Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru

Ffermydd yr Eglwys Newydd - 2

101-72-pic-Farms-of-Whitchurch-Glan-y-Nant-Farm.jpg

Ychydig wythnosau yn ôl, edrychom yn fras ar yr 16 o ffermydd a oedd yn ffurfio rhan helaeth o'n pentref cynnar, ac rydym wedi cael ymateb anhygoel. Y tro hwn byddwn yn edrych ar y ffermydd unigol a phwy oedd yn byw ynddynt ar wahanol adegau. Er bod gennym wybodaeth o’r Map Degwm a ffurflenni cynnar y cyfrifiad, nid oes llawer o wybodaeth arall yn bodoli. Mae yna bytiau o bapurau newydd lleol, a chlecs hanesyddol. Os oes gennych unrhyw wybodaeth arall, rhannwch hi os gwelwch yn dda, gan ein bod eisiau ehangu ein stori.

Soniais y tro diwethaf mai Fferm y Fforest yw’r unig fferm sydd wedi goroesi yn y pentref, gyda'r ysguboriau ac adeiladau allanol i’w gweld o hyd. Nid yw hyn yn hollol wir. Wrth i chi yrru i fyny (neu i lawr) yr A470, wrth y goleuadau traffig gyda Heol Pant-mawr, byddwch yn pasio dau ffermdy arall; Pentwyn ar un ochr (sef tŷ clwb Clwb Golff yr Eglwys Newydd erbyn hyn) ac Ashgrove ar y bryn bach gyferbyn.

Felly, gan ddefnyddio'r ffordd dyrpeg (yr hen Heol Merthyr) fel hollt, a dechrau yn y gogledd (yr M4 at ddibenion y rhestr hon – sori Tongwynlais!), gallwn gael dwy restr o ffermydd. Y tro hwn byddwn yn edrych tua'r dwyrain:

I'R DWYRAIN O'R TYRPEG (yn dechrau o'r gogledd):
Pentwyn
Weithiau cyfeirir ati fel Fferm Pentwyn Ucha. Clwb Golff yr Eglwys Newydd sydd yma erbyn hyn, gyda'r tŷ clwb wedi'i leoli o amgylch y ffermdy gwreiddiol. Ym 1791, roedd yn berchen i’r teulu Jones (o Ffwl-y-mwn), ac roedd John Sankey yn ffermwr tenant ym 1893. Mae'r caeau fferm mwyaf deheuol bellach yn gartref i Bentref Gardd Rhiwbeina.

Ashgrove
Mae Pam wedi ymchwilio i Ashgrove ac, yn garedig iawn, wedi rhannu'r wybodaeth. Ym 1760 enw’r fferm oedd Pentwyn Isaf, gyda chaeau i'r gorllewin a'r de. Mae'n rhoi ei henw i ran uchaf yr A470 gerllaw. Rhoddwyd enwau i lawer o gaeau'r fferm, gydag un cae yn wynebu’r hen Heol Merthyr yn dwyn yr enw 'Dwy Erw'r Ysgubor Ddegwm'. Roedd Daniel Evans yn denant yn y fferm yn hanner cyntaf yr 1800au, gyda'i deulu, a dangoswyd copi o'i ewyllys i ni o 1861. Gwych iawn!

Ty'n y Cae
Wedi'i lleoli ar safle presennol Parc Caedelyn, roedd y fferm hynafol hon ger Nant Waedlyd ac roedd ganddi bont bren fel mynediad (mae'r nant bellach wedi'i sythu). Mary James oedd y ffermwr yng nghyfnod y Map Degwm, gyda William Morgan yn ei ffermio’n ddiweddarach. Roedd y ffermdy’n dal i fodoli ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, ac mae Ernie Broad yn ei ddisgrifio yn ei nodiadau.

Glan y Nant
Gallaf gofio'r ffermdy hwn pan symudon ni i'r Eglwys Newydd ddechrau'r 1970au. Roedd yn sefyll lle mae bloc ystafelloedd gwely’r Masons Arms nawr. Dwi wedi cynnwys llun lliw isod o'r fferm - efallai y bydd yn dwyn rhywbeth i gof rhywun. Mae'n debyg bod y ffermdy’n dyddio o ddechrau'r 1800au, ond mae'n debyg bod y fferm ei hun yn llawer hŷn. Yn ôl y Map Degwm, roedd caeau'r ffermydd yn ymestyn mor bell i'r gorllewin â'r groesffordd (lle mae'r llyfrgell bellach yn sefyll). Roedd Edward Lewis yn ffermwr yng nghanol y 19eg ganrif, gyda Thomas Stephens yn cymryd yr awenau yn ddiweddarach. Oes rhywun yn gwybod pwy oedd y ffermwyr diweddarach?

