Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Atgofion o'r Eglwys Newydd Adeg Rhyfel
Does dim llawer o bobl ar ôl yn y pentref sydd bellach yn cofio'r Ail Ryfel Byd. Dim ond plant oedd y rhai sy'n dal i gofio, ond mae'n rhaid bod llawer o straeon. Mae'n fraint i ni fod wedi cael ambell un.
Mae Ceri Stennett wedi rhoi cyfrif anhygoel o'r Eglwys Newydd yn y cyfnod cyn ac yn arwain at y rhyfel ac mae'n werth ei ddarllen. Mae wedi cytuno'n garedig y gallaf ddefnyddio ambell un o'i atgofion.
Datganwyd bod rhyfel ym Medi 1939, ac o fewn misoedd chwddwyd y fyddin, y llynges a'r awyrlu sefydlog gan wirfoddolwyr o bob rhan o'r wlad, gan gynnwys yr Eglwys Newydd. O fewn misoedd, cafodd llawer o ddynion sy'n oedolion eu consgriptio i'r lluoedd arfog hyn, gyda rhai menywod yn gwirfoddoli hefyd. Roedd menywod eraill yn gweithio yn y gwahanol ffatrïoedd rhyfel. Ar Heol Caerffili roedd ffatri’r ROF lle roedd llawer o bobl leol yn gweithio.
Wrth i'r gwrthdaro barhau, ychwanegwyd dynion hŷn a phobl ifanc at y niferoedd a gonsgriptiwyd felly, yn y pen draw roedd y rhan fwyaf o oedolion yn rhan o’r ymdrech ryfel. Gwirfoddolodd y rhai hŷn fel wardeiniaid ARP, fel diffoddwyr tân gwirfoddol a phlismyn arbennig. Fe wnaeth bechgyn ysgol hŷn eu rhan hefyd.
Trowyd llawer o'r mannau agored yn y pentref yn rhandiroedd ar gyfer tyfu llysiau a ffrwythau
Mae llun o'r awyr o 1948 rydyn ni wedi'i ganfod, yn dangos clytwaith o leiniau bach drwy'r pentref i'w gweld o hyd, 3 blynedd wedi diwedd y rhyfel.
Codwyd llochesi Anderson crwm mewn llawer o erddi cefn. Gwn am un sydd yn dal yn Ystum Taf, yn cefnu ar i'r lôn ym Mharc Hailey. Oes 'na unrhyw rai eraill?
Yn ogystal, codwyd llochesi cyrch awyr cymunedol ledled y pentref. Mae un, sy'n dal i sefyll ar Heol Pen-llin (a ddefnyddiwyd gan y Sgowtiaid mewn cyfnod diweddarach i storio eu pebyll). Ble'r oedd y lleill?
Dwedir wrthyf bod y 'Batter' ym Melingriffith wedi ei gloddio fel lloches rhag bomiau ar gyfer dynion y gwaith tunplat. Does dim arwydd amlwg nawr, ond all unrhyw un gofio pa bryd gawson nhw eu llenwi?
Roedd tanciau dŵr ar barc y llyfrgell ac ar Gomin yr Eglwys Newydd ar gyfer diffodd tân. Ble roedden nhw wedi'u lleoli?
Roedd goleuadau a gynnau gwrth-awyrennau wedi'u lleoli'n lleol hefyd. Oes rhywun yn gwybod ble?
Roedd seiren cyrch awyr wedi ei leoli ar orsaf yr heddlu yn Bishops Road. Gallaf gofio hwn yn dal i gael ei brofi'n y 1970au (rhag ofn?).
Cyflwynwyd dogni yn gynnar iawn yn y rhyfel, gyda dim ond y pethau sylfaenol iawn hen eu cynnwys. Roedd cig, menyn a chaws mewn cyflenwad byr iawn, a dim ffrwythau wedi'u mewnforio. Roedd melysion a siwgr yn dal i gael eu dogni tan ddechrau'r 1950au.
Mae copi o gerdyn dogn gan un o'n grŵp hel atgofion a ddangosir isod. Os edrychwch chi'n ofalus, fe welwch fod y cerdyn hwnnw wedi cael ei stampio'n ffyddlon yn wythnosol gan y cigydd lleol.
Mae Ceri yn ein hatgoffa o'r Bwyty Prydeinig yn Neuadd Plwyf y Santes Fair lle'r oedd prydau maethlon ar gael bob dydd am bris cymedrol. Yn ôl pob tebyg, doedd gan y bobl leol fawr o olwg ohono!
Câi y blacowt ei orfodi yn y nos, a diffoddid yr holl oleuadau stryd. Rwy'n siŵr bod yn rhaid y bu llawer o ddamweiniau. Symudwyd llawer o blant i'r Eglwys Newydd o Lundain a dinasoedd mawr eraill Lloegr a chawsant eu cymryd i mewn gan deuluoedd lleol.
