Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Oliver Cromwell
Mae ymchwilio i eitemau ar gyfer y blogiau wythnosol hyn bob amser yn wych, ac nid yw’r ffeithiau rhyfedd sy'n dod i'r amlwg byth yn fy synnu.
Os gofynnwyd i chi restru pa bobl bwysig mewn hanes a allai fod â chysylltiad â'r pentref, mae’n siŵr mai crafu’ch pen fyddech chi. Mae ‘na athletwyr diweddar sydd wedi mynychu ein hysgolion, ac mae nifer o bobl nodedig wedi byw yn y pentref yn y gorffennol. Gallech awgrymu fod perthynas Benjamin Disraeli â'r weddw yn Greenmeadow yn cyfri hyd yn oed.
Ond roeddwn yn gegrwth pan ddysgais am y cysylltiad posib rhwng Oliver Cromwell a'r Eglwys Newydd! Ie, yr Oliver Cromwell yna, o’r enwog (neu ddrwg-enwog) Frenhinwyr a Phengryniaid. Mae llawer yn gwybod hanes y Rhyfel Cartref, pan rannwyd y wlad yn Frenhinwyr a Seneddwyr, a'r brwydrau (roedd un ar y Rhos Fawr yn Rhiwbeina, ac un arall yn Sain Ffagan) a arweiniodd at ddienyddio'r Brenin Siarl I, a datgan Oliver Cromwell yn Arglwydd Amddiffynnydd y Werinlywodraeth.
Felly, pa mor debygol yw hi fod teulu Oliver Cromwell yn dod o'r Eglwys Newydd, a ble mae'r dystiolaeth?
Soniodd Terry Chard wrtha i am raglen deledu ar y BBC sy'n esbonio'r stori leol. Mae ar gael ar iPlayer o hyd, ac mae'n werth ei gwylio. Gŵglwch 'BBC The Story of Wales, Episode 3' a sgroliwch 41.25 munud i mewn i'r ffilm ac fe welwch Huw Edwards ym Mhentre'r Eglwys Newydd yn mynd i fynwent y Santes Fair ac yn egluro'r cyfan mewn tua thair munud!
Efallai eich bod wedi darllen llyfr Hilary Mantel, Wolf Hall, am y cyfrwys Thomas Cromwell a'r Brenin Harri VIII. Efallai eich bod wedi gwylio'r gyfres deledu hyd yn oed.
Roedd dau frawd o'r Eglwys Newydd, Morgan a Richard Williams, yn deyrngar iawn i'r brenin Tuduraidd cyntaf, Harri’r VII, ac fe'u gwobrwywyd â grantiau o dir, ac yn ddiweddarach fe'u cysylltwyd trwy briodas â Thomas Cromwell (o enwogrwydd Wolf Hall). Yn ôl y sôn, priododd Morgan Williams â Katherine, a oedd yn chwaer i Thomas Cromwell (ydych chi ‘da fi o hyd?)
Roedd Thomas Cromwell yn berson mor uchel-ei-barch yn y llys brenhinol nes i blant Morgan Williams gymryd yr enw Cromwell er mwyn gwella eu hunain. Enwyd gor-ŵyr Morgan Williams, a anwyd ym 1599, yn Oliver Cromwell (Williams fyddai’r enw fel arall).
Ysgrifennodd John Leland, tua 1538, yn ei Itinerary of Wales:
‘Commotes in Glamorganshire – Kibworth lyeth from the mouthe of Remney up on an hille, in the commote caullid Keyen On, about six miles on from the mouthe of Remney. This hille goith as a waulle over-thwart-betwix the rivers of Thane (Taff) and Remney. About two miles from Cardiff, be vestigial of a Pile or Manor Place, decayed, at Eglius Newith (Eglwys Newydd), in the Paroche of Landaf. In the south side of this hille was born Richard Williams, alias Cromwelle’
Felly, ar yr adeg hon, mae'n rhaid bod Leland yn nabod Cromwell yn dda.
English
Cymraeg