Hanes Yr Eglwys Newydd Cymru
Iarll de Lucovich
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod am deulu'r Booker a'u cysylltiad â Melin Gruffudd, ond faint, tybed a ŵyr am yr Iarll de Lucovich, Antonio Leonardo Trifone a'i deulu a oedd hefyd yn byw yn yr Eglwys Newydd tua'r un cyfnod?
Roedd Antonio wedi'i eni i deulu nodedig iawn a oedd yn byw ar lannau’r Adriatig yn yr hyn sydd heddiw'n Montenegro, ac etifeddodd y teitl Iarll de Lucovich gan ei dad-cu. Wedi'i urddo’n farchog gan y Brenin Francis Joseph 1af o Ymerodraeth Awstria-Hwngari, daeth Antonio yn Farchog Urdd y Goron Haearn, yn farchog Urdd Franz Joseph y Cyntaf ac yn Llyngesydd ar Gorfflu Uchelwyr y Morlu Bacchese.
Ganwyd Antonio tua 1832 ond penderfynodd adael ei wlad yn 1848 i ddilyn proffesiwn masnachol yng ngwledydd Prydain a symudodd i Gaerdydd. Sefydlodd fusnes allforio glo a metel mewn partneriaeth â'i frawd a arhosodd yn Dalmatia, Antonio.
Priododd Iarll de Lucovich ag Isabella Maude Dawkin yng Nghaerdydd ym 1876 ac roeddent yn byw gyntaf yn Llandaf ac yna'n ddiweddarach yn Nhŷ'n-y-Parc yn yr Eglwys Newydd lle roedd ganddynt deulu o 4 o blant. Roedd Tŷ'n-y-Parc, sydd bellach wedi'i ddymchwel, yn fferm hynafol (dafliad carreg o orsaf betrol Tesco a gyferbyn â Thŷ'n-y-Parc Terrace) ond yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn amlwg yn lle cain iawn yn wir ac ystyriwyd ei fod yn 'Gartref Bonheddwr' gwych.
Mae Ernest Broad yn ei erthygl hoffus 'Whitchurch from End to End' yn disgrifio Tŷ'n-y-Parc fel hyn '..roedd porth bwaog mawr iawn o garreg. O'r porth bwaog hwn rhedai wal uchel cyn belled â Heol Pant-mawr. Arweiniai’r porth at ffermdy mawr iawn a stabl. Uchelwr o Rwsia (sic) oedd y tenant, Iarll Lucovitch. Gwelais yr iarll a'i chwaer yn marchogaeth â'r cŵn lawer gwaith a gwnaethant bâr gwych'. Efallai bod yr iarll yn un o'r boneddigion ar eu ceffylau gyda'r helfa y tu allan i'r Fox and Hounds yn y ffotograff lleol adnabyddus!
Mae'n amlwg bod yr iarll wedi gwneud yn dda iawn drosto’i hun, ac yn symud mewn cylchoedd mawreddog. Mewn erthygl o'r South Wales Daily News ar 8 Ionawr 1893 mae'n disgrifio sut y trefnodd i benddelw marmor ohono'i hun gael ei gerfio gan gerflunydd adnabyddus o Genoa a’r ffaith ei fod yn cael ei arddangos mewn siop ddrudfawr yng nghanol Caerdydd.
Nid oes ffotograffau o Dŷ'n-y-Parc, ond mae gennym ffotograff gwych o'r iarll ei hun, gyda’i farf bendigedig.
Ymddeolodd Antonio yn 1909 a gadael ei fusnes i'w fab. Yn anffodus, gwta 2 flynedd yn ddiweddarach bu farw Antonio ac mae wedi'i gladdu ym Mynwent Cathays. Mae ganddo gofeb drawiadol iawn yno gyda chroes garreg enfawr a phlinth boglynnog ag arno’i arfbais deuluol. Etifeddodd ei fab Oscar y teitl.
A oes unrhyw un yn gwybod mwy am y cymeriad lliwgar hwn, ei deulu neu am Dŷ'n-y-Parc?
English
Cymraeg