Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Ffermydd yr Eglwys Newydd - 1
Diolch i Ernie Broad ac Edgar Chappell, rydym yn gwybod cryn dipyn am ffermydd y pentref. Maen nhw wedi ysgrifennu cymaint ac wedi rhoi cipolwg i ni ar sut roedd pethau ‘slawer dydd.
Mae Ernie Broad yn sôn wrthym am gymeriadau ffermio ei blentyndod ac mae gan Edgar Chappell lawer i'w ddweud am yr hanes. Dywed mai un faenor ganoloesol fawr oedd yr Eglwys Newydd o 1295, gyda ffermydd a thenantiaid rhwymedig, ond dros y 2-300 mlynedd diwethaf roedd llond llaw o dirfeddianwyr gwahanol. Oes unrhyw un yn gwybod mwy am hyn?
Mae'n anhygoel meddwl, o fewn cof (bron), fod o leiaf 16 fferm yn yr Eglwys Newydd ac Ystum Taf. Roedd hyd yn oed mwy o gynnwys Tongwynlais, Llwynbedw a Rhiwbeina.
O Fap Degwm 1841, mae'n amlwg bod bron pob un o'r ffermydd â thenantiaid a thirfeddianwyr absennol. Mae'r enwau Cymraeg yn dynodi bod nifer o'r ffermydd yn hen iawn, felly mae'n debyg bod ffermydd dechrau'r 20fed ganrif yr un peth o leiaf 200 mlynedd ynghynt. Roedd gan lawer o’r caeau fferm a restrir ar y Map Degwm enwau oedd yn adlewyrchu eu maint, siâp ac ansawdd.
Ynghlwm mae map, yn seiliedig ar y Map Degwm, sy'n dangos y pentref a'r cannoedd o gaeau o'i gwmpas. Gallwn gael oriau o hwyl gyda hwn yn edrych ar yr enwau ac yn gweithio allan lle mae ein pentref modern. Nid oedd yr un o'r ffermydd yn enfawr - roedd y mwyaf yn 20-30 o gaeau ar y mwyaf, gyda llawer o'r lleill yn llawer llai. Er mwyn gwneud cyfiawnder â'r holl ffermydd mae angen blog hir iawn, neu ddau flog llai. Felly, rydw i wedi penderfynu y bydd y blog cyntaf hwn yn un cyffredinol a bras, ac yna byddaf yn rhestru’r holl ffermydd rwy'n gwybod amdanynt.
Roedd ein ffermydd lleol yn gymysgedd o dir âr a phorfa. Roedd yna gnydau âr, yn bennaf gwenith, haidd a cheirch, tra bod y borfa yn darparu ar gyfer gwartheg, rhai defaid a bustych aredig.
Er bod y ffermydd yn amrywio o ran maint, roedd gan bob un ei ffermdy ei hun (efallai bod rhai o’r rhai hen iawn wedi cartrefu anifeiliaid yn ogystal â'r teulu), ysgubor, beudy, stablau, sied gerti, twlc a thas wair, i gyd o fewn buarth â wal neu wrych. Ger y ffermdy byddai gardd lysiau (a chwt ieir mae’n debyg) - ardal gwraig y ffermwr, ar gyfer cynnyrch y teulu.
Roedd llawer o'r ffermydd wedi'u lleoli ger nant lle byddai cyflenwad digonol o ddŵr, ond roedd gan eraill fel Ty'n-y-Pwll a Phentwyn byllau. Mae'r pwll ym Mhentwyn (Clwb Golff yr Eglwys Newydd erbyn hyn) bellach yn rhwystr dŵr ar y cwrs, a gallwch ei weld drwy'r coed o’r A470!
Roedd gan rai o'r ffermydd oedd yn arbenigo mewn llaeth, fel Fferm y Fforest, dai godro. Ac wrth gwrs, wedi’u dotio o gwmpas pob fferm roedd teisi gwair ac ambell ysgubor maes.
Mae ffurflenni cyfrifiad cynnar yn rhestru'r teuluoedd ffermio a'u gweithwyr preswyl, ond roedd llawer o bobl eraill yn y plwyf a restrwyd fel 'llafurwr amaethyddol'.
Yn amlwg yn y dyddiau hynny, roedd ffermio yn ddwys iawn, ac ar wahanol adegau o'r flwyddyn (fel amser hau, aredig a chynaeafu) roedd angen hyd yn oed mwy o gymorth. Rwy'n siŵr eich bod chi i gyd wedi gweld y llun gwych o ffermwr yn aredig ar yr hen Fferm Forlan, gyda phâr o geffylau'n tynnu'r aradr (Old Whitchurch, gan Edgar Chappell)
Wrth i fecaneiddio ymddangos, lleihaodd yr angen am nifer fawr o lafurwyr, ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, gwnaeth y prinder dynion gyflymu'r dirywiad. Erbyn y 1950au, roedd tractorau ac aredig mecanyddol yn golygu bod angen llawer llai o weithwyr fferm.
Yn rhan olaf y 19eg ganrif, symudodd yr ardal o amgylch Gwaun Treoda a'r Ffilog tuag at fasnach-arddio, gyda'r teulu cyfan yn helpu. Roedd hyn yn golygu hyd yn oed llai o gyflogaeth amaethyddol ar y ffermydd, gyda'r teuluoedd lleol yn trin eu lleiniau eu hunain.
Yna, ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, dechreuodd yr Eglwys Newydd ehangu'n ddramatig gyda mwy a mwy o dai yn cael eu hadeiladu ar gaeau fferm. I ddechrau, digwyddodd hyn ar y caeau agosaf at y canol, ond dros y blynyddoedd llyncwyd mwy a mwy o fannau agored.
Nawr, dim ond enwau'r strydoedd sy'n adlewyrchu hen ffermydd a chaeau’r ardal, gydag ambell ffermdy’n goroesi. Yn wir, Fferm y Fforest yw'r unig enghraifft leol sydd ar ôl gyda'i hysguboriau a'i siediau, ac adeiladau sy’n adfeilio.
Y tro nesaf, byddwn yn edrych ar bob un o'r ffermydd lleol a rhai o'r teuluoedd a oedd yn ffermio yma. Ydych chi wedi clywed amdanyn nhw?
English
Cymraeg