Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Robin Goch
Stori arall am ddyn lleol â stori anhygoel.
Oes rhywun wedi clywed am Charles Horace Watkins? Doeddwn i heb tan wythnos yn ôl, pan ddywedodd Derek o Bontypridd wrtha i amdano, a'i gysylltiad â'r Eglwys Newydd.
Ganed Charles Horace Watkins yn Fferm Mynachdy, ychydig i'r de o ffin y plwyf ym 1887, ac roedd yn ddyfeisiwr. Defnyddiai un o'r ysguboriau ar y fferm deuluol i gynnal ei arbrofion ac i wneud pob math o offer gwych.
Yn gynnar iawn yn y 1900au (pan oedd yn ei arddegau) dechreuodd arbrofi gyda'r syniad o hedfan â phŵer. O egwyddorion sylfaenol peiriant ysgafnach-nag-aer, dechreuodd Charles ddylunio ac adeiladu awyren. Cofiwch, roedd hyn cyn i unrhyw un hedfan â phŵer.
Adeiladodd fono-awyren gyda strwythur pren agored gyda gwifrau piano fel gwifrau tynnu. Roedd yr injan wedi'i gwneud gartref ac roedd propelor pren yn y blaen. Cafodd y corff ei beintio’n goch llachar felly fe'i galwodd yn Robin Goch.
Os yw hyn yn swnio'n ffansïol, mae pethau’n mynd yn rhyfeddach fyth. Cadair o gegin y fferm oedd sedd yr awyren, ac roedd yn bwriadu llywio gan ddefnyddio amserydd ŵy! Gwnaeth hyd yn oed osod 2 ddarn o linyn â phwysau yn hongian oddi tani er mwyn rhybuddio ei hun ei fod yn agosáu at y tir, er mwyn sicrhau glaniad diogel. Allwch chi gredu hyn?
Roedd y Brodyr Wright wedi llwyddo i hedfan i America erbyn 1903, ond roedd hynny mewn awyren anhygoel gyda sgîs oddi tani.
Erbyn 1908, roedd Charles wedi cwblhau ei fono-awyren ac (yn ôl Derek) fe esgynnodd o Waun Treoda, hedfan o gwmpas yr Eglwys Newydd am ychydig, ac yna glanio’n ddiogel. Ni allwn ddilysu hyn, er bod adroddiadau papur newydd o'r cyfnod yn honni ei fod wedi hedfan o gwmpas yr Eglwys Newydd, mor bell â Mynydd Caerffili, ac yna yn ôl eto. Os yw hyn i gyd yn wir, yna Charles Horace Watkins fyddai'r awyrennwr cyntaf yng Nghymru! Yn ôl pob tebyg, aeth ymlaen i fod yr awyrennwr cyntaf erioed i lanio yn y nos.
Pe gallem brofi hyn, byddai'n stori leol anhygoel. Ond, yn anhygoel, mae'n wir! Cynigiodd Charles ei ddyluniadau i'r llywodraeth ar y pryd (roedd hyn cyn y Rhyfel Byd Cyntaf wrth gwrs).
Mae'r llun du a gwyn isod yn dangos y Charles ifanc yn sefyll y tu allan i'r ysgubor ym Mynachdy gyda Robin Goch. Ar ôl ychydig flynyddoedd, craciodd bloc injan yr awyren ac ni allai Charles ei drwsio. Felly, roedd Robin Goch yn 'ddisymud', yn ôl yn yr ysgubor.
Goroesodd Charles y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, ac ym 1959, dechreuodd adeiladu replica o Robin Goch (mae rhai adroddiadau’n dweud iddo adfer yr awyren wreiddiol, nid ei hailadeiladu). Roedd gan arbenigwyr yr awyrlu ddiddordeb yn ei waith, a gofynnwyd a allai Robin Goch gael ei harddangos yn eu hamgueddfa newydd yn Sain Tathan. Cytunodd, a chafodd ei harddangos yno am nifer o flynyddoedd.
Ac yna beth? Wel, bu farw Charles ym 1976, ar ymylon cymdeithas i raddau, ond roedd wedi dyfalbarhau â’i ddyfeisiadau. Dywedodd wrth rai cymdogion ifanc am ddyfais RADAR gynnar yr oedd wedi’i gwerthu i’r Americanwyr (mae'n debyg bod awdurdodau Prydain eisiau ei throi'n gyfrinach ac felly osgoi ei dalu). Ar ddiwedd ei oes roedd ganddo sied a oedd yn llawn arbrofion anorffenedig, fel pelydryn laser a allai 'losgi' trwy waliau solet a soser hedfan yr oedd newydd ddechrau gweithio arni!
Am ddyn rhyfeddol!
Ond beth am Robin Goch, fe’ch clywaf yn gofyn.
Wel, trosglwyddwyd y replica i Amgueddfa Ddiwydiannol Abertawe pan agorodd ar ddechrau'r 2000au, ac erbyn hyn dyma’r eitem fwyaf poblogaidd yn y casgliad. Mae plant bach di-rif yn pleidleisio dros Robin Goch fel yr eitem 'orau' yn yr amgueddfa. Mae'n hongian o wifrau uchel uwchben yr arddangosfeydd eraill yn y brif neuadd. Mae'r ail ffotograff (lliw) yn dangos Robin Goch yn 'hedfan' uwchben yr arddangosfeydd eraill yn Abertawe.
Felly, pam nad ydyn ni’n gwybod mwy am y dyn arbennig hwn, a anwyd ychydig i'r de o'r pentref ac a hedfanodd ei fono-awyren o’r comin? Alla i ddim credu nad yw bechgyn a merched yn ein hysgolion lleol yn gwybod mwy am y dyn anhygoel hwn. Beth ydych chi’n meddwl?
O.N. os ydych chi'n pendroni sut y defnyddiodd Charles amserydd ŵy i lywio, mae'n eithaf syml. Pan fyddai’n hedfan, byddai’n gosod yr amserydd ŵy ar y dashfwrdd ac yn hedfan yn syth nes i'r tywod redeg allan. Yna byddai'n troi'r awyren naw deg gradd ac yn ailosod yr amserydd ŵy. Dau dro arall a byddai'n ôl lle y dechreuodd!
English
Cymraeg