Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru

Blychau Ffôn

101-68-Edward-VIII-Post-Box.jpg

Ble mae'r holl flychau ffôn wedi mynd?
Rwy’n gwybod bod yr hen flychau ffôn coch i gyd wedi diflannu o'n strydoedd, ond mae'n ymddangos bod y blychau arian a gymerodd eu lle yn diflannu hefyd. Dwi wedi bod yn edrych o gwmpas i geisio dod o hyd i’r blychau, a does dim llawer. Mae un wrth y gylchfan ger y llyfrgell, ac un reit ar waelod y pentref lle mae Ffordd y Faenor yn dechrau. Ond does dim byd rhyngddynt. Siawns fod yna flwch ffôn yn y pentref ers talwm? Ble roedd e? Oes unrhyw un yn cofio?

Wrth yrru i’r gorllewin o'r llyfrgell, does dim un tan i chi ddod i Barc Hailey. Roedd ‘na un yn Ystum Taf ger y siopau does bosib? A beth am Dongwynlais a Rhiwbeina?

Felly, pwy sy'n dal i ddefnyddio ffonau cyhoeddus? Roedden ni'n arfer dyfalu bod yr unig bobl a ddefnyddiai’r blwch yn Heol St Margaret yn gwneud galwadau cudd. Ond pwy arall? Nagyw’r ystadegau'n dweud bod gan y rhan fwyaf o bobl o leiaf un neu ddau o ffonau symudol yr un?

Dim ond mater o amser yw hi tan fod yr ychydig flychau ffôn sy’n weddill yn diflannu.

Gwnaeth hyn i mi feddwl; dywedodd Terry Chard wrthyf fod yr hen gyfnewidfa ffôn mewn bwthyn teras bach yn Heol yr Hen Eglwys, a bod pobl yn arfer ciwio tu allan i wneud galwadau ffôn i berthnasau dros y Nadolig ‘slawer dydd. Mae'r gyfnewidfa wedi diflannu, ond mae ‘na hen ffotograff yn dangos yr arwydd cyfnewidfa ffôn dros y drws ffrynt, ac mae blwch cyffordd GPO yn dal y tu allan ar y palmant. Oes rhywun yn ei gofio?

Pryd wnaethoch chi anfon telegram ddiwethaf? Allwch chi anfon un o hyd? Mae hen lun arall yn dangos y swyddfa telegraff yn y pentref (lle mae’r Monmouthshire Building Society erbyn hyn).

I le'r aeth yr holl bolion telegraff? Mae llawer o'r hen luniau yn dangos polion telegraff (gyda pholion croes niferus), yn edrych fel rhyw fath o goedwig ledled y pentref. Dwi'n meddwl eu bod nhw’n cario trydan hefyd. Maen nhw i gyd wedi mynd nawr. Mae gennym ni un y tu allan i'n tŷ ni o hyd, ond mae'n fach ac ar gyfer y ffôn a band eang.

Ac yna mae'r blychau llythyrau, mae’r rhain gyda ni o hyd diolch byth. Ond ai nhw fydd y rhai nesaf i fynd? A oes unrhyw un yn ysgrifennu llythyrau mwyach?

Mae'r blwch llythyrau yn y pentref yn un anarferol gan ei fod yn un 'dwbl', gyda 2 slot. Yn amlwg byddai wedi bod yn brysur iawn yn y gorffennol agos.

Mae gennym hefyd flwch llythyrau Edward VIII, wedi'i leoli yn Heol Don. Mae hwn yn beth prin iawn - yn ôl y sôn dim ond 2 sydd yng Nghymru gyfan! Mae'r llun isod yn dangos y seiffer brenhinol ar y blwch. Pam nad ydyn ni'n gwneud mwy o ffws am flwch llythyrau mor arbennig?
Mae llawer o'r blychau eraill yn y pentref yn rhai Siôr VI neu Elisabeth II, ond oes unrhyw un yn gwybod am rai cynharach? Oes ‘na unrhyw flychau llythyrau Fictoraidd yn lleol?

Yn ôl pob tebyg, dechreuodd blychau llythyrau ymddangos tua 1859 ar ôl i'r Post Brenhinol gyflwyno stampiau (y stamp ceiniog du!). Cyn hynny, roedd yn rhaid i bobl dalu i dderbyn y llythyr. Dyna pryd y dechreuodd blychau llythyrau ymddangos ar ddrysau ffrynt tai, gan nad oedd yn rhaid i'r postmon guro mwyach.

Ym 1861, roedd gan Henry Lewis yn Greenmeadow, ymhlith ei weision, un llanc 11 oed a oedd yn negesydd. Rwy'n siŵr ei fod wedi gorfod mynd â llawer o lythyrau i'r swyddfa bost. Roedd gan y teulu Booker ddosbarthwr llythyrau ar eu staff ym Melin Gruffudd hefyd.

Mae ‘na erthygl hyfryd yn y Cardiff Times o 27 Chwefror 1866 ynghylch ein dosbarthwr llythyrau (nid postmon bryd hynny!) lleol, a oedd wedi cael ei ddisodli:

Letter Carrying
The inhabitants of this thriving village are greatly benefitted by the change that has taken place in the letter carrier. The old carrier, in spite of many complaints made by individuals to his master, of the careless manner in which he executed his duty, was retained in office until about a fortnight ago, when as the old saying was verified by the master himself that seeing is believing. The carrier was then discharged as a matter of course; and it is satisfactory to find that his successor is a little fellow of stern and persevering habits. He delivers the letters at an average of threequarters of an hour, earlier than his predecessor

Dim ond 160 o flynyddoedd yn ôl - mae’n swnio fel oes arall!

Heb os, rydyn ni'n mynd i golli'r blychau llythyrau a'r postmyn cyn hir. Wedyn, bydd hyd yn oed mwy o flychau casglu Amazon hyll yn ymddangos ledled yr ardal, ac mae'n debyg y bydd faniau dosbarthu trydan yn cymryd lle’r postmyn.

Ond ddim am sbelen go hir (gobeithio).