Ty’n y Parc
Dywed Edgar Chappell mai fferm hynafol oedd hon, a ddatblygwyd yn 'gartref bonheddwr' yn oes Fictoria, ac a feddiannwyd gan yr Iarll Antonio Lucovich a'i deulu ar ddiwedd y 19eg ganrif. Cyn hynny, rhestrwyd y fferm eang ar y Map Degwm, gydag Edward Lewis yn ffermwr tenant. Erbyn 1861, roedd ei labrwr fferm ffyddlon, Thomas Stephens, wedi cymryd rheolaeth o’r denantiaeth.

The Elms
Roedd y fferm hon wedi’i lleoli ger gorsaf betrol Tesco ar Heol Tyn-y-parc. Victor Skeats oedd y ffermwr ar ddiwedd y 19eg ganrif ac roedd y caeau i'r de. Ceir dau adroddiad papur newydd am y fferm; ym mis Hydref 1901 roedd tân ar y fferm gyda'r pennawd ‘5 horses burnt alive’. Llosgwyd yr holl adeiladau allanol a'r stablau yn ulw. Dair blynedd yn ddiweddarach, adroddodd yr un papur: ‘Mr T Skeats of the Elms took first and champion prizes at the Maesteg Show on Monday with his Show Horse’. Felly, ni chollwyd popeth yn amlwg.

Ty’n y Pwll
Roedd y fferm hon wedi’i lleoli lle mae fflatiau Anton Court ar Heol Ty’n y Pwll. Goroesodd y ffermdy a'r buarth tan y 1950au, ac mae mapiau'r Arolwg Ordnans yn dangos pwll hwyaid yng nghornel y buarth. William Preston oedd y ffermwr yng nghanol y 19eg ganrif. Mae Ernie Broad yn sôn am ei orchestion yno, ac mae llun o'r awyr a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn dangos buarth y fferm.

Fferm Pentre
Mae’r fferm hon ar y Map Degwm, felly roedd yn hen iawn. Roedd wedi’i lleoli yng nghanol y pentref (lle mae Domino’s Pizza nawr), a dim ond yn ddiweddar y cafodd ei dymchwel
Roedd Edward Williams yn ffermwr yn y 1840au a'r 50au, a daeth Barrie Wride (yr oedd ei deulu’n ffermio Fferm y Graig) yn ffermwr yn ddiweddarach.

Tom Samuels oedd y ffermwr o ddiwedd y 19eg ganrif ac roedd ganddo gaeau ar ddwy ochr y brif ffordd. Gellid gweld gwartheg yn croesi'r heol byth a beunydd! Mae Ernie Broad yn sôn am fab Tom Samuel, nad oedd am fod yn ffermwr, yn rhedeg siop gyferbyn â'r fferm (lle mae'r siop newyddion/swyddfa bost erbyn hyn). Adeiladodd hefyd yr adeilad tal iawn y tu cefn i gartrefu peiriant torri betys, gan ddarparu porthiant i'r anifeiliaid lleol.

Ffermydd eraill
Mae ‘na straeon am fferm wirioneddol hynafol o'r enw Treoda, a allai fod wedi’i lleoli y tu ôl i Gapel Ararat ar y Comin. Yn sicr, roedd hen fythynnod yn dal yno adeg y Map Degwm. Oes unrhyw un yn gwybod rhywbeth?

Ac yna roedd fferm Fred Hales. Mae Ernie Broad yn dweud bod y fferm hon ond 300 llath o Fferm Pentre, ond alla i ddim ei lleoli. All unrhyw un helpu?

Ac yna roedd Pen-llin (cafodd yr enw gan ei bod wedi'i hadeiladu ar dir oedd yn eiddo i Ystâd Pen-llin). Ai hon oedd fferm Fred Hales? Mae Ernie Broad yn disgrifio'r tŷ yn fanwl iawn. Oes unrhyw un yn gwybod am hyn?

Yna mae’r ffermydd yn Nhongwynlais, Rhiwbeina a Llwynbedw. Maen nhw ychydig yn rhy anghysbell i’r blog hwn, ond os oes unrhyw un yn gwybod amdanynt, rhowch wybod.

Y tro nesaf, byddwn yn dod â'r gyfres fach hon i ben gyda chipolwg ar y ffermydd ar ochr orllewinol y tyrpeg.