn hwn yn ddim byd tebyg i'w dad ac ysbeiliodd y busnes a'r ystâd er ei fudd ei hun (mwy am hyn rywbryd arall!). Gwariodd ffortiwn bellach ar Velindre a'r tiroedd, ac mae map yr AO, dyddiedig 1880, yn rhoi cipolwg ar le gwariwyd yr arian - gwnaeth ymestyn a moderneiddio’r tŷ a chwblhau'r lawntiau a'r gerddi helaeth. Pan aeth y busnes i’r wal yn y 1870au, gadawodd TWB (yr iau) ac, yn syml, symudodd i blasty arall. Y tro hwn yn Southerndown, yn edrych dros y môr. Bu farw ym 1887. Gwelodd Velindre wahanol denantiaid dros y blynyddoedd nesaf, ac yn y pen draw cafodd ei brynu gan Gyngor Caerdydd fel rhan o'r Noddfa newydd. Cafodd ei ddymchwel tua 1900.
Cyn ei ddymchwel, cafodd Cyngor Caerdydd set gyflawn o gynlluniau ar gyfer y tŷ; mae'r rhain wedi eu colli, sy’n siom. Rydym ar ddeall bod gan y bloc stablau mawreddog gloc a thŵr ysblennydd - cafodd ei dynnu i lawr a'i ailddefnyddio yn y derfynfa bws trydan ym Mharc y Rhath. Mae hwn hefyd wedi ei golli!
THE PINES
Hwn oedd cartref y mab hynaf, Richard Blakemore Booker. Mewn cyfnod cynharach, roedd hen fwthyn yn sefyll yma - y Farmers Arms yn ddiweddarach. Dymchwelwyd hwn rywbryd ar ôl 1841, ac adeiladwyd y Pines wedyn.
Mae'r Pines yn dal i fod yna, a dyma'r unig ran o'r busnes Booker sydd wedi goroesi hyd heddiw.
Ni phriododd Richard erioed, a'r Pines oedd ei dŷ dyn sengl.
Cyfeiria Edgar Chappell yn ei lyfr, 'Old Whitchurch', at Richard fel ‘a man of dissolute habits’; dyn a wnaeth, yn amlwg, losgi ei gannwyll yn y ddau ben ac a fu farw yn ddim ond 32 oed!
Newidiodd tenantiaid diweddarach yr enw i 'The Cottage', a chyfeiria Ernie Broad at 'Squire' Phillips, a oedd yn Faer Caerdydd pan oedd yn byw yna. Oes rhywun yn gwybod am denantiaid eraill?
Prynodd y GPO y berllan ac adeiladu swyddfa ddidoli yn wynebu Heol-y-Forlan. Cafodd hon hefyd ei dymchwel yn ddiweddarach ar gyfer y datblygiad tai sydd yna heddiw.
Mae'r Pines (sydd bellach yn dwyn ei hen enw unwaith eto) bellach yn ddeintyddfa, ond diolch byth, mae bron yr holl nodweddion allanol gwreiddiol, gan gynnwys y simneiau Sioraidd gwych, yn parhau i fod yn gyfan. Mae'r wal derfyn gerrig ar Heol yr Hen Eglwys yn anhygoel o uchel, ac mae'n amlwg yn wreiddiol. Tybed pam y cafodd ei hadeiladu mor uchel, a oes unrhyw un yn gwybod?
GREENHILL
Hwn oedd cartref John Partridge Booker a'i deulu. Yn wreiddiol yn fferm o'r enw Pwll-y-Winci, safai'r tŷ a'r porthdy mewn 4 erw o erddi, wedi'i amgylchynu gan 90 erw arall o dir. Digon diymhongar!
Roedd y tŷ yn enfawr, yn cynnwys neuadd, stydi, ystafell groeso, ystafell fwyta, ystafell fore, neuadd y gweision, ystafell wely’r gwas lifrai, pantri’r bwtler a phantrïoedd platiau a tsieni. Roedd ganddo chwe ystafell wely ar y llawr cyntaf ynghyd ag ystafelloedd gwisgo ac ystafelloedd morwynion. Roedd yna hefyd ddau atig ‘da’ dros ystafelloedd y gweision.
Roedd yna hefyd stablau a chynelau mawr ar gyfer yr helfa leol (llwynogod a dyfrgwn).
Bu farw JPB ym 1868 yn ddim ond 34 oed. Bu ei weddw, Clara, yn byw yn Greenhill am flynyddoedd lawer ar ôl hynny.
Yn yr 20fed ganrif, daeth tenantiaid i Greenhill. Ym 1909, adroddodd papur newydd yr Evening Express: ‘Capt. and Mrs Chappell of Greeenhill donated a new peal of bells to St Mary’s’
Yn ddiweddarach, gwerthwyd y 90 erw i’w datblygu, ac ymgripiodd tai yn agosach at y tŷ mawr. Cafodd ei werthu wedyn i Gyngor Caerdydd a'i defnyddiodd fel ysgol arbennig, ac fe'i dymchwelwyd wedyn ar gyfer ysgol newydd.
A beth am y teulu Stacey?
Ar ôl priodas Mary yn hen eglwys blwyf y Santes Fair ym mis Ebrill 1860 i'r Parchedig Cyril Stacey, mwynhaodd y cwpl dderbyniad gwych ar y lawntiau yn Velindre, gyda channoedd o westeion, band pres a 24 canon (wedi'u gosod ar lannau Afon Taf islaw). Doedd Cyril ddim yn ficer cyffredin; roedd wedi etifeddu tir yn y Rhath ac wedi adeiladu llawer o dai. Symudodd Mary i ffwrdd o'r Eglwys Newydd, cafodd ddau o blant, ond yn anffodus bu farw yn fuan wedyn. Cafodd ei chladdu yn yr hen fynwent lle y priododd ychydig ynghynt. Cafodd strydoedd yn y Rhath eu henwi ar ôl y teulu; Heol Stacey, Richard's Terrace (ar ôl ewythr Cyril) a Booker Street ar gyfer ei wraig. Mae'r llun isod yn dangos y stryd.
Diolch i Ted Richards o Gymdeithas Hanes y Rhath am y wybodaeth hon.
Oes rhywun yn gwybod lle roedd Mary a Cyril yn byw ar ôl eu priodas? Byddem wrth ein bodd yn gwybod mwy!
English
Cymraeg