Rhannwyd yr ysgol uwchradd ar Ffordd y Faenor i’r bore/prynhawn gyda phlant lleol yn mynychu yn y boreau a phlant ifaciwî yn y prynhawn. A wnaeth ysgolion eraill fabwysiadu'r un rheolau?
Rhoddwyd masgiau nwy i bawb, ac roedd disgwyl i chi ei gadw gyda chi bob amser.
Mae Dorothy yn sôn am groesawu plant ifaciwî i'w thŷ, ac roedd hyd yn oed 'crud' rhag nwy ar gyfer babanod bach.
Yn union fel yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd ysbyty'r Eglwys Newydd eto ar gyfer anafiadau milwrol, ac yn ogystal â milwyr a morwyr Prydeinig wedi'u hanafu, cafodd y cynghreiriaid a'r gelyn a anafwyd eu trin yno hefyd. Roedd cyrchoedd awyr a difrod yn y Ffilog gyda llawer o ddifrod lleol, ac yn anffodus nifer o farwolaethau. Roedd yna ddifrod hefyd i dai ar Heol Pant-bach ac yn Ty'n-y-Pwll Road. Roedd hyd yn oed crater bom ar y Comin. Awgryma Ceri fod bomwyr y gelyn yn dilyn llwybr Afon Taf, gyda thargedau yn cynnwys gwaith Melin Gruffudd a'r seidins rheilffordd yn Gabalfa.
Mae gennym ni ambell i stori o ddifrod y bomiau, ond rwy'n siŵr bod llawer mwy.
Mae pawb yn gwybod am yr Americanwyr oedd ar y Comin, ond mae'n syndod dysgu mai dim ond am ychydig fisoedd y buon nhw yma, yn y cyfnod yn arwain at gyrch D-Day. Mae cymaint o straeon, ac yn amlwg cafodd y milwyr Americanaidd dderbyniad da. Mewn gwerthfawrogiad, codasant y swm o £133-10s i dalu am blannu'r ddwy res o goed ar hyd y Comin. Mae llun hynod yn dangos Conswl America yn dadorchuddio plac coffa ar y 5ed o Fai 1948.
Roedd llawer o filwyr Americanaidd eraill wedi eu lleoli ym Mharc y Mynydd Bychan am gyfnod hirach. Mae ‘na ryw ffilm fideo o filwyr Americanaidd ar Heol Heathwood. Mae yna hefyd ffilm o 1941 o filwyr lleol/ gwarchodlu cartref yn gorymdeithio o gwmpas y pentref (ffilm BFI sy’n werth ei gweld).
Yn debyg iawn i'r Rhyfel Byd Cyntaf, tynnwyd rheiliau haearn a giatiau o lawer o dai, i’w toddi fel rhan o’r 'ymdrech ryfel'.
Parhaodd sinemâu Rialto a Tivoli ar agor gan ddangos ffilmiau gwladgarol (yn ogystal â'r 'westerns' diweddaraf o Hollywood). Dwi'n meddwl eu bod nhw'n dal i ddangos llawer o'r rhain nawr ar y teledu!
Ac wrth gwrs, ar ddiwedd y gwrthdaro gyda Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, roedd llawer o bartïon stryd yn y pentref. Gyda dogni'n dal yn ei le, rhyfedd gen i feddwl pa fath o frechdanau oedd ar gael! Oes gan unrhyw un straeon teuluol neu ffotograffau o'r partïon hyn?
Gyda diwedd y rhyfel, ac yn debyg iawn i'r Rhyfel Byd Cyntaf, dechreuodd y bobl 'deilwng' lleol chwilio am leoliad i godi neuadd goffa addas. Profodd hyn eto'n ddi-ffrwyth, a chytunwyd y byddai enwau arwyr coll yr Ail Ryfel Byd, gan gynnwys sifiliaid yn cael eu hychwanegu at gofeb y plwyf. Dywed Ceri wrthym fod y gofeb ddiwygiedig wedi ei dadorchuddio mewn seremoni ar 26ain Medi 1948.
Felly, y flwyddyn nesaf, yn ogystal â chanmlwyddiant y dadorchuddio gwreiddiol, bydd hi'n 75 mlynedd ers dadorchuddiad yr Ail Ryfel Byd Cyntaf.
Sori fod y blog yma wedi rhedeg yn ei flaen, ond mae cymaint i'w ddweud, a chymaint o gwestiynau sydd heb eu hateb o hyd. Os oes unrhyw ym ayn rhoi proc i’ch cof am straeon a adroddwyd ers talwm, cysylltwch â ni. Byddem wrth ein boddau'n clywed am eich straeon o'r cyfnod hwn i ychwanegu at ein gwybodaeth gynyddol am ein pentref. os oes unrhyw beth yn eich taro, rhowch wybod i ni.
English
Cymraeg