Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru

Heol Gwrgan a Heol Iestyn

101-7-Coat-of-Arms-of-City-of-Cardiff.jpg

Yng nghanol Arfbais Dinas Caerdydd mae tarian ag arni ddraig goch. Mae'n ddraig balch sy’n dal baner sgwâr o dri chevron arian ar gefndir coch.

Y faner sgwâr hon (a ddangosir isod) gyda'r chevrons yw arwyddlun Iestyn-ap-Gwrgant, Brenin Cymreig olaf Morgannwg.

Felly, pwy yw Iestyn-ap-Gwrgant a beth yw ei gysylltiad â baner Caerdydd ac yn benodol pam fod 2 stryd yn yr Eglwys Newydd wedi cael eu henwi ar ei ôl?

Roedd Iestyn-ap-Gwrgant yn rhan o deulu hynafol Cymreig a fu am gannoedd o flynyddoedd yn dal tiroedd ledled Morgannwg o'u cadarnleoedd yn Senghennydd, castell  Morgraig (y mae ei adfeilion yn dal i’w gweld ger tafarn y  Travellers Rest) a ffermdy o'r enw Treoda rywle yn yr Eglwys Newydd. Mae rhai wedi awgrymu bod y cartref hwn wedi'i leoli ychydig i'r gogledd o Waun Treoda (Comin yr Eglwys Newydd). Fel llawer o'r penaethiaid Cymreig, roedd Iestyn-ap-Gwrgant yn cecru’n barhaus gyda'i deulu, a'r tywysogion Cymreig eraill, ond roedd yn cynnal trefn a heddwch cyffredinol.

Ar ôl goresgyniad y Normaniaid yn 1066, ysgubodd Robert Fitzhamon, marchog Normanaidd drwy Sir Fynwy a Morgannwg a chipio Caerdydd.  Cododd gastell mwnt a beili yn y dref a’i gwneud yn ganolfan iddo.  Ar ôl llawer i ffrwgwd fe ddaeth ar draws Iestyn-ap-Gwrgant a cheisiodd ennill tiroedd i'r gogledd o Gaerdydd hefyd.

Yn 1088, cafwyd brwydr derfynol rhwng Iestyn-ap-Gwrgant a marchogion Normanaidd Robert Fitzhamon. Mae lleoliad y frwydr yn ansicr, ond cafodd ei chynnal rywle ger tiroedd yn ardal Rhiwbeina a gogledd yr Eglwys Newydd. Mae rhai llyfrau yn cyfeirio at y frwydr hon fel 'Brwydr y Mynydd Bychan'.  Cafodd y nant sy'n llifo drwy Gae Delyn a'r Eglwys Newydd ei hailenwi'n 'Nant Waedlyd'. Yn anffodus, nid llwyddiant fu’r frwydr i Iestyn wrth i'w fyddin gael ei threchu. Mae’r gweddill, fel maen nhw’n ei ddweud, yn hanes.

Beth oedd hynt Iestyn wedyn? Mae un chwedl yn honni iddo fyn dyn fynach i Abaty Keynsham ger Bryste, tra bod un arall yn honni iddo gael ei ladd a’i gladdu'n lleol o dan dwmpath o'r enw 'Twmpath'. Ai dyma'r twmpath islaw Cefn Onn, neu'r twmpath hynafol ger y Fox and Hounds yn yr Eglwys Newydd?

Felly, dwy heol fach yn yr Eglwys Newydd, ychydig oddi ar dir Gwaun Treoda yw'r unig gofebau i'n brenin lleol olaf, Brenin Morgannwg.

Os hoffech wneud sylwadau neu gyflenwi rhywbeth ar gyfer y crynodeb hwn, e-bostiwch awen.cymru@gmail.com.